Pam siarad lol fel hyn ?

28 Chw

blogger-image-1009176258

Blog Menai a dynnodd fy sylw at daflen newydd gan Blaid Cymru.  Mae ei phrif bennawd yn darllen:

Pam ddylai Cymru dderbyn
Datganoli
Eilradd

‘Oho!’ meddwn i. ‘Mae’r Blaid am weld datganoli eilradd, ydi?’ Ac es ymlaen i ddarllen, gan ddisgwyl gweld y rhesymau dros dderbyn datganoli eilradd.  Ond mae’r ddadl i’r gwrthwyneb wrth gwrs. Tynnu’ch coes chi, ddarllenwyr!

Digon drwg yw fod y blaid hon heb enw.  Ond ar ben hynny dyma hi’n mynnu siarad nonsens yn ei llenyddiaeth etholiadol.  Ni byddai holnod bach yn costio fawr.  Efo hwnnw byddai un ai’r ffurf weddol lac ‘Pam ddylai Cymru dderbyn … ?’ neu’r ffurf fwy gramadegol ‘Pam y dylai Cymru dderbyn …?’ yn iawn.

Mae’r Saesneg yn iawn, ar ffurf gosodiad:

We shouldn’t settle
for third rate devolution.

‘Peth bach,’ meddai rhai ohonoch.  Arwydd o amaturiaeth a diffyg gafael, meddwn innau.  Fwy nag unwaith ar y blog hwn rwyf wedi mynegi tipyn o gefnogaeth i arweinyddiaeth bresennol y Blaid, a dwywaith neu dair yn ddiweddar rwyf wedi awgrymu na ddôi unrhyw ddaioni i neb o golli sedd Arfon fis Mai.

Ond mae isio gras.

Teimlais hyn yn ddwys iawn echdoe wrth wrando ar y siaradwyr o Japan a ddaeth i adrodd yn Sir Fôn eu profiad wedi damwain Fukushima.  Mae yma drafodaeth wleidyddol o’r pwys dyfnaf ac ehangaf.  A Phlaid Cymru yw’r ddolen wan yn y gadwyn.

Peidiwch â synnu os bydd rhagor am hyn ar y blog.

Gadael Ymateb

Rhowch eich manylion isod neu cliciwch ar eicon i fewngofnodi:

WordPress.com Logo

You are commenting using your WordPress.com account. Log Out /  Newid )

Facebook photo

You are commenting using your Facebook account. Log Out /  Newid )

Connecting to %s

%d bloggers like this: