Papurau a Phleidiau

27 Mai

Taro i mewn i Clickonwales, heb fod yno ers tro.   Caed yno drafodaethau y dyddiau diwethaf ar (a) dyfodol y wasg brintiedig, a (b) dyfodol gwleidyddol Cymru, dan bwnc gwahanol ond cysylltiedig yn y pen draw.

‘The end game for newspapers’ yw pennawd Simon Farrington, newyddiadurwr profiadol iawn a chyn-olygydd Wales on Sunday.  Mae ei ddisgrifiad a’i ragolwg yn rhai cyfarwydd, ond â’r dystiolaeth o’u plaid yn helaeth ac yn cynyddu.  Gwêl y papurau lleol wythnosol yn cau ledled y Deyrnas, a’r ychydig bapurau dyddiol Llundeinig ac arall yn beryglus o ddibynnol ar barodrwydd biliwnyddion i dywallt eu harian. Ymatebodd rhai i’r ysgrif, pawb yn cytuno â’r darlun yn gyffredinol ond fel Simon Farrington ei hun yn methu â gweld chwaith fod y cyfryngau digidol yn barod na chymwys i lenwi’r bwlch.  A chyfyngu’r sylw am y tro i’r wasg leol fasnachol, gwelaf anhawster mawr.  Prif gynhaliaeth y wasg hon oddi ar yr Ail Ryfel fu: (a) hysbysebion modurdai, gwerthwyr tai ac arwerthwyr, a  (b)  hysbysiadau swyddi a gwasanaethau gan awdurdodau cyhoeddus.  Bu trai mawr ar y mathau hyn o hysbyseb, nid am eu bod wedi eu trosglwyddo i ‘bapurau newydd’ digidol ond am fod gan yr hysbysebwyr eu gwefannau eu hunain.  Pe bawn i’n werthwr tai neu geir, a fyddai diben imi hysbysebu’n helaeth ar wefan ‘papur’ neu ‘gylchgrawn’ digidol? Onid digon fyddai ambell hysbyseb sydyn, gymharol rad yn tynnu sylw at fy ngwefan fy hun a chyda dolen i fynd ati?

Fel un sy’n dal i gredu, er gwaethaf popeth, mai peth wedi ei wneud o bapur yw papur, bûm i’n meddwl llawer tybed nad oes, yng ngwendid presennol a chynyddol y wasg leol, fasnachol, Saesneg, gyfle i adfywio’r wasg Gymraeg ac ail-greu cynulleidfa ddarllen eang drwy gyfrwng cyfres o bapurau Cymraeg am ddim, a fyddai’n adeiladu ar sylfaen werthfawr y papurau bro. Gwariodd ein cwmni ni, Dalen Newydd Cyf., arian go helaeth, a’i golli, ar arbrawf yn y cyfeiriad hwn naw mlynedd yn ôl.  Efallai yr adroddaf yr holl hanes ryw ddiwrnod, yn cynnwys rhan anogoneddus ambell wleidydd a fethodd hyd yn oed â chydnabod llythyr ar y mater.   Erbyn heddiw, gyda chrebachu pellach ar y gronfa hysbysebion, gallaf ddychymygu fod pethau’n fwy anodd fyth.  Ond fe dâl parhau i feddwl am y peth, ac efallai yr hoffai’r darllenwyr edrych eto ar eitem 1 Gorffennaf 2013, ‘Gwasg mewn Gwasgfa’.

Oherwydd …
§

At Clickonwales y dyddiau hyn hefyd mae tipyn o gloriannu ar ganlyniadau’r etholiad.  ‘It’s time for a fundamental re-think,’ medd Steve Brooks, cefnogwr Llafur. ‘What next for Wales from Plaid Cymru?’ gofyn Leanne Wood.  ‘Back to the drawing board,’ medd y cenedlaetholwr Syd Morgan.  Ie, pam y gwnaeth UKIP ynghyd â’r Torïaid mor dda drwy’r rhan helaethaf o Gymru, gan fwrw Plaid Cymru i’r cysgod yn etholaethau’r Cymoedd lle mae hi wedi llafurio ers hanner canrif?   Dychmygwch ofyn i un o bleidleiswyr UKIP heddiw, neu yn wir y diwrnod wedi’r etholiad, beth a ŵyr am ymgeisydd ei blaid.  Y tebygrwydd uchel yw na fydd yn cofio hyd yn oed ei enw.  Pam pleidleisio iddo felly?  Mae’r ateb yn syml iawn : oherwydd cytuno â’i bolisi.  Oherwydd ei fod yn cynrychioli rhyw syniadau yr oedd y pleidleisiwr yn eu coleddu eisoes. Ble cafodd y pleidleisiwr, ym Merthyr a Chwm Cynon, yng Nghaerffili a Blaenau Gwent, yn Nyffryn Clwyd a Wrecsam, ie yng Ngheredigion a Môn, y syniadau hynny i’w coleddu?  Ateb: o’i bapur newydd.  O’r Sun, y Daily Mail, y Daily Express.  Efallai fod diwedd y rhain yn dod, ond nid yw wedi dod.  A oes gwasg Gymraeg, neu Gymreig, i roi golwg wahanol ar y byd?  Nac oes.

§

Ond wedyn, beth am yr Alban?  Cafodd yr SNP ei llwyddiant ysgubol yn nannedd gwasg elyniaethus dros ben, gyda dwy eithriad yn unig, y papur The National, a sefydlwyd ar frys yn sgil y refferendwm y llynedd, a lled-gefnogaeth y Sun Albanaidd.  Ond un ffactor, yn sicr, yn yr Alban oedd bywiogrwydd blogiau fel Wings over Scotland, Bella Caledonia, Wee Ginger Dug a Munguin’s Republic, a fu’n dyrnu arni o ddydd i ddydd, yn sylweddol, yn ffraeth ac yn ddidrugaredd o ddychanol, yn denu ymatebion wrth y cannoedd ac yn medru codi symiau anrhydeddus o arian ymron dros nos.   Diniwed sobor, mewn cymhariaeth, yw ein blogiau yng Nghymru, Cymraeg a Saesneg, tystiolaeth efallai o ddiwylliant wedi dod i ben ei rawd.  Eithriad yw Jac o’ the North, sy’n gwybod sut i’w dweud-hi ac yn barod i ddweud yr hyn na ddywed neb arall. Rwy’n synnu na byddai mwy’n gwybod amdano.  Ond eto caiff Jac ymatebion da, tipyn gwell na ni’r blogwyr bach Cymraeg.

2 Ymateb to “Papurau a Phleidiau”

  1. gaynor Mai 28, 2015 at 9:16 am #

    bwrw’r hoelen ar ei phen ond o yr och a’r diflastod wrtthfeddwl am y dyfodol du…………..

    • glynadda Mai 28, 2015 at 5:14 pm #

      Diolch yn fawr Gaynor. Am ei bod hi mor anodd ysbrydoli, calonogi, deffro, cymell, symbylu, tanio ac ysgwyd y Cymry, bydd yr hen G.A. weithiau’n trio joch o’r DU, fel y bydd Rhagluniaeth bob hyn a hyn yn trio rhyw gic — gweler eitem 14 Mai.

Gadael Ymateb

Rhowch eich manylion isod neu cliciwch ar eicon i fewngofnodi:

WordPress.com Logo

You are commenting using your WordPress.com account. Log Out / Newid )

Twitter picture

You are commenting using your Twitter account. Log Out / Newid )

Facebook photo

You are commenting using your Facebook account. Log Out / Newid )

Google+ photo

You are commenting using your Google+ account. Log Out / Newid )

Connecting to %s

%d bloggers like this: