Pam y bu Cymru

22 Meh

Wedi cofnodi wythnos yn ôl ychydig ymateb i’r gyfrol Pam na bu Cymru, dyma fi’n dal i’w throi yn fy meddwl.

Beth am gymryd golwg y ffordd arall heddiw?  Ac o ran hwyl dyma hepgor yr holnod eto o’r teitl.

Mae Simon Brooks yn crybwyll yn ei ragair: ‘Fe’m dysgwyd gan Tony Bianchi pam na ddaeth Northumbria yn genedl.’ Heb wybod esboniad Tony Bianchi, dyfalaf:  am iddi chwarae rhan allweddol mewn creu cenedl helaethach.  Dyna un rheswm safonol pam na thyf gwlad yn genedl, h.y. pam nad yw’n dechrau hawlio iddi ei hun yr enw ‘cenedl’ na dim byd cyfatebol, ac mae’n wir yr un modd am Wessex, Mercia ac efallai eraill o wledydd Lloegr.

Ond petaem yn gofyn, er enghraifft, pam na ddaeth Rheged yn genedl? neu Gododdin?  neu Ystrad Clud?  – byddai’r esboniad yn wahanol.  Y rheswm y tro hwn yw eu bod eisoes yn bwerau, yn egin-wladwriaethau, a chan hynny yn dargedau i bwerau eraill a brofodd yn gryfach na hwy.  Y tebyg yw y daeth eu diwedd gyda disodli eu teuluoedd llywodraethol, a gall hynny ddigwydd (a) drwy rym, a (b) drwy briodas.

Cefais achos yn ddiweddar i bori unwaith eto yng nghyfrol helaeth a thra diddorol Norman Davies, Vanished Kingdoms. Yn wir mae teyrnas Frythonaidd Ystrad Clud yn un o’r esiamplau a gymerir.  Gofynnir yr un modd beth ddigwyddodd i Aragon, Bwrgwyn, Galicia, Etruria ac eraill hyd at bymtheg mewn nifer, gan neilltuo’r bennod olaf i’r wladwriaeth enfawr a ddatgymalodd dan drwynau pawb ohonom mor ddiweddar, yr Undeb Sofietaidd.   Rywsut neu’i gilydd fe ddiflannodd y rhain oll.  A dyma ni Gymry, ‘Yma o hyd’, ym marn un bardd o leiaf.

Sut?  Pam?

Mewn darlith yn 1975 fe gyfeiriodd Dr. Enid Roberts at :  ‘ … y flwyddyn dyngedfennol honno, 1282, y flwyddyn yr achubwyd yr iaith Gymraeg a’r diwylliant brodorol.’  Ni welais neb, nac ar y pryd  nac wedyn, yn herio’r sylw.  Gellir o hyd ddarllen y ddarlith a gweld y sylw yn ei gyd-destun yn Nhrafodion Cymdeithas Hanes Sir Ddinbych, 1975.

Beth petawn i heddiw, er mwyn dadl, yn rhesymu fel hyn?  Daeth Llywelyn ab Iorwerth (Llywelyn Fawr) i bob diben yn ben ar Gymru gyfan, yn llwyddiant gwleidyddol, milwrol a diplomyddol mwyaf Cymru’r Oesau Canol;  ond ni hawliodd erioed deitl ‘Tywysog Cymru’.  Tybed nad syrthio i’r trap a wnaeth Llywelyn ap Gruffudd (Y Llyw Olaf)?  Beth oedd gêm Gerallt Gymro, y cymeriad amwys hwnnw, yn siarsio’r Cymry bod raid iddynt uno dan un tywysog cryf?  Beth oedd cymhelliad brenin Lloegr, Harri III, yn cydnabod rôl a theitl Tywysog Cymru o fewn y drefn byramidaidd ffiwdal? Petai Cymru diwedd y drydedd ganrif ar ddeg wedi para’n fwy ‘datganolog’, ac arfer gair modern, a fuasai pethau’n well?  Ai drwy greu un targed iddo’i hun y sicrhaodd y Norman yr hyn yr ydym yn dal i’w alw yn ‘goncwest’?

Ond ai’r goncwest honno fu’r waredigaeth, fel y myn Enid Roberts?  Mae hyn o leiaf yn wir: gallai Dafydd ap Gwilym ym mhen hanner canrif, ac yna Guto’r Glyn ym mhen canrif arall, ac yna Gruffudd Hiraethog ym mhen canrif eto, fod wedi canu ‘Rŷn ni yma o hyd’, os mai ystyr hynny fyddai bod y Gymraeg a’i diwylliant yn dal yn ddiogel a dianaf.

Ond nid oes osgoi dros byth ar wleidyddiaeth, a thyfodd y teimlad fod pethau heb fod yn iawn ar ‘Gymry, fynych gamfraint’.  Daeth ymgais Glyndŵr, a daeth Maes Bosworth, ac yn y man daeth y flwyddyn 1536.

Gwnaeth ‘y Ddeddf Uno’, fel y daethom i’w galw, Gymro yn gyfartal â Sais o dan y Goron; a thrwy’r un trawiad yn union yn anghyfartal. Er mwyn dal swydd daeth yn ofynnol i’r Cymro ‘siarad y ddwy’, tra câi’r Sais ddal yn uniaith.  Dyna egwyddor pob llywodraeth a welsom oddi ar hynny.  Dyma enghraifft o ‘foddi mewn dŵr cynnes’, fel y dywedir.  Ond ymhlith cymhellion Harri VIII a’i gynghorwyr cyfrwys, anodd meddwl nad oedd cof byw am y modd y daeth tad y brenin hwn i’r orsedd, sef drwy i Gymru daro ergyd at galon Lloegr.  Yr oedd raid i’r gwahaniaeth ddechrau diflannu, onide ni byddai Lloegr yn gwbl ddiogel.

Yn yr amgylchiadau tra gwahanol a oedd wedi eu creu gan ei thad, trodd Elisabeth at ateb gwahanol, a rhoddodd y Beibl i’r Cymry yn eu hiaith, a chyda hynny dair canrif o einioes eto. Ond cyn diwedd y drydedd ganrif digwyddasai’r flwyddyn 1847.  Yr oedd gwladgarwyr ar y pryd, ac ymron bawb hyd heddiw, yn beio comisiynwyr y Llyfrau Gleision. Ond mae Simon Brooks yn beio arweinwyr y Cymry, gan ddal eu bod eisoes yn coleddu’r un ideoleg â’r comisiynwyr.

Araf a phetrus y tyfodd gwrthwynebiad i’r ideoleg honno.  Araf y daeth argyhoeddiad na allai’r Cymry fel grŵp ethnig oroesi heb amddiffyniad gwleidyddol.  Cafwyd Cymru Fydd ddiwedd Oes Victoria – ymgais nid mor ffôl yn fy marn i, er ein bod wedi arfer ei chymryd yn ysgafn o’r pryd hwnnw hyd heddiw. Ac wedi’r Rhyfel Mawr cafwyd cenedlaetholdeb gwleidyddol Cymreig modern.

Mae cenedlaetholdeb, medden nhw, i fod i roi cryfder.  Fel arall y digwyddodd yng Nghymru hyd yma.  Llwyddodd Cwm Gwendraeth lle methodd Capel Celyn, am nad oedd cenedlaetholdeb yn ffactor. Dyna’r enghraifft fawr efallai.  Yr unig eithriad i’r stori yw llwyddiant y mudiad iaith oddi ar 1962 yn plygu meddwl llywodraeth a chyrff cyhoeddus; ni bu hynny’n gyfystyr â throi meddwl y trwch, ond bu’n rhaid wrtho.

Yn GOLWG 18 Mehefin dyfynnir Simon Brooks: ‘Os am greu Cymru Gymreiciach, mae’n rhaid troi at genedlaetholdeb diwylliannol   … Tydan ni ddim yn ddigon gwerthfawrogol o’r hyn gyflawnodd cenedlaetholdeb diwylliannol yng Nghymru yn y 1960au a’r 1970au … pan mae rhywun yn edrych ar y cyfnod yna o genedlaetholdeb diwylliannol, mi’r oedd y mudiad cenedlaethol yn reit lwyddiannus.’   Gwir yw hyn, ond wrth gytuno rhaid inni hefyd wynebu bod yr amgylchiadau’n galetach heddiw nag oeddynt ddeugain mlynedd yn ôl. Mae llai ohonom.  Mae’r adnoddau’n llai.  Mae’r dosbarth proffesiynol Cymraeg wedi allforio’i blant yn ddidrugaredd. Mae’r dyfeisgarwch yn brinnach, a’r ddealltwriaeth o’r hyn sydd o’i le a’r hyn y gellir ei wneud.  Mae’r Gydwybod Ymneilltuol yn cilio ymhellach bellach i’r cefndir.  Yr oedd ‘Brad y Byd’ yn garreg filltir ar y ffordd i ddifancoll, ac yr oedd yr hyn a ddigwyddodd i Brifysgol Cymru yn 2011 yn brawf nad ydym ni Gymru bellach yn gymwys i weinyddu dim byd. Soniais droeon o’r blaen am y ffenomen o ‘fynd yn debycach i wladwriaeth ond yn llai tebyg i genedl’.

Beth am grynhoi?   (1) Hyd at ganol Oes Victoria, goroesodd y Cymry drwy beidio bod yn wladwriaeth.  (2) O ganol Oes Victoria ymlaen yr oedd yn ofynnol iddynt droi’n wladwriaeth er mwyn sicrhau eu parhad; ond ni fynnent mo hynny.  (3) Bellach mae egin-wladwriaeth Gymreig, ond daeth yn rhy hwyr.   (4) Rhaid troi’n ôl felly at genedlaetholdeb diwylliannol.

Ond cyn derbyn y thesis yna, ystyriwn ochr arall.  ‘This realm is an empire,’ meddai Deddf 1536.  H.y. nid undeb brawdol mohoni. Nid partneriaeth. Nid ffederasiwn.  Mae ynddi uwch ac is, meistres a morwyn. Nid oes dim byd yn anochel mewn hanes, ond mae rhai pethau’n digwydd yn fwy rheolaidd nag eraill.  Un o’r rheini, a bron na ddywedem ei fod yn digwydd yn ddi-ffael, yw cwymp ymerodraethau. Eleni cymerodd yr Albanwyr gan mawr tuag at sicrhau dymchweliad yr ‘empire’ y sonia’r Ddeddf Uno  amdani.  Ar wahân i bob ystyriaeth arall, byddai’n hwyl pe gallai’r Cymry chwarae rhyw ran yn y broses.  Y funud hon, o feddwl am bleidlais Dorïaidd ac UKIP-aidd Cymru yn etholiad mis Mai, nid yw’n edrych yn debygol.  Ni ddywedir ‘mwyaf peryglus ym Mhrydain’ am unrhyw Gymro na Chymraes. Ond cawn weld …

Yn hyn oll, y mater canolog yw Trident.

Gadael Ymateb

Rhowch eich manylion isod neu cliciwch ar eicon i fewngofnodi:

WordPress.com Logo

You are commenting using your WordPress.com account. Log Out / Newid )

Twitter picture

You are commenting using your Twitter account. Log Out / Newid )

Facebook photo

You are commenting using your Facebook account. Log Out / Newid )

Google+ photo

You are commenting using your Google+ account. Log Out / Newid )

Connecting to %s

%d bloggers like this: