Gair wrth Bwyllgor Diamond

26 Chw

Yn ben-set, cefais broc i ddweud rhywbeth wrth Bwyllgor Syr Ian Diamond, a fydd yn adrodd ar gyllido prifysgolion yng Nghymru.  Sgrifennais bwt fel hyn:

Mae’n bleser gennyf gyflwyno’r ychydig sylwadau hyn ar dri maes a all ddod o fewn ymchwiliad y Pwyllgor:

1.     Y mudo ’mennydd blynyddol o ysgolion Cymru.  Rwyf wedi tanlinellu difrifwch y ffenomen hon mewn nifer o ysgrifau dros y blynyddoedd, rhai ohonynt wedi eu cynnwys  yn fy nghyfrol Problem Prifysgol a Phapurau Eraill (2003).  Y dyddiau diwethaf hyn dyma leisio canfyddiad nid annhebyg gan Gyngor Cyllido Addysg Uwch Cymru (HEFCW), gan Gymdeithas Ddysgedig Cymru a chan ddwy o’r pleidiau gwleidyddol, – y Ceidwadwyr a Phlaid Cymru. Mae eu sylwadau’n amrywio o ran pwyslais, ond ymddengys eu bod oll yn cyfleu’r hanfod fel gwario tua £90 miliwn o bunnau’r flwyddyn ar wneud Cymru’n economaidd a diwylliannol dlotach.

Rhaid i’r feddyginiaeth, os oes un, ddod oddi wrth lywodraeth Cymru.  Ymddengys mai’r dewis yw un ai (a) gosod prawf moddion, fel yr awgryma rhai o’r cyrff a enwyd uchod, neu (b) dilyn  polisi llywodraeth yr Alban.  Yr ail ddewis yw’r unig un cyson â raison d’être Cynulliad Cenedlaethol a llywodraeth Gymreig.   Dan bwysau gan y tair gwrthblaid, bu llywodraeth Lafur y Cynulliad, 2003-7, yn gweithredu am gyfnod byr bolisi o wobrwyo ar raddfa fechan y myfyrwyr hynny o Gymru a ddewisai aros yng Nghymru i astudio;  ond gyda chlymblaid ‘Cymru’n Un’, 2007, dyma gefnu ar yr arbrawf.  Pe buasid wedi cadw ato ac adeiladu arno, mi gredaf y byddem erbyn hyn yn gweld rhai canlyniadau cadarnhaol.

Nid oes gennyf ffigurau i’w hawgrymu, ond dylai’r ysgogiad fod yn amlwg ac yn hael, cynnig na ellir yn hawdd droi trwyn arno.  Nid oes ond un argymhelliad y gall y Pwyllgor ei wneud i bwrpas, a gellir ei roi yn syml:  ‘gwnewch fel y gwna’r Albanwyr’.

2.    Cynnal gwasanaethau traddodiadol ar wahân i ddysgu.  Bu Prifysgol Cymru, ac y mae o hyd cyn belled ag y mae ei hadnoddau’n caniatáu, yn gyfrifol am bedair darpariaeth y byddai bywyd addysgol a diwylliannol Cymru yn ddifrifol dlotach hebddynt: (i) Gwasg Prifysgol Cymru, (ii) Geiriadur Prifysgol Cymru, (iii) Y Ganolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd, (iv) Gregynog.   Mae’r ‘datganiad cefnogaeth’ a ryddhawyd gan Wasg y Brifysgol yn pwysleisio’r angen parhaol yng Nghymru am ‘gyhoeddwr ysgolheigaidd ac iddo gydnabyddiaeth gydwladol’, geiriau na allaf eu hategu’n rhy gryf.  Fel eraill rwyf yn amau’n fawr ddoethineb HEFCW, ac yn methu deall yn iawn ei amcanion, yn tocio cefnogaeth i’r Wasg ac i’r Geiriadur;   gobeithiaf y bydd y Pwyllgor yn ei alw’n llym i gyfrif am hyn.

Y tu ôl i hyn oll mae stori dywyll  y modd y tanseiliwyd y Brifysgol ffederal yn ystod degawd cyntaf y ganrif.  Efallai na bydd y manylion yn hysbys i’r Pwyllgor, nac o ddiddordeb.  Ond gall y gŵyr yr aelodau i’w Chyngor, fis Hydref 2011, benderfynu ildio siarter Prifysgol Cymru a throsglwyddo’r hyn a fyddai ar ôl o’i swyddogaethau, ei hadnoddau a’u breintiau i gorff arall, Prifysgol Cymru: Y Drindod-Dewi Sant (Caerfyrddin a Llanbedr Pont Steffan).  Ni wnaf yn awr ond cofnodi yr hyn y cred llawer o aelodau’r Brifysgol ei fod yn wir, sef fod y penderfyniad hwn yn anghyfansoddiadol ac mai annilys yw popeth sy’n deillio ohono.   Fel petai’n fwriadol  i ddyfnhau’r amheuaeth, mae’r Cyngor a’r Is-ganghellor yn gwrthod rhyddhau’r cofnodion perthnasol ond mewn ffurf eithafol sensoredig.   ‘Ond digon o’r fath wrthuni,’ medd eich Pwyllgor.  Fe fydd cyflwyno achos eto ar y lefel uchaf, a hynny, fel y gobeithia rhai ohonom, yn arwain at ganlyniad amgen. Yn y cyfamser rhaid inni geisio rhagweld trefn newydd ar gyfer cynnal a chryfhau’r ‘gwasanaethau Prifysgol’ traddodiadol.

Ni ddylid byth, byth ildio siarter Prifysgol Cymru. Fel diogelwch pellach i’r ddarpariaeth draddodiadol, dylid ffurfio ‘Cyngor Prifysgolion Cymru’, gan ddwyn ynghyd unwaith eto y pedwar cyn-goleg cyfansoddol, – Aberystwyth, Bangor, Caerdydd ac Abertawe.  (Tipyn o broblem yw perthynas Coleg Dewi Sant, gan ei fod yn y cyfamser wedi ymgyfuno â choleg hyfforddi athrawon, cyn-goleg polytechnig a choleg chweched dosbarth.)  Dylai’r Cyngor hwnnw fod dan ymrwymiad i gefnogi’r pedwar ‘gwasanaeth Prifysgol’, a dylai llywodraeth Cymru, trwy’r Cyngor Cyllido neu’n gyfochrog ag ef, ddarparu a gwarantu cyllid hir-dymor digonol, wedi ei seilio ar amcangyfrif y Cyngor Prifysgolion o’r angen.  Dylai llywodraeth Cymru gyhoeddi hyn fel amcan, a byddai argymhelliad cryf gan y Pwyllgor yn gymorth tuag at hynny.

3.     Cyllido ymchwil yn y Dyniaethau.  Yn ystod y blynyddoedd diweddar derbyniodd rhai cynlluniau ymchwil yng Nghymru gefnogaeth hael gan un ai’r Academi Brydeinig neu Gyngor Ymchwil y Celfyddydau a’r Dyniaethau (AHRC) neu’r ddau ar y cyd. Ond cyfyngir y posibiliadau gan ddiffyg Cyngor Ymchwil Dyniaethau i Gymru. Gallai’r Pwyllgor argymell creu un ai adran Gymreig o’r AHRC neu gorff Cymreig annibynnol.

Gadael Ymateb

Rhowch eich manylion isod neu cliciwch ar eicon i fewngofnodi:

WordPress.com Logo

You are commenting using your WordPress.com account. Log Out / Newid )

Twitter picture

You are commenting using your Twitter account. Log Out / Newid )

Facebook photo

You are commenting using your Facebook account. Log Out / Newid )

Google+ photo

You are commenting using your Google+ account. Log Out / Newid )

Connecting to %s

%d bloggers like this: