Pan Flodeua’r Rhosyn Gwyn

22 Maw

Dywedwch, bwriwch fod ymchwilwyr yn llwyddo i ddod ar draws gweddillion gwirioneddol, DNA-ardystiedig, i un o dywysogion Cymru.  Er enghraifft, Owain Glyndŵr.  Nid yw’n debyg o ddigwydd, ond dywedwch.  Mae’n debyg y byddai rhyw drefniant gan rywrai i gladdu’r gweddillion yn weddus mewn man cymeradwy.  Fe gynhelid rhywbeth ar ddiwrnod arbennig. Faint fyddai yno?  Ar y gorau, llond llaw. Cofio’r ymateb tila, tila gan lywodraeth a chyhoedd i chwe chanmlwyddiant Senedd Machynlleth, 2004.

Eiddigedd gan hynny oedd un teimlad wrth wylio heddiw ddefodaeth trosglwyddo gweddillion Brenin Lloegr, Rhisiart III, i Eglwys Gadeiriol Caerlŷr ar gyfer ei angladd yno ddydd Iau.  Am sioe hanesyddol does dim curo ar y Sais ac fe drefnwyd popeth heddiw yn hynod drawiadol ac addas.  Er bod Eglwys Loegr a Phrifysgol Caerlŷr yn gyfrannog, ac Arglwyddi’r Deyrnas, disgynyddion dwyblaid Rhyfeloedd y Rhos, yn chwarae rhan symbolaidd, a haneswyr dysgedig yn trafod wedyn, yr oedd rhywbeth ddim-cweit-yn-swyddogol, ddim yn hollol o’r Sefydliad, yn y gweithgaredd heddiw, ynghyd â rhyw elfen fyrfyfyr, rhyw deimlad fel petai’n codi o’r dyrfa fawr.  Pryd profasom ni rywbeth fel hyn o’r blaen yng Nghymru?  Bydd hi’n ddengmlwydd a thrigain y Gwanwyn yma.  Cynhebrwng Lloyd George.  Yr oedd rhywbeth tu ôl i hwnnw, Ymneilltuaeth, a Chymru werinol, radicalaidd, er bod y ddeubeth yn eu dirywiad erbyn hynny.

Mae’n rhaid cael rhyw sioeau, os mai cadw hunaniaeth a diwylliant yw’n hamcan, ac os daliwn fod rhyw werth mewn ‘cof cenedl’.  Tybed a yw’r gorymdeithiau Gŵyl Ddewi yn gychwyn rhywbeth newydd ac yn rhagarwydd bach o adfywiad yng nghanol yr holl ddadfeilio o’n cwmpas?

Mae holl hanes Maes Bosworth yn cynhyrfu teimlad.  Y gadwyn hir o ddigwyddiadau yn arwain ato, a’r holl ganlyniadau wedyn. Beth petai pethau wedi troi’n wahanol yn y munudau olaf yna, a Rhisiart wedi ennill, fel y gallasai yn hawdd?   Dim llinach Duduraidd, dim ‘Deddfau Uno’ efallai, dim Diwygiad Protestannaidd yn y ffurf a welsom ni arno, dim Beibl Cymraeg. Y prif ganlyniad, rwy’n mentro dyfalu, yw na byddem ni yma’n  Gymry, heddiw nac ers rhai cenedlaethau.  Trafodais hyn o’r blaen (Atgyfodi Brenin? 6 Chwefror 2013).

Diwrnod mawr iawn i blaid y Rhosyn Gwyn, coron ar gredu a dadlau ac ymgyrchu gan ei haelodau ledled y byd.  Diwrnod mawr i Loegr hefyd, rywsut.  Ond mae un peth od.  O ran teledu, gadawyd y cyfan i Sianel 4, ac felly bydd eto ddydd Iau.  Llywiwyd yr adroddiadau a’r trafod yn ddifyr dros ben gan Jon Snow.  Ble roedd y BBC ar yr achlysur brenhinol hwn?  Doedd dim golwg o Huw Edwards, ac rwyf newydd wrando ar benawdau Newyddion Radio Cymru am wyth o’r gloch.  Dim gair am yr achlysur o gwbl.  Beth yw’r esboniad meddech chi?

Advertisements

3 Ymateb to “Pan Flodeua’r Rhosyn Gwyn”

  1. gaynor Mawrth 23, 2015 at 9:38 am #

    Yn fy marn dibwys i, teimlaf bod yr holl beth yn chwerthinllyd. Bobl yn coffau dyn oedd yn unben ac yn dreisgar fel y mwyafrif o frenhinoedd a thywysogion canol oeseol (boed yn Plantaganet neu yn Gymro) . Ac ar ben hynny mae’n go debyg ei fod wedi lladd neu yn gyfrifol am ladd meibion ei frawd. Yn union fel Putin yn ein dyddiau ni – yn cael gwared a’r oposishyn. Rwy’n gweld yr ymateb yn gwyrdroiedig a deud y gwir ac yn adlewyrchiad o rwbeth od iawn o fewn cymdeithas – rwbeth sydd wedi dilyn marwolaeth ledi D falle??.

    • glynadda Mawrth 23, 2015 at 1:55 pm #

      A oedd Rhisiart yn euog? Nid dyma ddiwedd dirgelwch y Tywysogiion yn y T*wr, ac nid yw’n debyg y cawn yr ateb byth. Ond mae gan Gaynor bwynt dilys : mae POB pen coronog, os nad wedi gorchymyn, o leiaf wedi awdurdodi lladd cannoedd a miloedd. POB UN, hyd y dydd hwn. ‘Cyhoeddwyd’ y ddau ryfel byd, o du Prydain, nid gan y Senedd ond gan ‘y Brenin yn ei Gyngor’, h.y. gan gyfarfod o’r Cyfrin Gyngor gydag ychydig iawn yn bresennol. Mae stori darganfod ac ailgladdu Richard yn gyrru rhywun i feddwl eto ynghylch natur brenhiniaeth. Pen ar fyddin yw brenin neu frenhines yn ei hanfod, ac ym Mhrydain Fawr pen hefyd ar wladwriaeth a fu’n arbennig o ryfelgar dros ganrifoedd. Y Tywysog Harry — cyw o frid. Dyna un ochr. Ond oddi ar chwyldro mawr yr ail ganrif ar bymtheg fe drodd y frenhiniaeth, nid o’i dewis ond dan orfodaeth, yn beth arall, sef dyfais i wahanu’r LLYWODRAETH oddi wrth y WLADWRIAETH, a thrwy hynny wneud yn bosibl ddatblygiad araf rhyw fath o ddemocratiaeth. Fel y dywedodd rhywun, bu’n ddyfais i gadw Margaret Thatcher rhag dod yn ben y wladwriaeth. Wedi ei hymyrraeth gynnil ond arwyddocaol yn refferendwm yr Alban y llynedd rwyf wedi dod yn fwyfwy amheus o’r frenhiniaeth; ond i’w osod yn erbyn pob osgo weriniaethol sydd ynof, mae hyn. Mae POB gweriniaeth Gatholig yn Ewrop ac eithrio UN wedi bod yn wledydd Ffasgaidd YN FY OES I. Yr un eithriad honno? Iwerddon. Yn ystod yr un cyfnod, breniniaethau Protestannaidd Gogledd Ewrop fu’r unig wladwriaethau democrataidd sefydlog o fewn y cyfandir. Mae hynna’n un peth i’w ystyried. Ond ar y llaw arall eto, mae llwyddiant brenhiniaeth a’i pharhad yn dibynnu ar fod llawer iawn o bobl yn mynd yn hollol wirion bob hyn a hyn; ac ym Mhrydain mae darpariaeth a pheirianwaith yn bod i ofalu bod ‘hyn a hyn;’ yn weddol aml. Diolch Gaynor.

  2. Ann Corkett Mawrth 23, 2015 at 11:33 am #

    Ni thrafferthais wylio’r holl sioe. Efallai iddi fod yn fwy parchus nag yr oeddwn i’n ei ddychmygu, ond fy nheimlad oedd mai dim byd ond sioe – fel ail-chwarae angladd Churchill – fyddai hi, a hynny rhywsut yn ymwneud a lles tref Caerlyr (ac yng Ngaer Efrog dylai fo fod, mae’n siwr!). Darllenais sylw rhywun o bentref lle byddai’r cortege yn galw, lle roeddent yn bwriadu cael parti mawr wedyn. Digwyddais weld papur yn ymwneud a dathlu Dylan Thomas yn ddiweddar, a oedd yn amlwg yn ystyried yr achlysur fel “cyfle marchnata” yn bennaf.
    Ers imi glywed am y clwyfau ar y corff, rhai ohonynt yn amlwg wedi’u derbyn ar ol i Risiart farw, ‘rwyf wedi teimlo bod milwyr wedi ei waldio dim ond er mwyn dweud wedyn eu bod nhw wedi’i wneud – a rhywbeth fel hyn oedd yr angladd.
    I mi, byddai angladd preifat wedi bod yn fwy gweddus ond, petai pobl yn cymryd y mater o ddifrif o gwbl, gydag aelod o deulu brenhinol Lloegr yno.

Gadael Ymateb

Rhowch eich manylion isod neu cliciwch ar eicon i fewngofnodi:

WordPress.com Logo

You are commenting using your WordPress.com account. Log Out / Newid )

Twitter picture

You are commenting using your Twitter account. Log Out / Newid )

Facebook photo

You are commenting using your Facebook account. Log Out / Newid )

Google+ photo

You are commenting using your Google+ account. Log Out / Newid )

Connecting to %s

%d bloggers like this: