Cydradd â phwy ?

6 Maw

‘Cydraddoldeb’ yw thema datganiad diweddar ar ran Plaid Cymru, fel yr adroddir ar wefan Daily Wales.  Amlinellu yr hyn a ddylai fod mewn mesur ymreolaeth newydd y mae Leanne Wood, ac un o’r awgrymiadau yw y dylai’r ‘Cydbwyllgor Gweinidogol’, sy’n cyfarfod weithiau, droi’n gorff parhaol, ‘Cyngor Gweinidogion y Deyrnas Gyfunol’.   Gwnâi hynny Gymru’n bartner cyfartal, neu’n wir fe ragdybia ei bod hi eisoes yn bartner cydradd mewn egwyddor.  A dyfynnu’r adroddiad, ‘Wales is an equal part of the UK and should be treated as such.’

Mae hyn, ar yr olwg gyntaf o leiaf, yn swnio’n ddigon tebyg i’r hyn a fu’n hen bregeth gan yr hen G.A. dros y blynyddoedd.   Rhedai fy meddwl:   (1) Pam na ddylai Cymru fod yn gyfartal â’r Alban?  (2) Pam na ddylai’r Alban fod yn gyfartal â Lloegr?  (3) Felly …?   Yr oedd yr ymresymiad yn arwain at ryw ffurf ar ffederaliaeth, a gwelwn hynny hefyd yn gyson â rhyw ragdybiadau neu reddfau a’u hamlygodd eu hunain yn llenyddiaeth y Cymry a’u hanes.   Ni ddywedais ddim yn erbyn  annibyniaeth, ac ni ddechreuais fanylu ar y math o ffederaliaeth;  mae sawl amrywiad arni, a pheth gwahanol eto yw’r ‘gyd-ffederaliaeth’ y bu Plaid Cymru’n sôn amdani ar un adeg.  (Defnyddiais y gymhariaeth hon unwaith neu ddwy i geisio egluro: ffederasiwn yw Sasiwn yr Hen Gorff; cyd-ffederasiwn yw Undeb yr Annibynwyr.)

Fel yr oedd y Ceidwadwr David Melding AC, y meddyliwr mwyaf adeiladol yn y maes hwn ers blynyddoedd lawer, yn cyrraedd y pwynt ffederalaidd, yr oedd fy ffydd ffederal innau, gyfryw ag oedd, yn dechrau pallu. (Gweler blogiadau 23 Mawrth 2012  a 24 Ionawr 2014.)  Pam y bu hyn?  Pethau. Digwyddiadau.  ‘Events, dear boy, events,’ chwedl yr hen Macmillan.   Ac yn benodol, tuedd pethau yn yr Alban.

Rhaid inni ddal i ofyn rhai cwestiynau.

(1)    ‘Mae Cymru’n rhan gyfartal o’r Deyrnas Gyfunol a dylid ei thrin fel y cyfryw.’  Ydi hi?   Nid a ddylai fod, ond ydi hi?  Nac ydi meddai Deddf 1536, sy’n sefyll hyd yma. Mae Tywysogaeth Cymru’n gorfforedig dros byth yn Nheyrnas Loegr.  Ym mhen hynny, ‘This Realm is an Empire’, h.y. mae ynddi uwch ac is, meistres a morwyn neu forynion.

(2)    A rhagdybio bod Cymru’n gyfartal, neu y dylai fod, cyfartal â pha le arall?

(a)     Cyfartal â Gogledd Iwerddon, er enghraifft?   Pwy yn ei iawn bwyll sy’n credu fod hynny’n wir, neu y dylai fod yn wir?  Mae cenedlaetholwyr ac unoliaethwyr fel ei gilydd yn methu weithiau drwy sôn am Ogledd Iwerddon fel un o ‘genhedloedd Prydain’.   Nid cenedl mo’r Chwe Sir ond mini-wladwriaeth ddi-genedl, neu, a’i roi fel arall, rhan o dalaith hanesyddol wedi ei rhannu bron yn gyfartal o ran teyrngarwch rhwng dwy genedl-wladwriaeth. Hyd yma nid yw wedi gwneud unrhyw gyfraniad adeiladol mewn unrhyw drafodaeth nac unrhyw gylch, gan fod ei holl fryd drwy’r adeg ar ei phroblem hunan-greedig ei hun ac ar ei natur wrthnysig ei hun.  Anodd meddwl pa les a ddôi i neb o eistedd wrth yr un bwrdd â hi.   Beth a wneir?  Wn i ddim, ac ni ŵyr pobl gymhwysach o lawer na mi.  Dim ond sodro’r caead ar y crochan bob hyn a hyn.   Yn y cyfamser na soniwn am gyfartalrwydd rhwng Cymru a’r gornel annedwydd hon o’r Ynys Werdd.

(b)    Cyfartal â rhai o ‘ranbarthau Lloegr’?  Dyfynodau,  am na ŵyr neb yn union pa rai yw’r rhanbarthau hyn na phle mae eu ffiniau.  Diolch byth am hynny, mae llai o sôn am y posibilrwydd hwn ers pan wrthododd ardal a ddiffiniwyd fel ‘Y Gogledd-Ddwyrain’ (‘Brynaich a Deifr’, chwedl yr hen Gymry) gynnig John Prescott o Gynulliad Rhanbarthol rai blynyddoedd yn ôl.  Er mwyn pa beth y bu ymdrech cenedlaetholwyr Cymru dros y cenedlaethau?   Er mwyn bod yn gyfartal â rhyw ‘Ogledd-Orllewin Canolbarth Lloegr’?   Gobeithio nad oes neb bellach yn rhoi munud o ystyriaeth i’r fath ynfydrwydd.  Ein honiad ni’r Cymry yw ein bod ni’n genedl, a dyna ben arni.

Ond beth yw sail yr honiad?  Faint o sylwedd sydd iddo? A beth sy’n gwneud cenedl?   Rwyf wedi cyfeirio rai troeon o’r blaen at ymdriniaeth olau Anthony D. Smith  yn The Ethnic Origins of Nations (1986), sy’n ein gosod ni’n chwap yn ein lle.  O fewn gwladwriaethau, meddai Smith, fe gawn genhedloedd.   Mae’n enwi Fflandrys, Catalonia – a Sgotland. Mae, eto o fewn gwladwriaethau, yr hyn y mae ef yn ei alw’n ethnies, cymunedau ethnig ac iddynt hunaniaethau digon clir a digon gwydn yn aml, ond sydd, am wahanol resymau, wedi methu adeiladu ar y rheini fel ag i wneud rhywbeth ohoni, croesi’r llinell a dod yn genhedloedd. Mae’n enwi’r Sorbiaid a’r Galisiaid.  Ac wedyn, rhwng y ddau ddosbarth, yn rhan o ‘ddarlun cymysg a chymysglyd’ mae rhai y mae’n anodd dyfarnu’n derfynol yn eu cylch.  Mae’n enwi’r Cwrdiaid, yr Occitaniaid, y Llydawiaid, y Naga – a’r Cymry. Dyna’r Sgotyn a’r Cymro felly mewn dau fwndel neu ddau ‘fand’ gwahanol.   Sgrifennais innau ryw dro mai gwir broblem Ynys Brydain yw’r gwahaniaeth rhwng yr Alban a Chymru o ran eu ffurfiad.   Dwysaodd y broblem bellach drwy i’r Albanwyr newid i gêr uwch a’r Cymry’n dal i ogr-droi yn eu hunfan.

Dyna un broblem fawr. Wrth feddwl am ‘Gyngor Gweinidogion y D.U.’ neu hyd yn oed ‘Gyd-bwyllgor Gweinidogol’, down i gwrdd â phroblem arall. Er mwyn i beth felly weithio byddai gofyn i’r gwledydd cyfranogol fod â’r un amcanion sylfaenol, yr un dyhead cyffredin. Ond ym Mhrydain Fawr byddai bryd un o’r partneriaid ar gadw’i safle honedig neu dybiedig yn y byd drwy feddu arf niwclear, a byddai bryd o leiaf un o’r partneriaid eraill ar gael ei wared.   Mae Plaid Genedlaethol yr Alban yn hollol iawn wrth wneud dyfodol Trident yn fater canolog, ac mae’r Sefydliad unoliaethol Prydeinig yn deall rhai, o leiaf, o ymhlygiadau hyn.

Yr haf diwethaf, cyn y refferendwm, yr oedd dau ddosbarth o Gymry am weld yr Alban yn dal yn ôl.  Y dosbarth lluosocaf a mwyaf llafar oedd y cenedlaetholwyr Prydeinig sydd am gadw Trident a’r cyfan. Dosbarth llai a thawelach oedd yr ymreolwyr Cymreig a hoffai weld symud cyfochrog ac a boenai o weld Cymru’n cael ei gadael ar ôl.   Pa beth bynnag a rwystrodd i’r Albanwyr gymryd y cam fis Medi, go brin mai llais Cymro ydoedd yn galw, ‘hei, arhoswch wrtha’ i!’

Nid oes ond cloi eto gyda sylwadau tri gŵr doeth.  (1) Sylw Harri Webb, am y Cymry’n ‘ymdeithio wysg eu cefnau tuag at annibyniaeth’.   (2) Sylw Gwyn A. Williams: ‘The Welsh, First of the British, look like being the Last’.  (3) Ac yn y cyfamser, crynodeb Ifans y Tryc:  ‘Britannia rŵl ddy Wêls’.

Gadael Ymateb

Rhowch eich manylion isod neu cliciwch ar eicon i fewngofnodi:

WordPress.com Logo

You are commenting using your WordPress.com account. Log Out / Newid )

Twitter picture

You are commenting using your Twitter account. Log Out / Newid )

Facebook photo

You are commenting using your Facebook account. Log Out / Newid )

Google+ photo

You are commenting using your Google+ account. Log Out / Newid )

Connecting to %s

%d bloggers like this: