Petawn i … (1)

2 Mai

PETAWN I YN LLE’R SNP

Yn oriau mân bore Gwener byddwn yn gwybod.  Ond ar hyn o bryd rydym yn dal i ragdybio senedd grog gyda chyfle i genedlaetholwyr yr Alban a Chymru ddylanwadu.  Os daw hi i hynny bydd yn glod aruthrol i’r ddwy arweinyddes, Nicola a Leanne, ac nid er mwyn drysu’r hwyl yr wyf yn codi dau gwestiwn fel a ganlyn.

(1)      Ni bydd yr un o’r ddwy arweinyddes yn San Steffan.  Bydd dwy blaid seneddol y cenedlaetholwyr yn dewis bob un ei harweinydd yn y fan honno.  Cymeraf y bydd yr SNP yn cadarnhau’r arweinyddiaeth bresennol; a byddai’n dda gennyf feddwl  – er gwaethaf amheuon lawer – y bydd digon o ASau Plaid Cymru (sef tri)  i fedru cynnal etholiad.  Cyn gwneud datganiadau mor glir ynghylch peidio â chefnogi’r Torïaid, tybed na ddylai’r arweinyddiaeth gartref ddweud mai penderfyniad yr ASau fydd hyn?  Un o effeithiau hynny fyddai cadw pawb i ddyfalu.  Oni fyddai hynny’n achosi mwy o ddirgryniadau y dyddiau olaf yma dan goncrit Philistia?

(2)       Os daw i’r SNP y llwyddiant a broffwydir, bydd wedi ei gael y tro hwn yn bennaf drwy fenthyca pleidleisiau Llafur.  Benthyg am byth, efallai, ond cawn weld. Ar yr olwg gyntaf o leiaf, bydd hyn yn ei gwneud-hi’n anodd iddi ochri gyda’r Ceidwadwyr ar unrhyw gwestiwn. Ond sut, ar unrhyw gwestiwn, y mae hi’n mynd i gosbi Llafur heb wobrwyo’r Torïaid?  Tipyn o gyfyng-gyngor ar yr olwg gyntaf, dywedaf eto.  Ond wrth ddweud yn uchel ac yn aml na wneir unrhyw fusnes byth â’r Torïaid, onid oes cyfyngu ar y dewis?  (Pam rwy’n dweud “ar yr olwg gyntaf”?  Os bydd Llafur wedi cael cweir, a hynny’n amlwg i bawb, nid yw ei hen gefnogwyr yn debyg o fynd yn ôl ati. Nid yw Llafurwyr y math yna o bobl.)

Dyna’r ddau gwestiwn.

Gadewch inni ragdybio yn awr lywodraeth Lafur mewn grym drwy gymorth y cenedlaetholwyr.  A fydd mwy o gyfiawnder cymdeithasol?  Ansicr.  A fydd llanast economaidd? Bron yn sicr. Er mwyn cyfiawnhau bod wedi achosi sefyllfa felly, beth a ddylai’r cenedlaetholwyr ei fynnu fel absoliwt?  Mwy o gyllid i’r Alban? Mwy o gydraddoldeb i Gymru? Rhywbeth ynglŷn â fformiwla Barnett?   Dim un o’r pethau hynny.  Dim ond yr un  peth mawr.  Cael gwared â Trident.  Dyna fyddai’r cyfraniad hanesyddol, byd-eang ei ymhlygiadau. Dyna fyddai’r ergyd galetaf erioed i’r Sefydliad Prydeinig.  Hwn yw’r mater canolog.

Llafur mewn grym ac yn dibynnu ar y cenedlaetholwyr.  Araith y Frenhines yn addo adnewyddu Trident, neu yn dweud unrhyw beth na all olygu ond hynny.  Dymchwel y llywodraeth yn syth.

Yr Araith heb grybwyll y mater. Dal arni am flwyddyn, gan wybod fod yr hen longau tanfor yn rhydu ac y bydd raid wrth benderfyniad yn weddol fuan.. O fewn y flwyddyn siawns na fydd etholiad Holyrood wedi  cadarnhau’r SNP ac y gall hi daro â mwy o sicrwydd.  Dewis amser.

Am swyddogaeth Plaid Cymru yn hyn oll, dywedaf eto yr hyn y mae’r blog hwn wedi ei ddweud o’r blaen fwy nag unwaith.  Dau wir ddiben sydd i genedlaetholdeb Cymreig: (1) diogelu’r Gymraeg; (2) dymchwel y Sefydliad Prydeinig.  Golyga (2) hefyd ddinistrio’r Blaid Lafur, atgyfnerthiad mawr y Sefydliad a llaw farw gwleidyddiaeth Brydeinig ers pedwar ugain mlynedd.

“Petawn i …”, meddwn i.  Ond nid fi yw’r SNP, a diau y gŵyr hi ei phethau.

Y tro nesaf:   “Petawn i’n byw yn Sir Fôn”.

Advertisements

Gadael Ymateb

Rhowch eich manylion isod neu cliciwch ar eicon i fewngofnodi:

WordPress.com Logo

You are commenting using your WordPress.com account. Log Out / Newid )

Twitter picture

You are commenting using your Twitter account. Log Out / Newid )

Facebook photo

You are commenting using your Facebook account. Log Out / Newid )

Google+ photo

You are commenting using your Google+ account. Log Out / Newid )

Connecting to %s

%d bloggers like this: