Goleuni yn yr hwyr ?

24 Chw

Rwyf wedi sgrifennu llawer dros y blynyddoedd am ‘Y Gwaedu Mawr’ o ysgolion Cymru bob mis Medi. Ac ailadrodd unwaith eto yr hyn a ddylai fod yn amlwg, dyma un o’r pethau – os nad yn wir y prif un – a fydd yn sicrhau ein diwedd fel pobl cyn yr êl llawer o flynyddoedd heibio eto.  Hwyrach y caf bellach gorddi llai amdano gan fod tri chorff cyhoeddus yn ddiweddar wedi cymryd y mater mewn llaw.  Tri chorff annisgwyl.

(1)   Cyngor Cyllido Addysg Uwch Cymru (HEFCW) yw’r cyntaf. Cwango gwrth-Gymreig yw hwn yn draddodiadol, a hyd at ychydig wythnosau yn ôl roedd yn ymddangos fel petai’n cynnal ei draddodiad drwy benderfynu torri dros bedwar ugain mil o bunnau’r flwyddyn oddi ar gynhaliaeth Geiriadur Prifysgol Cymru.  Ond yn sydyn dyma rybudd ganddo ynghylch y polisi o ariannu myfyrwyr o Gymru yn ddiwahân ble bynnag yr ânt i astudio.   Dyma eiriau ei Brif Weithredwr, Dr. David Blaney, fel y’u dyfynnir gan y BBC: ‘Yng Nghymru mae llawer o gyllid y Cyngor yn awr yn cael ei wario ar gymhorthdal y ffioedd dysgu, a golyga hynny fod llai o arian ar gael yn y sector Cymreig nag sydd yn Lloegr.’   Gall y darllenydd sylwi ar yr hyn y mae Dr. Blaney yn ei ddweud, a’r hyn nad yw yn ei ddweud.

(2)   Ategwyd y pwynt i raddau gan Geidwadwyr Cymru drwy eu llefarydd Addysg, Angela Burns.  Dywedaf ‘i raddau’ gan y gellir dehongli galwad y Ceidwadwyr, nid fel ‘rhowch fantais i’r rhai sy’n aros yng Nghymru’ ond fel ‘rhowch yr un anfantais i bawb’.  Dyma’r geiriau fel y’u dyfynnir yn Y CYMRO (20 Chwefror): ‘Rhaid i weinidogion Llafur wrando ar y galwadau cynyddol o’r sector addysg uwch i ail-ystyried y cymhorthdal ffioedd dysgu fel y gall ein prifysgolion ni gystadlu gyda’r gorau yn y D.U. a thu hwnt mewn ymchwil ac addysgu os ydynt yn derbyn cyllid teg.’

(3)  Yna fe glywyd llais corff a fu’n hynod ddi-lais oddi ar ei sefydlu dair blynedd yn ôl, sef Cymdeithas Ddysgedig Cymru.  Mae fy nisgrifiad i o’r corff hwn mor dda fel fy mod am ei ailadrodd unwaith yn rhagor: ‘casgliad gorau’r byd o brif awduron y broblem’.  Ond meddai mewn datganiad y tro hwn, ‘mae’r drefn bresennol o gyllido myfyrwyr o Gymru yn anghynaladwy ac yn niweidiol i ragolygon y sector.  Rhaid wrth newid buan.’ Adroddir mai’r polisi y mae am ei argymell yw cyflwyno prawf moddion gan gefnogi’r myfyrwyr yn unig lle mae’r angen mwyaf.  Nid dyma’r ateb, ond o leiaf mae yma ddangos rhyw gydnabod fod  problem.

Prifysgolion Cymru’n clywed yr esgid yn gwasgu sydd y tu ôl i’r tair galwad hyn.  Rheswm gwahanol fu gan yr hen G.A. wrth wyntyllu’r mater dros y blynyddoedd, ond ’tae waeth am y tro os deffroir rhyw ymwybyddiaeth. A dyfynnu’r CYMRO eto, ‘Mae Llywodraeth Cymru wedi cyhoeddi y bydd adolygiad o drefniadau cyllido addysg uwch a chyllid myfyrwyr yng Nghymru yn dechrau yn y gwanwyn.’  Disgwylir adroddiad ym Medi 2016. Os bydd llywodraeth Cymru y pryd hynny o ddifrif ynghylch yr unig beth a rydd bwrpas a chyfiawnhad i’w bodolaeth hi ei hun ac i’r Cynulliad, sef adeiladu, cryfhau ac atgyfnerthu bywyd Cymru ym mhob gwedd ac ym mhob dull a modd posibl, bydd yn cyhoeddi’n glir bolisi o roi mantais ariannol hael, amlwg ac anwadadwy i’r disgyblion hynny sy’n dewis astudio yng Nghymru.

Ers 20 Chwefror  gwelir ymdriniaeth ddigon adeiladol â hyn ar wefan DAILY WALES, heb ddim o’r hen lol am ‘ehangu gorwelion’ a ‘pheidio bod yn gul’.  Yn wir mae’n anodd osgoi’r argraff mai gan y Cymry Cymraeg, dros y blynyddoedd, y clywir y mantras hyn. Mae’r rheswm yn amlwg:  nid oes ar y di-Gymraeg ‘isio bod yn Sais’ i’r un graddau, oherwydd maent eisoes yn Saeson yn ôl un diffiniad – a’r diffiniad traddodiadol – o’r gair. A dychwelyd at hen bregeth gennyf : nid oes a wnelwyf o gwbl â chymhellion unigolion; nid wyf erioed wedi dweud wrth neb, ‘paid â mynd’ nac ychwaith wedi siarsio neb i ddod yn ôl. Os yw’r dewis wedi ei wneud, dyna ni.  Fel yr wyf wedi dweud yn ddigon aml, mae a wnelom yn hytrach â ffenomen gymdeithasol – ie seicolegol hefyd – ar draws cenhedlaeth a dosbarth.   Bron na ddywedem mai y rheol yw, po amlycaf y rhieni yn y bywyd Cymraeg a pho drymaf eu dibyniaeth ar yr iaith, pellaf yn y byd y sgidadla – neu, a dyfynnu hen jôc W.J. Gruffydd, y sgideidl – eu plant.  Ac am mai problem gymdeithasegol ydyw, ateb gwrthrychol neu amhersonol sydd iddi.  A’r allwedd i’r ateb yw pres.

Gan ei bod hi’n llawer rhy hawdd ail-ysgrifennu hanes, gadewch inni ein hatgoffa’n hunain o ddwy ffaith. (a) Yn 2005 fe orfodwyd y Llywodraeth Lafur gan bwysau’r tair gwrthblaid (Ceidwadwyr, Democratiaid Rhyddfrydol a Phlaid Cymru) i gynnig rhywfaint  o fantais ariannol i’r myfyrwyr a oedd am  aros yng Nghymru.  Daeth arwyddion bychain fod hyn yn dechrau gweithio.  (b) Erbyn ffurfio llywodraeth Cymru’n Un yn 2007 yr oedd adroddiad wedi ei gyflwyno gan yr Athro Merfyn Jones (cynghorwr y llywodraeth ar addysg uwch, ac yn ddiweddarach cadeirydd y Coleg Cymraeg Cenedlaethol) yn argymell terfynu’r ychydig fantais a rhoi’r arian i bob myfyriwr o Gymru yn ddiwahân. Wrth ymuno â’r llywodraeth glymblaid, trodd Plaid Cymru yn ei charn a chyd-fynd â’r polisi newydd.

Bellach dyma’r gwirionedd amlwg wedi ei tharo hithau unwaith eto, ein bod yn rhawio £90 miliwn o arian allan o Gymru bob blwyddyn er mwyn hyrwyddo’r trai ar ein hymennydd ein hunain. Fel y gofynnodd un cyfrannwr ar DAILY WALES, pa wlad yn ei hiawn bwyll a fyddai’n gwneud hyn?   Yn sicr nid yr Alban. Gan ddechrau â phapur trafod yn Hydref 2012 dyma’r Blaid yn closio’n ôl at yr hyn a fu’n bolisi ganddi a’r hyn na all beidio bod yn bolisi i genedlaetholwr.  A rhai dyddiau’n ôl datganodd Simon Thomas, ei llefarydd ar Addysg, fod y drefn bresennol ‘yn edrych yn llai a llai cynaladwy’.

Syr Ian Diamond, Is-ganghellor Prifysgol Aberdeen, a fydd yn llunio’r adroddiad a ddisgwylir gan y llywodraeth.  A yw’n debyg o ddweud wrth y Cymry, ‘gwnewch fel y gwnawn ni yn yr Alban’, amser a ddengys. Ni allwn gymryd fod academwr yn yr Alban yn genedlaetholwr; y gwrthwyneb sydd debycaf o fod yn wir. Ond ni wn i ddim am Syr Ian.

Mae lled-edifeirwch Plaid Cymru i’w groesawu, a gobeithio y daw rhyw ddaioni, er yn anuniongyrchol efallai,  o alwadau’r tri chorff annhebygol uchod.

Advertisements

Gadael Ymateb

Rhowch eich manylion isod neu cliciwch ar eicon i fewngofnodi:

WordPress.com Logo

You are commenting using your WordPress.com account. Log Out / Newid )

Twitter picture

You are commenting using your Twitter account. Log Out / Newid )

Facebook photo

You are commenting using your Facebook account. Log Out / Newid )

Google+ photo

You are commenting using your Google+ account. Log Out / Newid )

Connecting to %s

%d bloggers like this: