Rhai o’r safleoedd yn berwi heddiw gan ymatebion i sylwadau prifathro Rhuthun !
Ond dowch inni gofio un peth. Mae Rhagluniaeth yn anfon pethau fel hyn yn weddol reolaidd i drio gwylltio’r Cymry a’u cael i ddeffro ac ymysgwyd a gwneud rhywbeth ohoni. Anfonodd inni y Llyfrau Gleision, yr Ysgol Fomio, Tryweryn, Brewer-Spinks, George Thomas, y dyn â’r gwn ym Mhenrhyndeudraeth, a llawer o bethau eraill i fod yn dân ar groen a blinder enaid. Ymateb y Cymry, gwylltio a chynhyrfu a chorddi am ychydig ddyddiau neu wythnosau, ac yna mynd yn ôl i gysgu.
Beth gymer hi i ddeffro’r Cymry mewn gwirionedd? Mae Rhagluniaeth yn dal i drio …
Diddorol gweld un sylw ar y datganiad hyn – wn i ddim byd am ei wirionedd:
“Ysgol Brynhyfryd, a bilingual school directly opposite Ruthin School, achieves significantly better results.”
Cytuno’n llwyr! Beth sy’n mynd i’n tanio???