Ewch am y pecyn cyfan

30 Mai

Dan y pennawd braidd yn amwys ‘Grid Cenedlaethol yn cynddeiriogi ym Môn’ mae GOLWG 360 yn adrodd am rali a gynhaliwyd yn Llangefni i wrthwynebu codi rhes newydd o beilonau ar draws yr Ynys.  Sicrhawyd y dorf gan Rhun ab Iorwerth AC fod ‘Môn yn gwrthwynebu’r peilonau newydd yn unfrydol’, a derbyniwyd neges o gefnogaeth gan Albert Owen AS.

Digwyddais weld adroddiad, ynghyd â llun,  yr oedd rhywun wedi ei roi ar Wyneblyfr.  Dangosai’r llun, yn wahanol i lun GOLWG 360, fod yno bresenoldeb PAWB, a dywedai’r adroddiad fod Rhun wedi cael ei heclo gan wrthwynebwyr Wylfa Newydd.   Gwahanol rai yn gweld gwahanol bethau, fel yn aml …

Yn wyneb her y peilonau, fy nghyngor i bobl Môn a’u harweinwyr?   Ewch am y pecyn cyfan, dan un.  Os Wylfa Newydd, peilonau newydd hefyd; bydd codi’r rheini’n rhoi Gwaith i Fôn. Ac os cynhyrchu mwy o’r stwff marwol, yna ei gadw.  Oes gan Rhun ryw sied neu garej a allai ddal tipyn ohono? Oes gan Albert d̀ŷ gwydr?  Wedyn claddu’r gweddill yng ngwaelod gardd pob cynghorydd a swyddog o’r cyngor sydd o blaid y Datblygiad Mawr.  Bydd yn berffaith saff o dan y gwely slots.

Gadael Ymateb

Rhowch eich manylion isod neu cliciwch ar eicon i fewngofnodi:

WordPress.com Logo

You are commenting using your WordPress.com account. Log Out / Newid )

Twitter picture

You are commenting using your Twitter account. Log Out / Newid )

Facebook photo

You are commenting using your Facebook account. Log Out / Newid )

Google+ photo

You are commenting using your Google+ account. Log Out / Newid )

Connecting to %s

%d bloggers like this: