Breuddwyd tyrcwn wrth eu hewyllys

9 Ion

Tebyg y bydd darllenwyr Y Cymro heddiw wedi gweld llythyr dan y pennawd ‘Lefelau newydd o wallgofrwydd’.  Sôn y mae am rai o’r cynlluniau hunllefol loerig sydd, mae’n ymddangos, yn cael eu hystyried mewn rhai cylchoedd gyda golwg ar ddyfodol ein colegau a’n prifysgolion yng Nghymru.   Gallai’r llythyrwr, ar ôl darllen yr un papur y bore ’ma, yrru llythyr arall dan yr un pennawd yn union; ond rhag poeni ffyddloniaid y Cymro mewn dau rifyn yn olynol, dyma ddweud ar yr hen flog yr hyn a barodd iddo dagu ar ei rawnfwyd boreol.

‘Prifysgol yn annog myfyrwyr i bleidleisio’ yw pennawd y stori,  ac adroddir:  ‘Mae Cyngor Gwynedd a Phrifysgol Bangor wedi cynnal ymgyrch ar y cyd i geisio annog myfyrwyr y brifysgol i gofrestru i bleidleisio.’ Pleidleisio yn wardiau Bangor ac yn etholaeth Arfon yw’r hyn a olygir. Yna dyfynnir y Cynghorydd Mair Rowlands, Aelod Cabinet Plant a Phobl Ifanc Cyngor Gwynedd ac aelod lleol Menai, Bangor:   ‘Mae cofrestru i bleidleisio yn angenrheidiol ac yn sicrhau eich bod yn gallu lleisio’ch barn am faterion y dydd.’

Gallaf, i raddau, ddeall pam y mae Prifysgol Bangor yn annog fel hyn, a gallaf goelio fod Cyngor Gwynedd wedi colli’r trywydd yn y mater hwn fel mewn rhai materion eraill.  Ond pam ar wyneb y ddaear fawr y dylai Plaid Cymru yn benodol  ei chysylltu ei hun â’r anogaeth?

Oes eisiau dweud? Wel oes mae’n amlwg!  Po fwyaf a fydd yn cofrestru o blith yr hyn a ddywedir sy’n 15,000 o fyfyrwyr Bangor, mwyaf o bleidleisiau i’r blaid fwyaf tebyg o guro Plaid Cymru y troeon nesaf.

Oni chlywyd am etholaeth o’r enw Ceredigion?   Yno yn etholiad diwethaf San Steffan, fel mewn rhai seddau eraill megis Canol Caerdydd a Chaergrawnt, fe ddaeth y myfyrwyr allan yn eu miloedd i gefnogi’r Democratiaid Rhyddfrydol, a oedd bryd hynny yn addo ar eu llw dorri ffioedd.  Yn gwbl unol â thraddodiad y blaid honno, torrwyd yr addewid yn hytrach. Pwy gaiff gefnogaeth myfyrwyr Aber a Llanbed y tro nesaf? Yr un blaid eto, synnwn i damaid, am mai hi yw’r blaid Brydeinig nesaf at law. Go brin mai Plaid Cymru.

Nid oes angen edrych ymhellach na Bangor.  Symudodd Neuadd John Morris-Jones o Ward y Garth i Ward Menai.  Enillodd Mair Rowlands sedd i’r Blaid ym Menai, a chollwyd sedd y Garth.   Onid yw’r foeswers yn ofnadwy o syml?

Dylai myfyrwyr bleidleisio gartref yn hytrach na chael dylanwadu am flynyddoedd i ddod ar fywyd ardal, sir a gwlad lle nad ydynt ond adar tramwy.  Ac aralleirio’r hen ddihareb, ‘Câr dy fro a fotia ynddi.’ (Gobeithio nad oes neb dan yr argraff fod y Cymry’n fwyafrif ym Mhrifysgol Bangor. Neu’n lleiafrif sylweddol.  Neu’n elfen ac iddi unrhyw ddylanwad.)

Nid wyf am fod yn gwbl sinigaidd yn mater hwn. Efallai fod, rywle ym meddylfryd trwch y myfyrwyr, ryw waelod o ddelfrydiaeth neu synnwyr tegwch y gellid ei gyrraedd, ie hyd yn oed gan blaid genedlaethol Gymreig pe gallai hi ddangos ei bod yn ddiffuant o blaid mwy o gyfiawnder yn ein cymdeithas eithafol anghyfartal ac yn her wirioneddol i’r Sefydliad Eingl-Brydeinig.  Ond rhaid gofyn yn ddifrifol a yw Plaid Cymru heddiw yn ffitio’r disgrifiad hwn.  Gellid dyfynnu tystiolaeth hefyd mai pleidleiswyr ‘Na’ oedd mwyafrif mawr y myfyrwyr dŵad yn refferendwm yr Alban.  A gwir ysywaeth, gydag ychydig iawn o eithriadau gwiw, mai pellaf i’r Chwith, mwyaf gwrth-Gymreig.

Os yw’r hen G.A. yn hyn o beth yn gwbl annheg neu yn llwyr gamddarllen arwyddion yr oes, mae croeso i unrhyw un anfon i mewn yn esbonio pam.  Rwyf yn addo cymeradwyo POB ymateb a ddaw i law ond iddo beidio cynnwys enllib.

Yn y cyfamser, nes fy ngoleuo, daliaf i feddwl ein bod yn gweld yma nid yn unig dyrcwn yn fotio dros y Nadolig, ond tyrcwn yn deisebu am ddod â’r Nadolig yn nes.

8 Ymateb to “Breuddwyd tyrcwn wrth eu hewyllys”

  1. gaynor Ionawr 10, 2015 at 11:29 am #

    Ie wir, erthygl ddifyr, cefais brofiad tebyg tra’n gweithio yn y Cynulliad i “outreach”. Cafodd dyrned o weision sifil ifanc newydd ddod mas o’u cewynnau y syniad gwych o dargedu pobl ifanc rhwng 18 – 25 oed gorllewin Abertawe gan bod y niferoedd pleidleiso o fewn y grwp demograffeg yma yn isel iawn. Roeddent wedi gwneud gwaith ymchwil manwl i hyn. Eglures i mai y rheswm bod y nifer yn is nag arfer oedd bod coleg prifysgol yn yr ardal honno a buasai yn wastraff arian ac egni cwrsio myfyrwyr oedd a dim diddordeb mewn gwleidyddiaeth “lleol” ac yn hytrach na chanolbwyntio ar y brifysgol y dylid targedu y bleidlais ddomestig o fewn y categori oedran a thargedu myfyrwyr o fewn colegau addysg bellach yr ardal, gan mai pobl llel oeddent. Wel dyna fi yn cachu ar fy tsips, dyna beth oedd joc o adran !

    • glynadda Ionawr 10, 2015 at 11:42 am #

      Da iawn Gaynor, Dyna’r union fath o beth. Yn Abertawe mae’n debyg na byddai fawr o wahaniaeth i’r canlyniadau, ond yn Arfon fe allai fod gwahaniaeth mawr, — fel a welwyd eisoes yng Ngheredigion.

  2. Ann Corkett Ionawr 10, 2015 at 11:55 am #

    Yn UNION yr hyn a feddyliais i wrth ddarllen yr erthygl – gan gynnwys gofyn pam mae cynghorwyr Gwynedd yn cefnogi hyn.
    Beth ellir ei wneud? Canfasio’r myfyrwyr a thaflen (ayb) amhleidiol yn tynnu sylw at effeithiau annheg pleidleisio yma ac yn gofyn iddynt bleidleisio gartref? Gofyn i’r fath anogaeth fod yn rhan o unrhyw ymgyrch i’w cael i gofrestru? Sut mae cyrraedd at y myfyrwyr ddyddiau hyn pan nad oes modd hyd yn oed mynd i mewn i neuadd i osod poster? Rhaid bod ‘na gamau ymarferol gan fod pobl ifainc fel arfer (wel, pan oeddwn i’n ifanc, o leiaf) yn gredwyr mewn “chwarae teg”.

    • glynadda Ionawr 10, 2015 at 12:06 pm #

      Yn union, Ann. Ie, be sy’n bod ar gynghorwyr Gwynedd? Ar ba blaned maen nhw’n byw? Pam na welan nhw yr hyn sy’n synnwyr cyffredin i bron bawb o’r rhai sy wedi pleidleisio iddyn nhw? Yr unig ward ym Mangor lle daw unrhyw les o gofrestru myfyrwyr yw hon lle rwyf i’n byw (Menai). Ym mhobman arall fe wna fawr ddifrod.

      • Ann Corkett Ionawr 10, 2015 at 7:13 pm #

        Fasai ots gennych chi taswn i’n cyfeirio sawl un ar Facebook at y blog hwn – a hefyd anfon y cyfeiriad at rai o Gynghorwyr Gwynedd yn y dref, gan ofyn a wnaethon nhw bleidleisio dros hyn a beth yw eu barn? Mae Bruce yn ychwanegu y bydd newidiadau yn y rheolau ynghylch amseru etholiadau yn ei gwneud hi’n debygol y cynhelir *pob* etholiad seneddol yn ystod tymor y brifysgolion.

  3. glynadda Ionawr 10, 2015 at 8:08 pm #

    Ar bob cyfri. Bûm yn meddwl, er enghraifft, petai etholiad yn digwydd cael ei gynnal yn ystod gwyliau’r colegau, y gwnâi wahaniaeth mawr yng Ngheredigion. Ond nid hynny a fydd, mae’n amlwg.

  4. Ann Corkett Ionawr 10, 2015 at 9:20 pm #

    Wrth feddwl, o gael rhywun yn codi’r cwestiwn, “A ddylid annog myfyrwyr i bleidleisio?” byddai’n anodd iawn gwrthod! Ond dylid eu hannog i gyd hefyd i geisio am bleidlais trwy’r post er mwyn bod mewn sefyllfa i bleidleisio gartref – a bydd rhaid gwneud hynny dipyn cyn yr etholiad.
    Sylwaf, gyda llaw, y digwyddai’r annog yn ystod wythnos y glas “yn ddiweddar” (yn ol Y Cymro) – sef ddiwedd mis Medi. Od.

    • glynadda Ionawr 11, 2015 at 11:43 am #

      Dyna fyddai’n gwneud synnwyr.

Gadael ymateb i glynadda Diddymu ymateb