Sut i droi meddyliau deng mil a mwy o Saeson Prifysgol Bangor cyn y mis Mai yma? Dyma fi wedi’i gweld hi, bobol – gyda help telediad gwleidyddol diweddar, cydnabyddaf yn syth! Y cynllwyn cyfrwys a dieflig yw i bob un o Gymry’r Coleg (maddeuwch yr hen arferiad o alw’r hen Goleg yn Goleg) gael tatŵ ar ei fraich, ‘I’m voting Plaid’. Yna’i arddangos, gydag ychydig eiriau pwrpasol am greu swyddi a gwrthwynebu toriadau. Siŵr o weithio yn tydi? Fe enillid y Saeson yn y fan. Ta-ta Alun Pugh.
Neu dowch gam ymhellach, a dychmygwch yr olygfa. Llys neu Gyngor y Brifysgol yn cwrdd i drafod y pethau aruthrol bwysig arferol. Ar foment ddramatig, mae Canghellor y Brifysgol yn torchi ei lawes dde gerbron y lliaws gan gyhoeddi’r neges: ‘I’m voting European Green Socialist’. Cryned colofnau Philistia!
Gadael Ymateb