Haia, bebi ?

4 Ion

Y diwrnod o’r blaen (20 Rhagfyr) roeddwn i’n dyfynnu dwy linell allweddol o Cysgod y Cryman.  Dyma, hyd y gallaf gofio, ymddangosiad cyntaf y gair ‘haia’ mewn llenyddiaeth Gymraeg:

“Haia, baby?” meddai Terence.
“Haia, kid?” meddai Sheila.

Yr hyn sydd gen i heddiw yw’r modd y cofnodwyd y ddau gyfarchiad. Cymreigiwyd yr ‘haia’ y ddau dro, ond nid y ‘baby’ na’r ‘kid’.

Ac fe gofiwn linell adnabyddus iawn arall, sef yr hyn a ddywedodd William Jones (t. 36) yn hytrach na ‘cadw dy sglodion felltith’. Fe gymeigiwyd y ‘blydi’ ond nid y chips. A oedd rhyw reddf yn dweud wrth yr awdur fod y naill air ‘wedi cartrefu’ a’r llall yn dal yn estron?  (Ac mae problem sain y ch Saesneg gyda ni bob amser.)

O leiaf oddi ar y diwrnod y torrodd Traethydd Twm o’r Nant ar draws Syr Tom Tell Truth gan ofyn ‘What is this gibberish, foolish fellow?’, ac ennyn yr ymateb parod ‘Dam i sil Satan, dyma Sais eto’, mae’r Gymraeg mewn stori a drama wedi gorfod rhoi peth lle i’r iaith fain.  Sut i’w chofnodi, dyna’r cwestiwn, ac fe gafwyd amrywiaeth, a chymysgedd, o atebion.  Y tri dewis yw: (a) gadael y Saesneg heb ei chyffwrdd, (b) italeiddio’r Saesneg, (c) trawsgrifio’n ffonetig, sef yr hyn a fyddai’n rhoi inni ‘haia, bebi?’, ‘haia, cid?’ a ‘cadw dy blydi tships’.

Ceir cymhariaeth ddadlennol rhwng Wil Bryan a Thomas Bartley yn nofelau Daniel Owen. Mae Wil yn rhugl yn Saesneg, ac fel bachgen bydol-ddoeth yn ei olwg ei hun, mae’n awyddus i ddangos hynny. Siarad macaronig, ac italeiddio, felly:

However i ti, mi weithies fel black 

Y gaffer acw

Mi fyddai yn all right

Yr hen Waterworks

Cael  y kick-out

Mi gafodd Wil ei revenge 

Heb ddeud good-bye wrth dy hen chum

Postage stamps, humbug, quite so, true to nature … &c &c, ac weithiau frawddeg gyfan neu ddwy, ac italeiddio:

 So here endeth a true account of the clock-cleaning.  But wait a bit.

Mae Thomas Bartley hefyd weithiau fel petai’n cofio mai gair benthyg sy ganddo, er nad yw’r ymorchestu yn y gair fel y gwna Wil.  Y troeon hynny mae Daniel Owen yn italeiddio:

 Champion o bregethwr

I neud mistake, wyddoch

Yn waeth ych off na neb

Tydw i ddim llawer o judge

 Most the pity 

Llawn cyn amled, os nad yn amlach, mae’r geiriau a’r ymadroddion ‘wedi eu cymathu’ chwedl yr ieithyddwyr.  Mae Thomas yn cymryd mai Cymraeg ydynt, a Daniel Owen yn cofnodi fel ag i gyfleu hynny:

Cnegwarth o siffeta, cnegwarth o ddrops y cryd melyn, a chnegwarth o denti riwbob

Tŷ reit spectol yn Lerpwl

I gael profijiwns i’r ened

Ym matel Waterlŵ

Y pethe mwya sumpl

Oes gynnoch chi rw aidî?

Ac wrth gwrs ni bu ‘twbi shŵar’ erioed yn ddim ond Cymraeg.

Down ymlaen at awduron canol yr ugeinfed ganrif.  T. Rowland Hughes eto, sgwrs y bechgyn bach a’r rheolwr o Sais ar ddechrau Chwalfa :

“Hm. Are you his brother?”
“Essyr,” atebodd Gwyn.
“In school, I suppose?”
“Essyr. But the school will be broken in about a month …”
“Broken?”
“Essyr, for the holides, Syr.”

Mae Gwyn yn medru Saesneg yn eithaf da, er nad yn berffaith.  Ond gair Cymraeg yw ‘holides’ iddo, a dyma gyfleu hynny.  Am yr ‘essyr’, mae wedi ei hanner-Gymreigio, gan gadw’r ddwy s;   rhyw air wedi ei ddysgu yn yr ysgol ydyw, heb feddwl yn galed iawn i ba iaith y mae’n perthyn, fel yr oedd ‘leins’, ‘prêrs’, ‘tebls’,  ‘homwyrcs’, ‘ffôld âms’, ‘diténd’ (= detention), ‘pôitsh’ (= porch), ‘poitris Susnaig’  ac amryw eraill i ni, blant y pedwardegau mewn cymdeithas nid mor wahanol i’r un yn y nofel.

Wedi iddo fynd i’r Deheudir mae’n debyg y tyr y Saesneg yn amlach ar glust William Jones, a bod yn rhaid iddo yntau ymdopi mwy â hi. Yn gyffredinol, cofnodir Saesneg Bryn Glo yn uniongyrchol, heb italeiddio:

“Why don’t you go to ’er ’ouse ’stead of sendin’ plicemen to a ’spectacle ’ome … ?”

Ond defnyddir y ffonetig ar y naill law a’r italig ar y llall i gyfleu graddau o Gymreigrwydd ymhlith y siaradwyr:

“Sid Jenkins, Ynys-y-gog,” meddai ei ryferthwy o lais. “Audition. Six-thirty.”

“William i fod ar y weiarles, Meri!”

A dyma sgwrs William â dwy wraig yng Nghaerdydd:

“’Arf past one,” meddai’r hynaf o’r ddwy, gan chwilio am allwedd y drws.
“When will the Manijar be here?”
“Quarter parst.”

Mae William yn medru Saesneg, ond fe ddywed y ‘Manijar’ rywbeth amdano. Greddf.

Yn yr un genhedlaeth, cofnodwr perffeithgwbl arall ar dafodiaith yw Islwyn Williams, yn ‘Cap Wil Tomos’ a storïau eraill am gymdeithas weithfaol Cwm Tawe.  Italeiddio y mae, lle tery’r Saesneg i mewn:

“Fe etho tsha thre’r nosweth ’ny, a chyn tynnu’n nghot fawr, dyma fi’n straight at y cwbwrt, a chyn    bo ti’n cal amser i glapo dy lyced, dyma’r whole lot, y bôrd a’r draffts bob un i genol y tân! ’Wharies i byth gêm o ddraffts wedyn!”

Fel gyda Thomas Bartley, mae rhywbeth yn dweud wrth y siaradwr pa air sydd wedi ‘gwneud ei wely’ yn y Gymraeg a pha air sy’n dal yn fenthyg, ac mae’r defnydd dethol o’r italig yn cyfleu hynny’n ddigon pwrpasol.

Byd cwbl Gymraeg sydd i Un Nos Ola Leuad.  ‘Seusnag run fath â Chymraeg oedd Huws Ciwrat yn siarad.’ Mae tipyn o lediaith gan Ceri Hogan Canon ‘ar ôl bod i ffwrdd mewn ysgol yn Lloegar’, ond nid oes dim o’i le yn ramadegol ar ei Chymraeg. Trawsgrifio’n gyson iawn yw’r rheol felly: Blŵ Bel, colar starts, Jyrmans, ficrej, olreit, myshirŵms, ryffarî, magu mysls, yn slo bach, Ji yp Pol, ac – ie’n wir – tsips.  Mae ambell eithriad: gallasai tŷ Defi Difas fynd yn ‘Snodn Fiw’, ond arhosodd yn ‘Snowdon View’; ac fel yn ‘cym on the Celts’ ni Chymreigir ‘the’ bob amser.

Deudwr mwyaf chwarter canrif olaf yr hen ganrif oedd Mr. John Ifans, Dre-fain, a’i grewr W.S.Jones yw’r cysonaf o’r trawsgrifwyr:

Tw Hw It Mê Consyrn

‘Wi onli cetar ffor ddy Mesns,’ ges i

E ffrend indîd us e ffrend in nîd

Fel Wil Bryan mae Ifans yn meddwl ei fod yn dipyn o Sais, ond eto mewn ffordd wahanol. Os nad yw geiriau Saesneg Ifans wedi eu cymathu eisoes, mae ef fel petai’n eu cymathu yn y fan drwy rym ei gymeriad:  embaras, fyisi fyrsi, busnas man, cyt ddy comics, conffiws, ffyinansi,  snêc in ddy gras, pyblic nymbar wan, pob sunsuriti, dden and ddêr, myidn foiej, fy handi ciap, y Wyiping Wylo … ac allweddeiriau eraill lawer.  Ni bydd yn defnyddio italig ond i bwysleisio:

Ryff pasej, hwnna ydi o, ryff pasej.

Peth arall am Ifans, nad ydym wedi ei gwrdd o’r blaen, yw mai Malapropiwr ydyw, yn mwrdro’r iaith Saesneg drwy gamynganu, drwy gamgofio ymadroddion a thrwy fathu ei ymadroddion Saesneg ei hun:   ffanasdig, sgersli bilîf, teligrafftio, musyri tŵr, Shyiloc Hôms, anti ffrost (= anti-freeze), lac o dignit, England Refeniw, fflysh twyilyit, Biwtini on ddy Bownti.   Un peth sy’n sicr, ni welwn ei fath eto.

Cyn gadael Wil Sam, rhaid cael dyfynnu darn dialog byr o Gwalia Bach.   Ni chyhoeddwyd erioed mo’r ddrama, ond rwy’n sicr fy nghof mai fel hyn yr oedd y sgript:

FISITOR:   The bull has broken through again, Mr. Owen!
ROBAT neu WILLIAM:   Not bwl. Heffar. No denjar. Nefar tylcin.

Fel y down at ein cyfnod ni, mae gofynion a phroblemau newydd. Un ohonynt yw cydnabod oll-bresenoldeb y Saesneg, peth y mae bron yn amhosibl ei osgoi heb un ai (a) fynd yn ôl mewn hanes neu (b) fynd i wlad arall, fel y gwna Saunders Lewis yn Gymerwch Chi Sigarét? neu William Owen Roberts yn Petrograd.  Wedyn, yn gysylltiedig, mae cyfleu Cymraeg y dywedai llawer ei fod yn ‘sâl’.

Mae dau fath o ‘sâl’, ac mae ieithyddiaeth yn gwahaniaethu’n glir rhyngddynt.  (a)  Ansafonol (substandard) yw’r naill: nid yw’n unol â rhyw safon a osodir gan draddodiad llenyddol neu (yn Lloegr yn arbennig) gan ddosbarth cymdeithasol, ond mae’n cyfleu ystyr yn burion, ac fe’i defnyddiwyd yn helaeth gan Dickens ac awduron eraill yng ngenau gwerinwyr ac i greu digrifwch.   (b)   Anghywir yw’r llall, a hanfod hwn yw methu â chyfleu ystyr.  Anghywir, a dyna ben arni, yw ‘doeddwn i heb ymolchi’ lle golygir ‘roeddwn i heb ymolchi’ neu ‘doeddwn i ddim wedi ymolchi’.  Anghywir yw ‘y dyn a brynodd car’ lle golygir ‘y dyn a brynodd gar’.  Gall awdur sgrifennu pethau anghywir am un o ddau reswm; (a) i gyfleu bod y siaradwr yn anghywir, neu (b) am na ŵyr yn amgenach ei hun.

Wrth ystyried llenyddiaeth heddiw, â’r ansafonol y mae a wnelom yn amlach na pheidio, er y trewir ar beth anghywirdeb hefyd, a hwnnw’n anesgusodol.   Cryfder y Gymraeg, ond ei phroblem yr un pryd yn union, yw ei natur ffonymig, y ffaith fod un symbol yn cynrychioli un sain bron yn ddieithriad, ac y gellir felly gyfleu’r ynganiad sain am sain.  Wrth ddarllen geiriau Sam Weller neu Bill Sykes, rhaid inni ddychmygu llawer o’r ynganiad, er nad y cyfan, drwy ddwyn i gof y dafodiaith. Ond gall yr awduron Cymraeg yr wyf wedi eu henwi, a’u holynwyr heddiw, roi inni’r sain bron yn ddi-feth, ac maent yn gwneud.  Mewn dialog, mae’r cywirdeb hwn yn gweithio, ond yn y naratif (onibai fod hwnnw’n fonolog fel yn Un Nos Ola Leuad)  gall fynd yn fwrn ac yn drwm ar y llygad, a dyna pam, yn ddoeth iawn, y mae’r papurau bro i gyd yn dewis Cymraeg safonol a gweddol lenyddol fel eu cyfrwng.   Rwyf wedi trafod hyn o’r blaen ar y blog, e.e. 19 Tachwedd 2012 a 28 Chwefror 2014.

Advertisements

4 Ymateb to “Haia, bebi ?”

  1. sionyn Ionawr 5, 2015 at 12:16 pm #

    Difyr iawn Dafydd. Diolch.

    Hoffwn holi a yw rhywbeth yn cael ei gymathu i’r Gymraeg os yw wedi ei ynganu ag acen Gymraeg gret? Hynny yw, petai rhywun yn dweud y man eiriau Saesneg yma ag acen Seisnig neu Saesneg safonnol, ydy hynny’n gwneud y cymhathiad yn lai o gymathiad?

    Beth, er enghraifft, petai Ifans y Tryc yn ynganu’r geiriau Saesneg ynafel Sais?

    … ac i newid y pwnc – ydych chi am fynd i gyfarfod Dychmygu Cymru ddydd Sadwrn yma yng Nghaerdydd? http://culture.research.southwales.ac.uk/events/2015/jan/10/imagine-wales/

    • glynadda Ionawr 5, 2015 at 10:23 pm #

      Cwestiwn 1. Cwestiwn teg iawn, Siôn. Rhaid derbyn fod gwahaniaeth rhwng (a) gair benthyg sydd wedi ‘gwneud ei le’ yng ngolwg y llefarydd, fel mai prin y mae hwnnw’n cofio mai benthyg yw, a (b) gair a gydnabyddir gan y gymuned ieithyddol drwyddi draw a chan y cyrff sydd — efallai o ddiffyg cystadleuaeth — yn gweithredu ar ei rhan. O’r geiriau gan Caradog Prichard a restrais, tybed pa rai a dderbynnid gan eiriadur Cymraeg heddiw? ‘Colar starts’, mae’n debyg, rhyw ffurf ar ‘myshir^wms’ a rhyw ffurf ar ‘ryffarî’? Ac o blith geiriau Ifans, baras’ efallai? Oes, mae a wnelo’r ynganiad lawer â’r peth. Rwy’n cytuno: o’i ynganu fel gan Sais, fe â’r gair yn ôl yn Saesneg. A dyna’r pwynt am Wil Bryan. O’r geiriau ganddo a restrais mae dau y gellir dweud eu bod yn gwbl gymathedig ers tro byd, sef ‘giaffar’ a ‘hymbyg’; Ond fel geiriau Saesneg yr oedd Wil yn eu golygu.
      Cwestiwn 2. Na, allaf i ddim dod.

      • Eifion Glyn Ionawr 6, 2015 at 9:55 am #

        Diddorol ac yn ysgogi rhywun i feddwl – fel arfer. Camp fawr y Saesneg medden nhw ydi mai bastadiaith ydi hi sydd wedi traflyncu talpiau o ieithoedd eraill i’w chyfansoddiad heb adael i hynny lurgunio ei chystrawen a’i nodweddion ei hun. Ac eto mae’n siwr gen i fod llawer o’r slang Americanaidd, er enghraifft, yn gwbwl anghydnaws ac ethos ‘Saesneg cywir, clasurol’. Er hynny, efo grym arferiad, mae slang felly yn dod yn rhan naturiol o’r iaith ac yn cael ei gynnwys maes o law yng Ngeiriadur Rhydychen a’i debyg. Os ydi unrhyw iaith yn mynd i oroeosi mae’n rhaid iddi esblygu yn y bôn yn toes?

        Ynglŷn â’r sain ‘ch’ yn Saesneg, mae un o’ch cydweithwyr gynt yn y coleg ym Mangor, Gwyn Thomas, wedi hen fabwysiadau’r ‘tj’ fel llythyren newydd yn y wyddor Gymraeg. Ydych chi’n bleidiol i hynny? Ac oes angen llacio rhywfaint ar reolau erill fel treiglo enwau llefydd ynteu jest gadal i dreigl amser wneud y job droston ni?

  2. glynadda Ionawr 6, 2015 at 11:36 am #

    Diolch Eifion Glyn. Diddorol eto, (1) Un o gryfderau mawr y Saesneg, a sail ei llwyddiant fel ‘bastardiaith’, yw bod canran mor uchel o’i siaradwyr yn bobl uniaith. Am hynny mae’n gallu traflyncu a chymathu heb golli tir. (2) Ystyr ‘slang’. Mae slang yn fath neilltuol o iaith anffurfiol, ac mae elfen greadigol ynddo; mae’n ymgais i fod yn glyfar neu ddigri. O’r siaradwyr a ddyfynnais i, Wil Bryan yw’r un sy’n siarad slang. Enghraifft glasurol arall yw Bertie Wooster. Roedd gan Forrisiaid Môn hefyd eu slang, sef eu ffurfiau eu hunain ar eiriau a’u termau eu hunain am rai pethau, a’u llysenwau ar bawb. (3) Ia, tjips. Dydw i fy hun ddim wedi dechrau arfer y tj, oherwydd rwy’n dal i glywed y ddwy sain ar wahân. Ac eto, tsips, tships … does yr un yn hollol foddhaol rywsut. ‘Tsips’ sy gan Caradog Prichard, a byddai hynny’n ddigon naturiol i genhedlaeth fy nhad — ‘wats’, sy wedi mynd yn ‘watsh’ gen i, ac yn ‘wotsh’ gan do iau eto.

Gadael Ymateb

Rhowch eich manylion isod neu cliciwch ar eicon i fewngofnodi:

WordPress.com Logo

You are commenting using your WordPress.com account. Log Out / Newid )

Twitter picture

You are commenting using your Twitter account. Log Out / Newid )

Facebook photo

You are commenting using your Facebook account. Log Out / Newid )

Google+ photo

You are commenting using your Google+ account. Log Out / Newid )

Connecting to %s

%d bloggers like this: