Petawn i … (2)

4 Mai

PETAWN I’N BYW YN SIR FÔN

Ar adeg etholiad fel hyn – ar unrhyw adeg a dweud y gwir – mae tair gwedd i bob plaid wleidyddol: (a) yr hyn a ddisgwylir gan ei chefnogwyr, (b) yr hyn sydd yn ei llenyddiaeth, (c) yr hyn a wna.

Yn achos y pleidiau adain-dde (y Ceidwadwyr ac UKIP, dyweder), mae cryn radd o gysondeb rhwng y tair agwedd: maent yn addo mwy neu lai yr hyn y mae eu pleidleiswyr yn dymuno’i weld, ac yn ei weithredu pan etholir hwy.

Yn yr eithaf arall mae’r Democratiaid Rhyddfrydol, nad yw eu pleidleiswyr yn uniaethu ag unrhyw bolisi o gwbl.

Cymysg yw Llafur.  Mae carfan o’i chefnogwyr, lleiafrif bron yn sicr, yn dal i goleddu rhyw amcanion ac yn dwyn i gof ryw Blaid Lafur fythaidd a fodolai mewn rhyw ddoe amhenodol  – ‘y blaid yr ymunais i â hi’.  Mae carfan arall – mwyafrif mawr mewn ardaloedd Llafur traddodiadol – heb fawr o awydd newid dim, na herio dim, nac adeiladu dim, na gwneud dim ond bod yn Llafur, ac aros ar y gwaelod lle mae eu plaid wedi eu cadw ers pedwar ugain mlynedd.

Achos gwahanol eto yw Plaid Cymru, gyda charfan uchel o’i phleidleiswyr ag amcanion gwleidyddol pendant, yn gobeithio y gall eu plaid wireddu rhai o’r rheini, – ond yn deall pam na all hi sôn amdanynt!  Ni welir mo’r gair ‘mewnlifiad’, er enghraifft, yn y llenyddiaeth gyfredol, ac ychydig iawn o sôn am y Gymraeg.  Mae’r cefnogwyr yn pleidleisio dros yr hyn y dylai eu plaid fod.  Am ba hyd yn hwy y pery’r arfer, ni wn.  Yn sicr ni pharhaodd yn etholiadau lleol Gwynedd lle daeth Llais Gwynedd i gynnig dewis arall.

Yng nghanol hyn, mae Plaid Cymru Môn yn achos arbennig.  Mae gweddill Ewrop a’r byd yn ceisio cael gwared â phwer niwclear.  Mae polisi’r Blaid, wedi ei gadarnhau gan ei chynhadledd, yn bendant yn ei erbyn. Ond fe etholwyd sedd Cynulliad ym Môn ar addewid o gefnogi Wylfa Newydd, ac mae’n ymddangos bod yr etholiad hwn eto’n cael ei ymladd â’r un addewid.  Gwrthwynebu’r peilonau wrth gwrs, ond cefnogi’r atomfa!  Chwerthinllyd!  Yn erbyn claddu’r gwastraff, ond am gynhyrchu mwy ohono!

Atal Wylfa Newydd yw’r mater mwyaf heddiw gerbron Môn, Gwynedd, Cymru, rhan helaeth o’r Deyrnas Unedig, Iwerddon a chylch ehangach.  Wrth ymyl hwn mae ysgolion, ysbytai, tai, ffyrdd, cyflogau, toriadau, ie Cymru, Cymraeg a Chymreictod yn mynd yn bethau bach dibwys.  Afraid mynd dros y rhesymau, a ddylai fod yn amlwg i unrhyw un ag unrhyw synnwyr yn ei ben.

Ble mae Gwyrddion Môn, ar adeg y mae eu hangen, fe allech dybio?  Clod i blaid Arthur Scargill, ‘Plaid Sosialaidd y Gweithwyr’, fe ddywed hi’n glir ei bod yn erbyn y gwallgofrwydd.  Am Blaid Cymru, yn hytrach nag ennill gan gario’r maen melin niwclear unwaith eto am ei gwddf, byddai’n well iddi golli a gadael i Lafur rodio’r ffordd lydan i uffern.  Petawn i’n byw ym Môn, byddai’n demtasiwn fawr fotio i Albert Owen, am y rheswm hwn a dim un rheswm arall.

Ond dydw i ddim yn byw ym Môn.

Gadael Ymateb

Rhowch eich manylion isod neu cliciwch ar eicon i fewngofnodi:

WordPress.com Logo

You are commenting using your WordPress.com account. Log Out / Newid )

Twitter picture

You are commenting using your Twitter account. Log Out / Newid )

Facebook photo

You are commenting using your Facebook account. Log Out / Newid )

Google+ photo

You are commenting using your Google+ account. Log Out / Newid )

Connecting to %s

%d bloggers like this: