Brad Bob Lewis ?

14 Meh

Simon Brooks, Pam na fu Cymru.  Methiant Cenedlaetholdeb Cymraeg.  (Gwasg Prifysgol Cymru, 2015).

I.    Y  DDADL

Cefais ddarllen y llyfr hwn mewn drafft a thrafod agweddau arno gyda’r awdur. Serch hynny bu’n bleser ac yn addysg ei ddarllen am yr eildro a meddwl yn galed am ei ddadl.  Tameidiol yn hytrach na chyfundrefnol yw’r ymateb sy’n dilyn.

Fe sylwa’r darllenydd (a) nad oes holnod yn nheitl y llyfr, a (b) mai ‘Cymraeg’ ac nid ‘Cymreig’ a ddywedir.

Yr amcan yw dweud wrthym pam, pryd a sut yr aeth pethau o chwith. ‘Pam nad yw Cymru heddiw’n wlad Gymraeg ei hiaith?  Pam nad yw Cymru heddiw’n wlad annibynnol?  Sut y gallai gwlad a oedd yn 1850 yn uniaith Gymraeg dros y rhan fwyaf o’i thiriogaeth fod o fewn dim i golli’r iaith cyn pen can mlynedd?’   Nid oes neb cyn hyn, hyd y gallaf gofio, wedi gosod y ddau gwestiwn mor blwmp a phlaen.  Yn eu pennau gellid rhoi cwestiwn arall, cysylltiedig: sut y llwyddodd yr unrhyw wlad, a hithau’n gyfoethog o’r fath adnoddau, i roi ei chyfoeth i gyd i ffwrdd?  Yr ateb, medd Simon Brooks, yw absenoldeb mudiad cenedlaethol.  A mwy na hynny, presenoldeb rhywbeth arall yn ei le.  Rhyddfrydiaeth.

Bu’n rhyw dybiaeth gennym, er ein bod wedi ei chywiro i ryw fesur yn ystod y blynyddoedd diweddar, fod cymaint ag a fu o genedlaetholdeb Cymreig tua diwedd y bedwaredd ganrif ar bymtheg yn dilyn yn naturiol o radicaliaeth cenhedlaeth neu ddwy flaenorol.  Morgan John Rhys, Gomer, David Rees, S.R., Ieuan Gwynedd, Gwilym Hiraethog, R.J. Derfel, Michael D. Jones, Emrys ap Iwan, – rhyw olyniaeth fel yna, gyda rhyddfrydiaeth yn graddol aeddfedu’n ddealltwriaeth gliriach o anghenion y Cymry fel Cymry. Mae Simon Brooks yn gwrthod y crynodeb hwn yn llwyr, gan osod M.D.J. ac Emrys yn glir ar wahân i’r traddodiad o’u blaenau.  Dengys yn wir fel y bu i M.D.J. ac S.R. eu pasio’i gilydd, bron na ddywedir cyfnewid ochr ar eu hymdaith wleidyddol.  Yn 1824 ysgrifennodd S.R. draethawd ‘Ardderchowgrwydd yr Iaith Gymraeg’ ac ennill gwobr eisteddfod amdano.  ‘Gwaith ceidwadwr’ ydyw, medd Simon Brooks.  ‘Cofeb i’r Gymru a allai fod wedi bod, ond na ddaeth i fodolaeth, yw’r traethawd heriol a thra gwych hwn.’ Ymhen blynyddoedd yr oedd rhyw bethau – a rhoddir pwyslais cryf ar ei brofiadau yn yr Amerig – wedi arwain S.R. i newid ei feddwl yn o lwyr, i synio bod yn rhaid gweithio tuag at un iaith er mwyn creu byd heddychol a bod rhaid i’r Gymraeg ddiflannu fel rhan o broses felly. Teg yw ychwanegu yma na chafodd S.R. unrhyw wobrau bydol am ei newid meddwl, ac nad er ceisio’r rheini y’i gwnaeth. Dyna inni M.D.J. wedyn, yn Rhyddfrydwr gweithgar adeg etholiad ’59, a dialedd yn disgyn ar ei fam o ganlyniad, ond yna’n graddol ‘ymbellhau oddi wrth effeithiau difaol Rhyddfrydiaeth Seisnig’ nes dod i gytuno â Charles Stewart Parnell nad oedd dim i’w ddewis, o safbwynt y cenhedloedd Celtaidd, rhwng Rhyddfrydwr a Thori.  Daeth Emrys ap Iwan i’r union gasgliad.

Roedd ein hynafiaid drwy gyfnod Cymru Fydd a hyd at y Rhyfel Byd Cyntaf yn hoff o gyhoeddi mewn cân ac araith ‘mae Cymru’n rhydd’.   ‘Mae Cymru’n Rhyddfrydol’ oedd yr hyn yr oeddent yn ei olygu, ac er ein bod ni ers peth amser wedi dod i weld y gwahaniaeth, cymer beth ymdrech o hyd i’n hatgoffa ein hunain ohono.   Nod ac effaith y llyfr hwn yw tanlinellu’r gwahaniaeth.  Gobeithio fy mod yn crynhoi pennau’r ddadl yn deg, fel a ganlyn.  Ideoleg gymathol, wrthleiafrifol ac anoddefgar o wahaniaethau fu Rhyddfrydiaeth, â’i gwreiddiau, yn union fel gwreiddiau Jacobiniaeth Ffrengig, yng Ngoleuedigaeth y ddeunawfed ganrif.  Rydym yn ddigon cyfarwydd â gwrth-Gymreigrwydd y mudiad Llafur drwy ganmlwydd namyn deg ei oruchafiaeth; ond roedd y drwg wedi ei wneud cyn hynny. Yng nghyfnod Rhyddfrydiaeth, a than ei dylanwad hi, y cymerodd y Cymry’r tro anghywir gan roi ar waith y prosesau sydd ymron wedi ein difa erbyn hyn.  ‘Gwlad ryddfrydol, nid sosialaidd, oedd Cymru yn y cyfnod rhwng Brad y Llyfrau Gleision a’r 1890au, a methiant rhyddfrydol oedd y methiant i sefydlu mudiad cenedlaethol pan oedd y Gymraeg yn iaith lafar mwyafrif y boblogaeth.’  ‘Dogfen ryddfrydol, flaengar’ oedd y Llyfrau Gleision, ac roedd rhyddfreinio’r Cymry yn amcan diffuant ynddi.  Fe dderbyniwyd ei hymosodiad ar y Gymraeg gan Gymry 1847 am fod eu harweinwyr eisoes yn Rhyddfrydwyr.

Cytuno?  Anghytuno?  Pwy sydd am wrthateb?  Beth amdani, Ddemocratiaid Rhyddfrydol Cymru?  Beth am gael seiat uwchben y llyfr hwn yn eich Cynhadledd Flynyddol nesaf?  Pwy sydd am agor?  Mark Williams?

II.   DEUDDEG  DYFYNIAD MOEL

I hybu’r drafodaeth, dyma ddeuddeg dyfyniad, yn foel a heb sylwadau. Gellid oriau o drafod ar bob un.  Rhoddaf y tudalen bob tro, er mwyn i’r Cynadleddwyr allu gweld y dyfyniad yn ei gyd-destun.

1.   ‘Roedd y Diwygiad Methodistaidd yn fudiad o bwys, yn llawer mwy dylanwadol yng Nghymru na’r “Enlightenment” seciwlar, ond ni oleuodd genedl y Cymry yn y materion a drafodir yn y gyfrol hon.’ [xvi]

2.    ‘Oherwydd y Diwygiad Methodistaidd, rhwystrau ar ledaeniad syniadau goleuedig yng Nghymru, maint pitw’r dosbarth canol brodorol, ac yn bennaf oll yr adwaith amddiffynnol i ymosodiad y Llyfrau Gleision yn 1847, caregwyd delwedd y Cymry ohonynt hwy eu hunain fel cenedl dduwiolfrydig.’  (34)

3.    ‘Roedd Rhyddfrydiaeth laissez-faire canol y bedwaredd ganrif ar bymtheg yn radical yn yr un ffordd ag y bu Thatcheriaeth ddiwedd yr ugeinfed ganrif. Gwadai fod y fath beth yn bod â chymdeithas.’  (64)

4.   ‘Felly pwysleisir drachefn gaswir Rhyddfrydiaeth o safbwynt y Gymru Gymraeg: nid yn enw Adwaith y gorthrymwyd y Cymry, ond yn enw blaengarwch, ac wrth iddynt gofleidio’r wleidyddiaeth flaengar hon y gorthrymodd y Cymry eu hunain.’ (75)

5.   ‘Os felly, ymdrech yw’r Llyfrau [Gleision] yn hanesyddiaeth y Cymry i roi’r bai ar y Saeson am fod y Cymry wedi dewis cefnu ar y Gymraeg, honiad cyfleus o safbwynt radicaliaeth Gymreig.  Y gwir amdani yw y buasai’r Cymry wedi arddel Rhyddfrydiaeth wrthleiafrifol hyd yn oed pe na bai’r Llyfrau Gleision erioed wedi gweld golau dydd. … Pechodd y Llyfrau Gleision, ond nid ar sail nac iaith na chenedlaetholdeb.  Yn 1847, roedd arweinwyr y Cymry eisoes yn bobl ryddfrydol, ac roeddynt yn chwannog eithriadol i godi Saesneg a chymathu’n ieithyddol. Daw’r gynddaredd yn erbyn y Llyfrau Gleision o ddicter cyfiawn, ac o gywilydd hefyd, nad oedd y Saeson wedi deall hyn.’  (79)

7.    ‘Buasai perygl i leiafrifoedd bob tro mewn cydweithio diamod â rhyddfrydwyr a sosialwyr y mwyafrif goruchafol.  Ni ddysgwyd y wers hon yng Nghymru.’  (97)

8.   ‘Diniweidrwydd syniadol yn wyneb bygythiad Rhyddfrydiaeth fwyafrifol, o leiaf ymhlith carfannau mwyaf dylanwadol y gymdeithas, yw prif nodwedd y meddwl Cymraeg mewn cymhariaeth â’r meddwl gwleidyddol yng ngweddill Ewrop.’  (97)

9.   ‘Yng nghysgod y methiant, erys sylwadaeth Emrys ap Iwan a Michael D. Jones yn gofeb i’r Gymru amgen, y Gymru Rydd Gymraeg, na ddaeth i fodolaeth.’  (103)

10.   ‘Ni all y mudiad cenedlaethol ymroi i achosion radicalaidd Prydeinig, a chynghreirio â’r Aswy trwy wledydd Prydain mor gyson ag y gwna, heb fod hynny’n effeithio ar gyd-destun y ddadl Gymreig. … Dengys hanes Cymru yn y bedwaredd ganrif ar bymtheg fod i gydweithio o’r fath ei beryglon. Gellir esbonio gwendid presennol cenedlaetholdeb yng Nghymru trwy fod y mudiad cenedlaethol wedi dychwelyd at wleidyddiaeth radical, ddyneiddiol, gyffredinol y ganrif honno.’   (133-4)

11.    ‘Roedd Cymru Oes Fictoria ymhlith cymdeithasau mwyaf modern y byd.  Roedd ei phobl yn llythrennog, roedd ganddynt wasg.  Er bod y dosbarth bwrdais yn fychan, pe troesai at genedlaetholdeb, gallasai fod wedi lledu’r efengyl newydd, ond ni wnaeth.’  (136)

12.     ‘Enciliodd y gymdeithas Gymraeg gyda chydsyniad y Cymry eu hunain. Felly ceir y sefyllfa od yng Nghymru mai’r hyn a laddodd y Gymraeg oedd Rhyddfrydiaeth yn hytrach na Cheidwadaeth, radicaliaeth yn hytrach nag Adwaith, democratiaeth yn hytrach nag awtocratiaeth, ac addysg yn hytrach na diffyg dysg. … Dengys Cymru, yn well nag unrhyw enghraifft arall yn Ewrop, yn wir yn y byd, yr hyn sy’n digwydd i leiafrif pan wyneba Ryddfrydiaeth fwyafrifol yn ddiamddiffyn.’

III.    RHYDDFRYDIAETH  – EI GWERTH A’I GWENDID

Wedi imi fod yn euog uchod o ychydig wamalrwydd ar draul un o bleidiau’r dwthwn hwn yng Nghymru, rhaid brysio i bwysleisio mai â Rhyddfrydiaeth fel ideoleg, athroniaeth neu egwyddor y mae a wnelo Simon Brooks gan mwyaf oll, nid â’r Blaid Ryddfrydol na’i holynydd heddiw. Ond ar gefn hynny mae’n anodd peidio â’n hatgoffa’n hunain hefyd o’r pris a dalwyd am fethiannau Rhyddfrydiaeth fel plaid.  Deilliodd y methiannau hynny o’i gwendid, – gwendid traddodiadol y Chwith wyneb yn wyneb â’r Dde, a gwendid a etifeddwyd yn helaeth iawn gan y Blaid Lafur. A rhoi dim ond dwy enghraifft, o wendid gwaradwyddus llywodraeth Asquith, a oedd hefyd yn wendid Asquith ei hun, y tarddodd (a) problem barhaol Gogledd Iwerddon, a (b) y Rhyfel Mawr a’i holl ganlyniadau, yn cynnwys rhyfel arall.

I mi, bron er pan wyf yn ddigon hen i gofio, mater gofid mawr yw’r ffeithiau hyn.  Mae ar y byd angen Rhyddfrydiaeth, a thrueni na welid rhywfaint ohoni heddiw mewn parthau helaeth sydd wedi gwallgofi gan ideolegau ffwndamentalaidd.  Yn wir fe rydd Simon Brooks inni ar dudalen 112 grynodeb erch o fywyd yr Ewrop anrhyddfrydol. Fel y dywedodd Lloyd George ar un o’i ddyddiau Rhyddfrydol (ac weithiau y câi ddyddiau felly), dynol ryw yn tyfu i fyny yw Rhyddfrydiaeth.  Daw Boris Johnson yn y genhedlaeth hon, fel y mae Michael Heseltine mewn to hŷn, ac yn wir Churchill yn ei ddydd ac F.E. Smith cyn hynny, i’n hatgoffa mai dynol ryw yn gwrthod tyfu i fyny yw Torïaeth, ei gwleidyddiaeth wedi fferru mewn rhyw dragwyddol ‘upper fourth’, – a diau fod a wnelo hynny i gryn fesur ag addysg wyrdroedig y math o unigolion a enwais.  Hyd at 1914 yr oedd mewn Rhyddfrydiaeth o hyd y dichonoldeb o dyfu’n rhywbeth tipyn mwy radicalaidd a mwy adeiladol nag a fu’r Blaid Lafur erioed, ond fel y dywedais bu’n rhy wan i’w wireddu. Yr oedd arni ofn y farn gyhoeddus ac ofn y Daily Mail, ac yr oedd ei phrif arweinwyr gan eithrio Lloyd George yn rhy ddiog.

IV.    PEDWAR  DYFYNIAD AC AMBELL SYLW

Dyna ddweud digon efallai i osod yr hen G.A. mewn corlan bur wrthwyneb, yn sylfaenol, i Simon Brooks. Ond gan werthfawrogi’n fawr iawn yr un pryd ddifrifwch a disgleirdeb y drafodaeth  hon a’r cyfoeth o wybodaeth ac ystyriaethau y mae’n ei osod ger bron, dyma yn awr ambell ddyfyniad gyda sylw.

1.    ‘Lle i enaid gael llonydd yw Berlin.’  (xiii)  Mae’r cefndir Almaenig yn ddiosgoi drwy’r ymdriniaeth hon.  Ymddengys mai Almaenwyr a welodd gliriaf gyfeiliornad Cymru’r bedwaredd ganrif ar bymtheg. Cyfaddefaf na wyddwn i ddim o’r blaen am Heinrich Rohlfs a Georg Sauerwein, a diddorol iawn yw eu sylwadau.  Pwysleisir cyfraniad Christian Bunsen, Llysgennad Prwsia a brawd-yng-nghyfraith Gwenynen Gwent, tuag at weledigaeth Cylch Llanofer, a chyfeirir sawl tro at Johann Gottfried Herder fel awdur athroniaeth y buasai’n dda i Gymru ei dilyn.  Gyferbyn â rhamantiaeth Herder safai Hegeliaeth, gyda Syr Henry Jones yn cynrychioli yn ei ddydd ben-draw’r difaterwch ynghylch y Gymraeg.  Os gwir y chwedl i Syr Henry golli prifathrawiaeth gyntaf  Coleg y Gogledd am iddo gael ei weld yn smocio sigarét ar y stryd ym Mangor ar ddydd Sul, llawn cystal hynny efallai.  Y tebyg yw y buasai yr un mor drychinebus o safbwynt y Gymraeg ag unrhyw un a gafodd y swydd.  Ochr dda’r stori yw fod disgynyddion iddo heddiw wedi troi’n ôl yn Gymry, yn groes i’r duedd ddieithriad bron ymhlith disgynyddion Cymry Cymraeg amlwg.

2.      ‘Ceir disgrifiad trawiadol o derfysgoedd yr Wyddgrug yn Rhys Lewis (1885) Daniel Owen, sy’n darlunio’n glir gymhellion ethnig digymrodedd llawer o’r terfysgwyr, wrth bwysleisio yng nghymeriad Bob Lewis gymedroldeb y sawl a oedd o gefndir Methodistaidd, ac felly o fewn gafael ideoleg Rhyddfrydiaeth Brydeinig.’  (25)   Fe gofia darllenwyr y nofel mai annog ei gydweithwyr i ymbwyllo a wnaeth Bob, ac achub bywyd Mr. Strangle y rheolwr o Sais, ond mai ei ddiolch am hynny fu cael ei gyhuddo ei hun, ei guro gan yr heddlu a’i fwrw i garchar.  Daeth Bob yn arwr Rhyddfrydol, yn wrthrych llyfr cyfan, Bob Lewis (Brawd ‘Rhys Lewis’) a’i Gymeriad gan y Parchedig Henry Evans (1904), ac yn batrwm ar gyfer olyniaeth o broffwydi ifainc camddealledig yn yr hen ddramâu poblogaidd.  Os mai’r terfysgwyr ‘ethnig’, chwedl Simon Brooks, oedd yn iawn, ac os yw dadl y llyfr yn gywir drwodd a thro, hwyrach y gallem roi ‘Brad Bob Lewis’ yn deitl ar grynodeb o hanes Cymru Oes Fictoria.  Yn ôl Saunders Lewis yn ei lyfr ar Ddaniel Owen, tipyn o syrffedwr (bôr) oedd Bob (fel Wil Bryan yntau). Arwr y llyfr hwnnw yw Mr. Brown y Person.  ‘Gŵr rhadlawn a charedig’ medd Daniel Owen ei hun amdano.  Ond beth am y diwrnod pan gymerodd ei le gyda’r sgweiar ar Fainc yr Ynadon a gyrru Bob i’r jêl?

3.    ‘A bu’r diwylliant Cymraeg yn ymddatod yn gynt o dan reolaeth adain chwith llywodraeth Bae Caerdydd nag y gwnaethai yng nghwrs deunaw mlynedd o lywodraeth Thatcheraidd [L]undeinig.’ (123)    Gwir bob gair, ysywaeth.  Ond hyd yma ni chlywais i yr un cenedlaetholwr yn dweud ‘mi fotiais i NA yn ’79 a ’97 rhag ofn i hynny ddigwydd, a chan gofio rhybudd brawddeg olaf Tynged yr Iaith.’

4.    ‘Fel arfer, ni chyflwynir mesurau cryfion o blaid lleiafrifoedd mewn cymdeithasau democrataidd-ryddfrydol ond pan fo’r lleiafrif ieithyddol yn cipio grym gwleidyddol ei hun, fel sydd wedi digwydd yn Québec, Catalwnia, Gwlad y Basg, ac yn y cyd-destun Cymraeg yng Ngwynedd.’  (129)  O ran Gwynedd, cywir os golygir ‘Gwynedd go iawn, 1974-96 ’.  Yn y ‘Wynedd’ anghyflawn bresennol, do fe gipiwyd grym, os dyna yw ennill mwyafrif da o seddau, ond ei daflu ymaith wedyn drwy bolisïau eithafol annoeth.  Cynigiaf yma ddwy ddamcaniaeth gynllwyn, i’r darllenwyr gael dewis ohonynt.  (a) Mae rhai o swyddogion Gwynedd dan ddylanwad Rhyw Allu Arall, ac yn gweithio i danseilio’r cynghorwyr, Plaid Cymru a’r cyngor.  (b) mae Rhyw Allu Arall â’i afael ar y cynghorwyr eu hunain, neu o leiaf eu harweinwyr, ac wedi drysu eu synhwyrau.

V.    CRAIDD Y MATER

Yn awr at graidd y mater.  Os mai Rhyddfrydiaeth oedd y methiant mawr, neu’n wir y malltod, beth oedd y dewis arall i’n cyndadau Fictoraidd?  Aros dan adain John Elias?  Glynu wrth Syr Watkin Williams-Wynn?   Pa broffwyd Ceidwadol Cymreig oedd yna i’w harwain tua’r goleuni? Brutus?  Yr hen Dalhaiarn? Noda Simon Brooks mai eithafol wrth-Geltaidd oedd y blaid Dorïaidd drwyddi draw.  Ac am Eglwys Loegr, faint o dystiolaeth o blaid y Gymraeg a gyflwynodd hi i Gomisiynwyr 1847?  Cylch Llanofer a’r Hen Bersoniaid Llengar, ie, haeddiannol yw pob clod a roddir iddynt yn y llyfr hwn; ond gwerddonau oeddynt yn anialwch y Gymru Geidwadol ac Eglwysig.  Rhyw fyd Disney oedd Llanofer er cystal rhai o fwriadau’r Arglwyddes; er enghraifft nid oedd yno unrhyw ddealltwriaeth o gymhellion y Siartwyr yr ochr arall i’r bryn, mwy na chan Garnhuanawc, hanesydd mwyaf goleuedig Cymru’r bedwaredd ganrif ar bymtheg mewn rhai pethau.  (Mwy na chan S.R. chwaith, gall Simon Brooks ychwanegu. Oedd, yr oedd gagendor go fawr rhwng unigolyddiaeth Llanbrynmair a’r gweithredu torfol a ymddangosai i eraill yr unig ffordd o’u hadfyd.)

Beth am gynigion diweddarach i ymryddhau oddi wrth rai o gyfyngiadau Rhyddfrydiaeth?  Nid oes unrhyw resymeg ar wyneb y ddaear yn mynd i wneud Tori o Michael D. Jones nac o Emrys ap Iwan, a rhaid pwysleisio nad yw Simon Brooks yn awgrymu dim o’r fath. Meddyliwr gwerth dychwelyd ato oedd John Arthur Price, rhagredegydd pwysig i Saunders Lewis yn rhai o’i syniadau; da gweld peth sylw iddo yma. Fe ddywedodd Price yn 1925 mai ‘yr hyn y dymunwn ei weled oedd plaid Dorïaidd Genedlaethol Gymreig.’  Eto, ar ôl pori cryn dipyn o bryd i’w gilydd yn ei ysgrifau, ni welaf ynddynt fawr o ddim y byddwn yn ei alw’n Dorïaeth heb lawer o oleddfu.  Adeg y Rhyfel Byd Cyntaf yn arbennig, themâu gwir Ryddfrydol a welaf i yn ei waith, yn gwrthateb y dorfolaeth a nodweddai, erbyn hynny, wleidyddiaeth Lloyd George ac athroniaeth Henry Jones a chywair y cyhoedd yn gyffredinol.  Cywiro diffygion Rhyddfrydiaeth oedd cenhadaeth Saunders Lewis yntau, a gwnaeth hynny mewn mwy nag un cylch, – gan gynnwys yr esthetig, fel y dywed Simon Brooks mewn brawddegau diddorol.  Eto, o ddarllen y ‘Deg Pwynt Polisi’ a Canlyn Arthur drwyddo, anodd yw gweld rhaglen drwyadl geidwadol.  Ymataliol fu’r adwaith esthetig, sef hynny o ‘Foderniaeth’ Gymraeg a gafwyd rhwng y ddau ryfel, a chyfaddawdol yr un modd fu’r wrth-ryddfrydiaeth. Anodd meddwl am weithred lai Torïaidd na Llosgi’r Ysgol Fomio!  Yn y gyfrol Sons of the Romans: The Tory as Nationalist gan H.W.J. Edwards (1975), gwêl Simon Brooks ‘glasur coll gwrthryddfrydol, Torïaidd Cymreig, digyfaddawd o genedlaetholgar’.  Adolygais y gyfrol hon pan oedd yn newydd, a darllenais gannoedd o ysgrifau H.W.J.E. yn y Daily Post gan eu torri allan a’u cadw.  Maent oll yn ddiddorol am eu bod yn wahanol ac yn groes i’r llif, ond ni ellais erioed weld ynddynt – mwy nag yng ngwaith eu hysbrydolwr A.W. Wade-Evans – raglen i’n codi o’r twll yr ydym ynddo.

Nid oedd sail gymdeithasol i fudiad cenedlaethol ceidwadol yng Nghymru’r bedwaredd ganrif ar bymtheg, ac nid oes eto, dyna’r gwir amdani. Daw Simon Brooks at hanfod y mater lle dywed (t. 147, nod. 84) nad oedd gennym uwch-fwrdeisiaeth frodorol, Gymraeg, – pwynt a wnaed droeon gan Gareth Miles, gan ddod ato o gyfeiriad hollol wahanol.

Hyd yma yn hanes Cymru, ni ddaeth ‘y Dde i’r adwy’.  A all ddod eto?  Pwnc sy’n aros i’w brofi.

Byddai’n dda meddwl y bydd darllen ac ystyried a thrafod eang ar y llyfr hwn.  Ond drwy ba gyfryngau?  Ym mha gylchgronau neu bapurau, mewn difri?

VI.    HYSBYSEBU

Gorffennaf heddiw drwy hysbysebu. Yng nghwrs tipyn o waith golygyddol yn ddiweddar rhoddais gryn sylw i rai o glasuron Rhyddfrydiaeth.  Yng nghyfres ‘Cyfrolau Cenedl’ cyhoeddwyd eisoes Dramâu W.J. Gruffydd (£8), ac Eira Llynedd ac Ysgrifau Eraill (£15)  gan yr un awdur;  ac nid yw Beirniadaeth John Morris-Jones (£15) heb ei chysylltiad â’n thema.  Y perygl yw fod y cyfrolau hyn bellach wedi eu hysgubo o’r siopau neu ar y gorau yn cwato mewn corneli; gellir eu cael drwy e-bostio dalennewydd@yahoo.com.  Yn yr un gyfres, wedi ei chysodi ac yn disgwyl ei thwrn, mae nofel hynod Beriah Gwynfe Evans, Dafydd Dafis, dychan ar wleidyddiaeth Cymru Fydd gan ysgrifennydd y mudiad ! Yng nghyfres arall ‘Yr Hen Lyfrau Bach’ gallwch ddisgwyl cyn bo hir Hen Lyfr Bach Lloyd George (detholiad o’i ddywediadau drwy’r yrfa dymhestlog hir), dwy awdl John Morris-Jones Cymru Fu, Cymru Fydd a Salm i Famon, a Hen Lyfr Bach Cilhaul, gwaith S.R. a rhagflaenydd Chwalfa, Cysgod y Cryman a phob nofel ryddfrydol Gymraeg arall.  Mae fy stori ‘Trobwynt’ yn ymwneud â’r berthynas-na-fu rhwng rhyddfrydiaeth a chenedlaetholdeb, ac efallai â chyfle a gollwyd ! Gellir ei darllen yn rhifyn Ionawr 2015 o’r Traethodydd neu ar y blog hwn, 18 Mai 2013.

Advertisements

Un Ymateb to “Brad Bob Lewis ?”

  1. Dr Robert Llewellyn Tyler Mehefin 15, 2015 at 10:59 am #

    Diddorol dros ben. Diolch

Gadael Ymateb

Rhowch eich manylion isod neu cliciwch ar eicon i fewngofnodi:

WordPress.com Logo

You are commenting using your WordPress.com account. Log Out / Newid )

Twitter picture

You are commenting using your Twitter account. Log Out / Newid )

Facebook photo

You are commenting using your Facebook account. Log Out / Newid )

Google+ photo

You are commenting using your Google+ account. Log Out / Newid )

Connecting to %s

%d bloggers like this: