Y Genedl Goll

19 Ion

Wrth ymgolli mewn hen destunau mae’r hen G.A. wedi bod yn esgeuluso llenyddiaeth Cymru heddiw yn enbyd. Ond dyma dalu sylw pan welais nofel Saesneg am ardal fy magwraeth mewn cyfnod a gofiaf yn dda.  A Welsh Dawn gan Gareth Thomas yw honno, ac fe’i cyhoeddir gan Y Lolfa, pris £9.95.

O ran plot mae’n cydredeg hynt a helynt dyrnaid o deuluoedd dychmygol a hanner-dychmygol (os iawn yr wy’n dehongli) o Ddyffryn Nantlle a chylch Caernarfon ynghyd â gweithgarwch rhai o wleidyddion a phobl gyhoeddus Cymru ddiwedd y 1950au.

Nid wyf am ei hadolygu tu hwnt i ddweud ei bod yn ein dwyn yn ôl, mewn modd argyhoeddiadol a chredadwy gan mwyaf, i fyd yn cynnwys Vimto, Brylcreem, Austin Cambridge, trywsus bach mawr, Yn ôl i Leifior, Tommy Steele, James Dean, helynt Suez, ôl y bomio yn Lerpwl, y rhesi bysus ar Faes Caernarfon, tai bwyta Harper’s a’r People’s yn y dref, a’r hen Plaza, Pen-y-groes.  Gallwn, petai o unrhyw bwys, grybwyll ambell beth sy’n wahanol yn fy nghof i; ond gwell cofio bob amser gyngor un o feirdd ein Dyffryn, mai ‘Nes na’r hanesydd at y gwir di-goll / Ydyw’r dramodydd, sydd yn gelwydd oll.’  Ac o fewn yr egwyddor ddiogel Aristotelaidd yna gallwn yn sicr gynnwys ‘y nofelydd’ hefyd.

Yn hytrach nag adolygu, y cyfan a wnaf yw cofnodi ychydig ymateb i ddau fater sy’n cael lle amlwg yn y stori.

1.     Helynt Tryweryn.   Adroddir yn fyw a chywir gwrs digwyddiadau hyd at ddydd Iau Eisteddfod Genedlaethol Llangefni, 1957. Bydd llawer fel finnau yn cofio’r diwrnod pan benderfynodd Henry Brooke, y Gweinidog Materion Cymreig, y byddai’n ddiogelach iddo gadw draw o’r Eisteddfod ac yntau newydd selio tynged Cwm Tryweryn.  Ni allaf eto beidio â meddwl mai dyna’r wythnos, mai dyna’r diwrnod yn wir, y dylai pobl Capel Celyn fod wedi gwneud y peth amlwg, neu o leiaf y peth a ddaeth yn amlwg i bobl Cwm Gwendraeth ymhen wyth mlynedd wedyn, sef cau’r giatiau.  O ddal y llanw yr wythnos honno byddent wedi ennyn cefnogaeth gref,  a hwyrach y buasai pethau’n dra gwahanol yn Nhryweryn a thrwy Gymru.  Pam na wnaed hyn?  Plaid Cymru sy’n cael y bai ran amlaf. Ond wn i ddim …

2.    Mudiad a rali di-waith Dyffryn Nantlle, 1958.  Pan ddywedodd ‘You’ve never had it so good’ yr oedd yr hen rôg MacMillan yn llygad ei le.  Cyfnod oedd y 1950au a welodd welliant cyson yn ansawdd bywyd y rhan fwyaf o bobl gwledydd Prydain; ninnau, y plant a ddaeth i oed tua diwedd y degawd, fu’r genhedlaeth fwyaf ffodus erioed o Gymry o ran manteision a chyfle. Ond yr oedd llecynnau lle nad oedd pethau lawn cystal, ac un o’r rheini yn sicr oedd Dyffryn Nantlle yn sgil enciliad cyflym diwydiant y chwareli.  Cododd mudiad o blith dynion di-waith a’u teuluoedd a’u cefnogwyr i geisio argraffu ar yr unig lywodraeth oedd gennym, llywodraeth Prydain, fod gofyn gweithredu i wella pethau.  Uchafbwynt yr ymgyrch oedd gorymdaith o Ben-y-groes i Gaernarfon ar ddydd cyntaf Chwefror 1958 yn cael ei dilyn gan rali yn hen bafiliwn mawr y dref.

Ie, y placardiau. ‘Amynedd Job – ond beth am job?’  ‘Torcha’th lewys trosom, Lewis’ – sef siars i D.V.P.Lewis, newydd ei greu yn Arglwydd Aberhonddu a’i benodi’n Weinidog Gwladol  i helpu Henry Brooke.  Hefyd ‘Whitehall see our black hole’, ‘Bread before Beauty’, ‘Pylons before Poverty’ ac ‘Is this the Beauty of Wales?’  Bwgan mawr rhai o arweinwyr y mudiad, ac yn sicr y gwleidyddion Llafur ar y pryd, oedd Cyngor Diogelu Harddwch Cymru a oedd yn wrthwynebus  i rai datblygiadau diwydiannol  megis atomfa Trawsfynydd a’i chwaer-na-ddaeth yn Edern.  Enynnodd rhai o’r sloganau ddirmyg chwyrn Saunders Lewis, a fynegwyd ganddo mewn araith ddadleuol iawn ddydd Iau Eisteddfod Genedlaethol Glynebwy. Hynny hefyd yn atgof byw.

Er efallai heb lawn gyd-fynd â phob un o’r placardiau, ac er dechrau magu rhyw radd o sgeptigiaeth tuag at y rhethreg Lafuraidd a soniai am fyrddau gweigion, gruddiau llwydion ac esgidiau tyllog, yr oedd rhai ohonom yn nosbarthiadau hŷn Ysgol Dyffryn Nantlle yn sicr bod yn rhaid cefnogi’r mudiad.  Fe gerddodd rhai ohonom gyda’r orymdaith o Ben-y-groes.  Yn gyfaddawdwr fel arfer roeddwn i yn un o’r rhai a ymunodd yn ‘Yr Eagles’ (fel y byddwn yn dweud) yn nhop Stryd Llyn, ac ymdeithio ar ôl band Trefor i dderbyn croeso tyrfa fawr ar y Maes.  Bydd fy nghyfaill Ffestin, os yw’n darllen hwn yn Awstralia, yn cofio’r diwrnod yn dda iawn. A gallai Geraint Jones (Twm), Trefor, adrodd wrthych am y tipyn cythraul bandiau a gododd yn ystod y pnawn.

Wedyn i’r Pafiliwn.  Y defnydd cyntaf a wnaed ohono ers cyn yr ail ryfel, a’r achlysur cyhoeddus olaf cyn y cyfarfod i’w gau ddechrau’r chwedegau.  (Cof am hwnnw hefyd.) Yr oedd yr orielau bellach yn rhy beryglus i’w defnyddio, ond llanwyd y llawr gan dyrfa o ryw saith mil.  Rhoddwyd allan bennill cyntaf yr emyn ‘Duw mawr y rhyfeddodau maith’. Dim llyfr na thaflen, pawb yn ei wybod. Pawb ohonom a oedd yno, fe gawsom ryw flas o beth fuasai cyfarfodydd mawr dyddiau Lloyd George neu rali croesawu ‘Hen Hogia’r Ysgol Fomio’ fel y cofiaf gyfeirio atynt yn aml.  Fe gofiwn gadeirio bywiog Hugh Jones, araith danllyd Tom Jones, Shotton, a neges fer Tom Nefyn, a alwyd ymlaen ar fyr rybudd wedi i rywrai sylwi ei fod yno  – neu dyna a ddywedwyd o’r llwyfan ar y pryd; mae’r hen sgeptig yn amau elfen o ragdrefnu.  O Borthi’r Pum Mil y cymerodd ei destun, a’i fyrdwn,  ‘Bwyd yn gynta, pregath wedyn. Bwyd yn gynta, pregath wedyn’, gyda’r dull o ailadrodd y clywais wedyn ei fod yn nodweddiadol ohono. Yr oedd y pleidiau’n ddigon cytûn, a rhoddwyd croeso caredig i araith Peter Thomas, A.S. Ceidwadol Conwy. Ond yna daeth twrn Goronwy O. Roberts.  Siglo’r pileri a chodi’r to gan ffrwydradau  o gymeradwyaeth cyn, yn ystod ac ar ôl yr araith, ac (i’m clust i o leiaf) â rhyw awgrym neu islais o’r ‘cymeradwyo dicllon’ sydd efallai’n fwy nodweddiadol o Lafur nag o unrhyw garfan arall.  Ychydig ohonom y diwrnod hwnnw, os neb, a allai gredu na byddai Goronwy’n dal sedd Arfon, a hynny’n gyfforddus, am ba hyd bynnag y dymunai.  Ond …

Fis Hydref yr un flwyddyn cawsom ffug-etholiad seneddol yn un o gymdeithasau Ysgol Dyffryn Nantlle.  Mwy o ran hwyl na dim arall, ond gwelltyn yn y gwynt?  Plaid Cymru a aeth â hi o fwyafrif ysgubol.  Cofiaf y diwrnod hwnnw hefyd yn dda. Yr oeddwn yn ymgeisydd dros blaid arall.    (Cyfeiria’r nofel at ‘Ffordd y Brenin’, Pen-y-groes, sy’n mynd heibio i’r ysgol. Ryw awr ginio tua’r un adeg, aeth rhai ohonom ati i gywiro hyn â sialc yn ‘Ffordd y Werin’; roedd hyn dair neu bedair blynedd cyn sefydlu Cymdeithas yr Iaith, ac nid oedd iddo fawr ddim arwyddocâd gwleidyddol.)

Bûm i’n chwarae â damcaniaeth fel hyn, yn troi o gwmpas y rhif deg ar hugain. Etholwyd Lloyd George yn 1890. Erbyn 1920 yr oedd wedi gosod cyfeiriad newydd i’r wladwriaeth Brydeinig, wedi setlo Tŷ’r Arglwyddi ac wedi ennill rhyfel byd. Bwriodd ef ymlaen am ymron chwarter canrif arall gydag ambell hwrdd o’i egni dihafal; ond wedi dengmlwydd ar hugain yr oedd wedi colli ei hygrededd, wedi mynd yn gaethwas i’w hen elynion gwleidyddol ac wedi cyfrannu at hau hadau rhyfel arall. Daeth awr Llafur yn Arfon. 1945-74.  Dengmlwydd ar hugain namyn un, a daeth plaid arall i olynu a chael ei chyfle.  Mae hithau bellach wedi hen basio’r postyn, wedi colli sedd seneddol Ceredigion – drwy gamdrefnu i ddechrau, colli Môn oherwydd ymraniadau, a cholli yn gyffredinol ei gallu i argyhoeddi ac ysbrydoli. Ni byddai dim yn well gennyf na gweld ei llwyddiant, a byddaf yn cael ambell awr o feddwl y gall hwnnw ddod eto yn y Deheudir dan arweiniad Leanne; ond mae anonestrwydd y Blaid ar bwnc ysgolion a thai yng Ngwynedd ac ar bwnc Wylfa B ym Môn yn magu gradd ddofn o amheuaeth ac yn rhoi rhyw atalfa ar y llaw sy’n pleidleisio.

A dychwelyd at faes y nofel, yr oedd dau beth ynghylch hinsawdd Cymru diwedd y 1950au yr wyf yn teimlo o hyd eu bod yn bethau cadarnhaol, – a hynny nid yn unig, mi gredaf, oherwydd y ffaith ei bod hi’n adeg o ddeffro, ymagor a chydio mewn cyfleoedd i’m cenhadlaeth i. I roi darlun teg, mae gofyn gweld y ddau beth ar wahân.  Mae a wnelo’r cyntaf â’r addewid am bethau newydd, datblygiadau newydd, bywyd newydd, efallai’n wir y ‘Welsh Dawn’ a welir yn y nofel. Mae a wnelo’r ail â’r cyswllt â hen ddiwylliant, cyswllt a dorrwyd yn ddisyfyd yr union adeg honno oherwydd un ffactor yn fwy na dim arall, sef dyfodiad teledu.

(a)     Rhwng 1955 a 1959 yr oedd rhyw deimlad y gallai rhywbeth ddigwydd yng Nghymru. Yr oedd a wnelo i fesur â hyder gochelgar newydd ym Mhlaid Cymru, ond roedd yn cyniwair hefyd drwy ‘fudiad cenedlaethol’ ehangach, dienw. O blith y ffigurau cyhoeddus yn y nofel, yr amlycaf a’r mwyaf gweithredol oedd Dr. Huw T. Edwards, cyn-arweinydd undeb llafur a chadeirydd y ‘Cyngor Cymru’ apwyntiedig tan ei ymddiswyddiad dramatig yn Hydref 1958.  Nid gormodiaith yw dweud y gallai hanner gair gan Huw T., er mai cadeirydd ar gorff anetholedig ydoedd, achosi mwy o gynnwrf na dim byd a ddywed yr un o wleidyddion Cymru heddiw.  Yr oedd yna ryw edrych ato a gwrando ar ei eiriau, a theimlad fod ei galon yn y lle iawn er ei fod yn un garw am newid ei farn. Imi gael dweud ‘roeddwn i yno’ un waith yn rhagor, cofiaf yn glir y cyfarfod yn ystod Eisteddfod Caernarfon, 1959, lle cyhoeddodd ei fod yn cefnu ar Lafur.  Cyfarfod oddi ar y Maes ydoedd, wedi ei drefnu gan Gymdeithas Gymraeg Prifysgol Llundain.  Testun ffurfiol H.T.E. oedd ‘Senedd ar Ddaear Cymru’, sef y syniad o alw senedd gan gyrff a mudiadau Cymreig yn gwbl annibynnol ar ddatganoli, – posibilrwydd na chafodd agos ddigon o sylw dros y blynyddoedd; a diddorol darllen yn y cofiant Prif Weinidog Answyddogol Cymru gan Gwyn Jenkins fod Aneurin Bevan wedi dechrau ochri at ryw syniad fel hyn.  I rai o leiaf, bu cyhoeddiad H.T.E., ac wythnos Eisteddfod Caernarfon drwyddi draw,  yn benllanw gobaith, ond treiodd y llanw gyda’r methiant yn Nhryweryn a siom Plaid Cymru yn etholiad ’59.  Bu raid disgwyl tipyn, ac fe barhaodd y rhwystredigaeth dros hanner cyntaf y chwedegau.

(b)   I gyfleu’r wedd hon, ni allaf yn well na dod yn ôl at y cyfarfod ym Mhafiliwn Caernarfon. Pawb yn gwybod yr emyn. Y cyffro y gellid ei ennyn gan bregethwr carismataidd. Areitheg, medru ‘ei dweud-hi’.  Llawnder o iaith at y pwrpas, a medru tynnu rhyw dannau.  Dyna pryd y dywedai fy nhad, fel y cofiaf yn dda, ‘un peth am y Lebors ’ma, maen nhw’n medru sbitshio’.   Ym mhob plaid erbyn hyn aeth y ‘sbitshio’ yn beth tila iawn, ac yn ddiwylliannol bu’r golled yn fawr.  Rhannu’r un diwylliant, gradd uchel o lythrennedd, pethau ar y cof, – a hynny’n galluogi deall parodi a hiwmor. A mwy sylfaenol eto, rhannu’r un profiad i fesur helaeth.  ‘Chwyth y tân, fe gynnith toc’ oedd pennawd blaen Y Cymro wrth adrodd am y diwrnod.  Ond ni chynheuodd y tân hwnnw lawer wedyn, ac anodd wrth edrych yn ôl yw gweld sut y gallasai.  Yr hyn a gawsom oedd blas bach o’r ‘hen bwerau’, ac i’r rhai iau ohonom braint ac addysg oedd hynny.

Wrth edrych yn ôl a chymharu caf deimlad – er fy ngwaethaf braidd – fod gan y Gymru led-Lafuraidd, is-Ymneilltuol honno ryw adnoddau a gollwyd, neu a wanhaodd yn ddirfawr, yn y cyfamser.  Drigain mlynedd yn ôl yr oeddem yn fwy o genedl nag ydym heddiw. Yr oedd mwy ohonom. Yr oeddem yn troi allan yn dyrfaoedd. Yr oedd gweddill da o ddiwylliant  drwy’r broydd. Yr oedd gennym wasg.  O’r tu arall yr oedd llawer o daeogrwydd, a rhyw gyfyngiadau niwrotig wedi eu gosod ar y Gymraeg.  Ochr yn ochr â llawer o hwyl a hiwmor yr oedd cysêt;  peth ofnadwy yw hwnnw, ond eto mewn rhai sefyllaoedd gall fod yn atalfa ar bethau gwaeth, a thrwy hynny wneud bywyd yn haws.

Ni allwn fynd yn ôl, hyd yn oed petaem yn dymuno hynny.  Ni allodd y ‘genedl’ honno sicrhau ei pharhad ei hun, a dyna’r prawf.  Yr oedd nifer cynyddol ohonom, fel rhai cymeriadau yn yr nofel, yn mynnu bod yn rhaid symud ymlaen at rywbeth amgen.  A dyma ni heddiw. ‘Rwy’n myned i rywle, ni wn i ble,’ meddai’r bardd.  Hidiwch befo’r ‘i ble’, cawn ddyddiau o amau heddiw a ydym yn ‘myned i rywle’ o gwbl.  Sylwedydd doeth a ddywedodd  – ac rwy’n credu imi ei ddyfynnu rywdro o’r blaen ar y blog – fod pobl neu gymuned ethnig weithiau’n mynd trwy gyfnodau o fod yn debycach i wladwriaeth ac yn llai tebyg i genedl.  Dyna union ddisgrifiad o’n cyflwr ni Gymry y dwthwn hwn. I ddod trwyddo a gweld ei ben-draw mae angen am weledigaeth, cysondeb, penderfyniad, angerdd, tân.  Ble ceir y rhain?

6 Ymateb to “Y Genedl Goll”

  1. awelshdawn Ionawr 22, 2015 at 12:28 pm #

    Dw i’n wir gwerthfawrogi eich cofion a’ch sylwadau ynglŷn â’r pumdegau yn Nyffryn Nantlle. Basa wedi bod yn ddefnyddiol tu hwnt i fi gael sgwrsio a chi cyn ‘sgwenni’r nofel! Oes unrhyw gof gennech chi o Dafydd Williams y Maer? Dyn go iawn oedd Dafydd, asiant i Goronwy Roberts a’r dyn dŵad y Blaid Lafur Caernarfon ar y pryd.

    Gareth Thomas

    • glynadda Ionawr 22, 2015 at 2:10 pm #

      Cof bychan iawn, fawr mwy na’r enw, a’i gofio’n estyn croeso’r dref i’r rali. Dyn â gair da iddo. Rwy’n meddwl fod gen i lun yn rhywle, o bapur newydd ar y pryd (?Daily Post), ohono’n arwain gorymdaith Cyngor y Dref i ymuno â’r brif orymdaith.

  2. Jig Ionawr 22, 2015 at 1:48 pm #

    2sylw:
    1.Paham cyhoeddi’r nofel yn Saesneg? Ydy’r awdur wedi colli ffydd yn ein hiaith, neu ‘n disgwyl ennill mwy trwy yn yr iaith ryngwladol? Rhaid bod y stori’n colli wrth gael ei adrodd yn yr iaith fain.
    2. Paham nad yw Glyn Adda’n rhoi cynnig ar nofel debyg, yn iaith y fro?!

    • glynadda Ionawr 22, 2015 at 2:16 pm #

      (1) Gwell gofyn i’r awdur! Allaf i ond dyfalu mai Saesneg yw ei brif iaith greadigol er ei fod wedi dysgu Cymraeg; cymharer R.S. Thomas, Emyr Humphreys ac eraill. ‘Disgwyl ennill mwy’? Tybed a yw fy namcaniaeth i’n iawn, mai Cymry Cymraeg sy’n prynu llenyddiaeth Eingl-Gymreig p’run bynnag? Y Lolfa all ateb y cwestiwn.

      (2) Beryg bod yr hen G.A. wedi mynd yn rhy hen i droi’n nofelydd. Y stori fer yw ei gyfrwng, ac mae ‘Cwm Adda’ a’r cyffiniau yn debyg iawn i gefndir y nofel.

      • awelshdawn Ionawr 22, 2015 at 4:16 pm #

        Mae G.A. wedi dyfalu’n gywir. Diolch am ei ganfyddiad! Dysgwr yr ydw i. Dechreuais ddysgu tra o’n i’n byw yn Lloegr i drio cadw fy Nghymreictod. Dw i’n eithaf rhugl yn siarad Cymraeg erbyn hyn ond does y sgiliau gyda fi i ‘sgwenni rywbeth o’r maint nofel yn y Gymraeg.

        Mae rheswm arall am ‘sgwenni’r fath llyfr yn Saesneg: rheswm positif. Fel dywedodd Angharad Tomos mewn erthygl yn y Daily Post, mae’n pwysid bod y Cymry di-gymraeg yn cael gwybod am hanes ein cenedl. Does llawer wedi ei sgwenni yn Saesneg am hanes gogledd Cymru, yn enwedig, yr ardaloedd diwydiannol. Gwelir yr erthygl at http://www.awelshdawn.co.uk dan ‘Reviews’

        Ar ran ennill arian mae’n warthus i awgrymu byddaf yn ennill mwy o arian trwy ‘sgwenni yn Saesneg! Dydy’r cymorth ariannol Cyngor Llyfrau Cymru dim yn ymestyn at lyfrau yn Saesneg ac mae hwnna’n cael ei adlewyrchu yn y cytundebau cyhoeddwyr.

        Gareth Thomas

  3. glynadda Ionawr 23, 2015 at 9:56 pm #

    Da oedd darllen adolygiadau Lyn Ebenezer ac Angharad Tomos. Tipyn o syndod, siom a dweud y gwir, oedd darllen tystiolaeth Angharad am Hanes yn Ysgol Dyffryn Nantlle. Dydw i ddim yn cofio pryd yn union yr ymddeolodd Miss Mat Pritchard o ddysgu’r pwnc, ac efallai na ddysgwyd Angharad ganddi. Bydd pawb o’m cyd-ddisgynlion dros ryw oedran yn cofio gwersi lliwgar a dramatig Mat, ei ffiws fer a’i dialedd a ddisgynnai weithiau ar gyfiawn ac anghyfiawn. Erbyn cyrraedd Lefel-O dan ei stiwardiaeth dymhestlog yr oedd gennym syniad go dda am Oes y Cerrig, y Pres a’r Haearn, Celtiaid, Rhufeiniaid, Saeson, Llychlynwyr a Normaniaid, Harri II, Harrri VIII, Oliver Cromwell, sawl Pab (a sawl cic wrth fynd heibio), Henri o Navarre, Leonardo, Macchiavelli, Pedr Fawr (“wedi gwylltio nes oedd o’n gweld dim golwg”!), Catrin Fawr, Le Roi Soleil. Napoleon, Gladstone, Disraeli … ac ochr yn ochr â hynny oll, Hanes Cymru. Saesneg oedd iaith y nodiadau a’r gwaith gosod ar Hanes Ewrop, a Chymraeg ar Hanes Cymru; yn y pumed dosbarth roedd gofyn cael gwersi ar ôl yr ysgol i ofalu bod yr olaf i mewn. Deuai greddfau radicalaidd a chenedlaetholgar Mat yn amlycach wrth inni fynd yn h^yn, ac yn y gwersi Hanes Cymru fe arweiniai pob llwybr, hwyr neu hwyrach, at S.R., Michael D. Jones a hyd yn oed Llosgi’r Ysgol Fomio,. Gofalai (fel athrawon eraill o’r ysgol hefyd, chwarae teg iddyn nhw) na byddem byth yn derbyn lein y Sefydliad yn ddihalen, a dysgodd ni i edrych tu ôl i eiriau. Weithiau gadawai ni â rhyw osodiad oraclaidd i byslo uwch ei ben, ac un o’r rheini a gofiaf yn dda oedd: “Tasa Hitler yn angel o’r nefoedd, mi fasa Prydain wedi ymladd yn 1939.” Ystyr hyn, fel y dois i ddeall yn y man, oedd nad drygioni Hitler oedd yn poeni’r Sefydliad Prydeinig erbyn hynny, ond ei rym. Yn hollol an-Farxaidd, credai Mat mai unigolion, eu tymherau a’u hwyliau, sy’n creu hanes, a dysgodd ni i geisio adnabod cymeriadau hanes fel pobl.

Gadael Ymateb

Rhowch eich manylion isod neu cliciwch ar eicon i fewngofnodi:

WordPress.com Logo

You are commenting using your WordPress.com account. Log Out / Newid )

Twitter picture

You are commenting using your Twitter account. Log Out / Newid )

Facebook photo

You are commenting using your Facebook account. Log Out / Newid )

Google+ photo

You are commenting using your Google+ account. Log Out / Newid )

Connecting to %s

%d bloggers like this: