Colli John Rowlands

23 Chw

Ar sawdl colledion eraill, trist iawn fu deall heddiw am farw John Rowlands.  Gan wybod y daw eraill i sôn yn werthfawrogol am ei waith fel athro ac awdur, mi garwn i alw i gof gyfraniad gan John nas cofir bob amser efallai, sef y cychwyniad a roddodd i hwrdd o newyddiadura Cymraeg brwd drwy’r colegau.  Gwnaf hynny drwy ddyfynnu hanesyn, fel yr adroddais ef mewn ysgrif yn BARN ryw ddwy flynedd yn ôl.  Ysgogiad yr ysgrif oedd arddangosfa ym Mhrifysgol Bangor ar ymgyrchoedd a gweithgarwch Cymraeg yn y Coleg (fel yr oedd bryd hynny) yn y 1960au:

“Yn ystod yr un blynyddoedd, dyweder 1961-5, yr oedd wyth o gyhoeddiadau, Cymraeg a Saesneg, yn ymddangos o blith myfyrwyr y coleg, a’u nifer bryd hynny tua 1,500. Asgwrn cynnen parhaus drwy’r blynyddoedd cyn hynny oedd faint o’r naill iaith ac o’r llall a ddylai fod, yn arbennig yn y cylchgrawn llenyddol Omnibus a’r papur pythefnosol Forecast. Hanner yn hanner oedd Omnibus, y Cymry weithiau’n cael trafferth llenwi eu hanner hwy, ond hynny’n ormod gan rai o’r di-Gymraeg. Un tudalen allan o wyth oedd yn Forecast, digon i roi iddo’r isdeitl ‘a’r Dyfodol’, ond weithiau dim llawer mwy. Yr oedd golygyddion gwir alluog yn dal i fethu cael cyfranwyr ar gyfer y tudalen, a’r Saeson yn dal i gwyno bod honno i mewn o gwbl. Yng ngwanwyn 1960 ymwahanodd Omnibus yn ddau gylchgrawn derbyniol iawn, un ym mhob iaith, y Spectrum Saesneg a’r Ffenics Cymraeg. John Rowlands oedd sylfaenydd a golygydd Ffenics, ni chredaf iddo gael anhawster i’w lenwi, ac yr oedd pawb o’r ddeutu yn hapus iawn ar y canlyniad.  Wedi’r llwyddiant hwn yr oedd John yn barod ar gyfer rhywbeth mwy.

“Cofiaf yn glir iawn y noson, yng ngwanwyn 1960. Yr oedd criw bach ohonom, Cymry Neuadd Reichel, wedi ymgasglu yn ystafell Bedwyr Lewis Jones, tiwtor yn y neuadd, newydd ddechrau y sesiwn hwnnw  ar ei waith fel darlithydd yn Adran y Gymraeg. Sgwrsio am hyn a’r llall. Yn sydyn o dan y drws daeth copi o Forecast, rhywun yn ei ddosbarthu felly i’r tanysgrifwyr. Bwriodd Bedwyr olwg arno, gan chwilio i ddechrau am y dudalen Gymraeg. Yn y rhifyn hwnnw yr oedd hi wedi mynd i lawr i … un eitem! Dau englyn oedd yr eitem, a’r teitl ‘Poem’ uwch eu pennau. Ffrwydrodd Bedwyr, fel y gwelais ef yn gwneud ar achlysuron eraill; rhwygodd y papur yn dipiau a’i daflu i’r bin sbwriel. Dyna gyrraedd rhyw derfyn. Y tymor wedyn cyhoeddodd John Rowlands y byddai’r Dyfodol yn cychwyn fel papur cwbl Gymraeg, annibynnol, wyth tudalen. Gwahoddodd Philip Wyn Jones, Bleddyn Davies a minnau i’w helpu, ac ymddangosodd y rhifyn cyntaf fis Ionawr 1961. Ni chafwyd unrhyw drafferth llenwi’r papur ag eitemau o bob math, aeth yn fwy o faint, ac o fewn rhyw flwyddyn yr oedd y gwerthiant tua mil a hanner, diolch i danysgrifiadau cynfyfyrwyr a pheth diddordeb gan y cyhoedd hefyd. … Cyn bo hir gwelwyd yr un datblygiad yn Aberystwyth pan ymwahanodd Llais y Lli oddi wrth y Courier Saesneg-yn-bennaf a dod yn bapur pur radicalaidd a fu mewn helynt gyda’r awdurdodau fwy nag unwaith.”

Braint a hyfrydwch fu cael cydweithio â John Rowlands yn y symudiad arloesol hwn, enghraifft o’i benderfyniad tawel a’i weithredu dibetrus. Estynnaf gydymdeimlad a dymuniadau da i Luned a’r teulu.

Gadael Ymateb

Rhowch eich manylion isod neu cliciwch ar eicon i fewngofnodi:

WordPress.com Logo

You are commenting using your WordPress.com account. Log Out / Newid )

Twitter picture

You are commenting using your Twitter account. Log Out / Newid )

Facebook photo

You are commenting using your Facebook account. Log Out / Newid )

Google+ photo

You are commenting using your Google+ account. Log Out / Newid )

Connecting to %s

%d bloggers like this: