Poeni’n arw fod enwau lleoedd Cymraeg yn rhwystr i’r diwydiant ymwelwyr. Felly, ar frys cyn i’r tymor agor, dyma awgrymu ychydig enwau yn eu lle. Rhai ohonynt yn fachog dros ben, fel y gwelwch. Gobeithio y byddant o help mawr i economi Cymru.
Fleximouth
Saltypuddle
Mad Dog Harbour
Soup Port
Port Egg Went
Abba Darren
Abba Sock
Too Slim
Tummy Moor
Mouth of my tie
St. Petersburg
Most Impoverished
St. Smoothie’s
Double Bed
St. Ironbrow’s
Two Swordsmouth
Church of the Waterfall in Pig Valley
What a Lot of Dust !
Ar ôl astudio’r enwau persain hyn, hwyrach yr hoffai’r darllenwyr awgrymu rhagor.
Syndod nad yw yr hen Glyn Adda – o bawb! – wedi rhoi Honey Motor yn ei restr o enwau llefydd yng Nghymru. Cafodd ei fagu yno !
A beth am yr enwog Brasierre am Froncysyllte? Llwyd o’r Bryn a’i piau wrth gwrs. Yna, un o berlau Bryn Coch – Hangover am Benmaenmawr. Ydach chi’n cofio’r arwydd Leafy Lane welwyd ar gwr y Lôn Goed ?
Yn Eisteddfod Gadeiriol Gwynedd ym Mhwllheli ddiwedd y bedwaredd ganrif ar bymtheg cafwyd cystadleuaeth cyfieithu’r enw PWLLHELI i’r Saesneg. Dyfed oedd y beirniad. A’r dyfarniad? Neb yn deilwng gan fod Dyfed yn gweld y fath gystadleuaeth yn wrthun. Da iawn fo. Os cofiaf yn iawn, roedd Saline Pool yn un o’r cynigion.
Wrth gwrs ! Cofio wedyn am le arall pwysig iawn, Sound of Cigarette..
Dwi’n dal yn y niwl efo dau, sef Most Impoverished a Double Bed…
Tra Llwm, Cyd-wely. Diolch Osian.
Taraf fy mhen yn erbyn y ddesg. Diolch!
Cyfarchion o Dayfort