Achan a ballu

6 Meh

Tipyn o gorddi mewn senedd a gwasg am fod Alex Salmond wedi dweud ‘Behave, woman’ wrth un o weinidogion y llywodraeth.  Deil Munguin’s Republic nad yw’r defnydd hwn o woman yn sarhaus yn Saesneg yr Alban, nac yn wir dros rannau helaeth o Ogledd Lloegr.

Es i feddwl am y defnydd cyfarchol o rai geiriau Cymraeg.

Cyfeillgar yw hogan yn amlach na pheidio, ac awgrymiadol o ryw gytundeb neu dir cyffredin. ‘Ia wir hogan.’  Gall hogyn fod yn fwy cyhuddol mewn rhai cyd-destunau.  ‘Be wyt ti’n drio neud, hogyn?’

Diamynedd yw ddynas yn y Gogledd a fenyw yn y De.  ‘Be haru chi ddynas?’  ‘Ca’ dy ben, fenyw.’

Annwyl, onid maldodus weithiau, yw ’mach i wrth ferch.  Ond nawddogol yw ’mechan i.  ‘Aros di, ’mechan i.’

Mae ddyn yn weddol niwtral, ond gall fod iddo arlliw heriol neu nawddogol. ‘Codwch ych calon, ddyn.’  Neu gall yntau fod yn ddiamynedd, yn enwedig gan ferch wrth annerch dyn. ‘Be haru chi, ddyn?’

Gair rhwng ffrindiau yw ’achan.  ‘Ew, falch o dy weld di ’achan.’  Ond weithiau gall fod rhyw nodyn diamynedd iddo.   ‘Tyrd o’na, achan!’  Gan ambell siaradwr gall fod rhyw awgrym o ‘wyddet ti ddim?’ neu ‘fe ddylet ti wybod’ ynddo.  ‘Welis i mo’r hen John ers tro.’  ‘Ew, mae o wedi marw, achan.’  Ceir yr un math o amrediad i was, a thebyg yw mun mewn Saesneg Cymreig.

Daeth butt hefyd yn weddol boblogaidd yn Saesneg rhannau o’r Deheudir, ond byddaf yn teimlo mai rhywbeth wedi ei feithrin yw hwn, gan y math o gymeriad sydd hefyd wedi ei hyfforddi ei hun i galetu cytseiniaid.  Eironig neu elyniaethus ydyw, h.y. nid ystyrir y sawl a gyferchir yn butt mewn gwirionedd.  Mae’r sawl sy’n ei ddefnyddio yn ei ffansïo’i hun yn werinwr ac yn sosialydd, ac mae’n hoffi meddwl ei fod yn dod o’r Cymoedd, boed hynny’n wir neu beidio.

Gall boi fod yn gyfeillgar, yn niwtral neu’n gyhuddol, yn ôl y cyd-destun.  Yn gw’ boi  mae rhyw awgrym o roi’r llall yn ei le.  ‘Dishgwl ’ma gw’boi.’  Gellir cael hynny yr un modd yn was-i, ngwas-i, washi, ond nid o angenrheidrwydd.

2 Ymateb to “Achan a ballu”

  1. Marged Haycock (@Gwenddolen) Mehefin 6, 2015 at 10:43 pm #

    Nac anghofier am ‘lòs’ — dim ond mewn cyfarchiad, ac annwyl/diamynedd fel arfer (o’r Saesneg ‘lass’, rwy’n meddwl, er bod GPC yn dweud mai talfyriad o ‘lodes’ yw’r gair ( < Saesneg hefyd yn y pen draw ). Brycheiniog yn enwedig, gogledd Sir Gâr, darnau o Geredigion. Ble mae 'wa' a 'pwt'? Yn mwynhau darllen y blog.

  2. Daf Mehefin 11, 2015 at 3:21 pm #

    “Daeth butt hefyd yn weddol boblogaidd yn Saesneg rhannau o’r Deheudir ond byddaf yn teimlo mai rhywbeth wedi ei feithrin yw hwn, gan y math o gymeriad sydd hefyd wedi ei hyfforddi ei hun i galetu cytseiniaid.”

    Am rwtsh! Yn rhan fwyaf Cymoedd y De Ddwyrain, mae ‘butt’ yn derm sy’n cael ei ddefnyddio gan bawb – yn hen ac ifanc. Er fel arfer yn dangos cyfeillgarwch/agosatrwydd, gall hefyd fod yn gyhuddgar. Mae’n siwr bod rhai yn ymdrechu i ddefnyddio geirfa fyddai’n gwneud iddynt ymddangos yn fwy ‘gwerinol’ (beth am c***t yng Nghaernarfon?!) ond mai honni bod y term hynod gyffredin yma wedi ei ‘feithrin’ heb unrhyw ol ymchwil i weld yn rhyfedd.

    Peth peryglus yw cyffredinoli heb ymdrechu i ddeall/ymchwilio…

Gadael Ymateb

Rhowch eich manylion isod neu cliciwch ar eicon i fewngofnodi:

WordPress.com Logo

You are commenting using your WordPress.com account. Log Out / Newid )

Twitter picture

You are commenting using your Twitter account. Log Out / Newid )

Facebook photo

You are commenting using your Facebook account. Log Out / Newid )

Google+ photo

You are commenting using your Google+ account. Log Out / Newid )

Connecting to %s

%d bloggers like this: