Tri pheth sy tu hwnt i jôc

3 Gorf

Mae ochr ddigrif i’r rhan fwyaf o bethau yn y bywyd hwn, a’r rhan amlaf bydd yr hen GA yn tueddu i weld yr ochr honno’n gyntaf.   Ond mae rhai pethau yn y byd, a rhai pethau ym mywyd Cymru heddiw, yn gofyn am roi gwamalrwydd o’r naill du weithiau.  Soniwn heddiw am dri pheth a ddaeth i sylw yn ddiweddar ac sy’n peri gofyn cwestiynau difrifol iawn am ansawdd meddwl cyhoeddus a safon arweiniad yn ein cymdeithas.

1.    Hywel, be ti’n geisio yma?   Cawsom ychydig o hwyl ddiniwed y diwrnod o’r blaen (27 Mehefin) ar gorn rhaglen Hywel Williams, Cymuned.  Ond wir-ionedd mae’n rhaid gofyn beth y mae penaethiaid S4C yn ceisio’i gyflawni, a beth sy’n bod ar eu pennau os ydynt yn disgwyl inni dderbyn hon fel rhaglen ddifrif o drafod a dadansoddi.  Fel “rhaglen onest” y cyflwynwyd hi.  Ydi hynny’n eithriad? Ai rhaglenni anonest yw Clwb Rygbi, Cefn Gwlad, Pobl y Cwm, Cyw, y Newyddion a’r Tywydd?  Ac wrth ei hysbysebu ar y We yn Saesneg, “intellectual tour de force” ydoedd.  Peidiwn â gwastraffu geiriau. Doedd hi ddim yn “intellectual” yn y mesur lleiaf, ac nid oedd yn tour de force mewn dim ond gwiriondeb. Can croeso i Hywel ddadlau ei bwynt, mai myth yw’r ddelwedd o Gymru fel cymuned glos.  Synnwn i ddim na byddai llawer o wir yn y pwynt hwnnw, o’i wneud yn iawn.  Ond doedd y rhaglen hon yn profi dim. Nid oedd iddi rediad na rhesymeg, ac nid oedd ei dilyniant o ddelweddau’n gwneud unrhyw synnwyr.  Ni byddaf yn cytuno â phob cŵyn am ansawdd rhaglenni Cymraeg; swnian niwrotig yw peth o’r cwyno hwnnw.  Ond os na thrawyd rhyw waelod yma, wn i ddim ble y’i trewir.

2.     Heriol a chyffrous.  Ar ddydd olaf Mehefin adroddwyd fod y Gweinidog Addysg, Huw Lewis, wedi mabwysiadu pob un o 68 argymhelliad yr Athro Graham Donaldson ar gwricwlwm yr ysgolion yng Nghymru.  Trafodais yr argymhellion hyn ar 10 Mawrth dan y pennawd “llond twb o swigod”, ac ni ddaeth neb i ddadlau fod fy sylwadau’n annheg. A chrynhoi eto: (a) mae’r agwedd tuag at y Gymraeg yn eithaf cadarnhaol; (b) mae un adran yn wenwyn pur, sef honno sy’n argymell fod y plant yn cloriannu gwaith ei gilydd; (c) yng ngweddill yr adroddiad nid oes dim byd o gwbl.  Fe’i dywedaf eto; dim byd o gwbl.  Dim byd i gytuno nac i anghytuno ag ef, dim byd o unrhyw sylwedd, dim gosodiadau ystyrlon o unrhyw fath; dim ond gwagedd ac oferedd wedi eu mynegi yn jargon anfad byd addysg.  Gwelodd y Gweinidog yma ddefnydd canllawiau  “uchelgeisiol, deniadol, sy’n barod ar gyfer sialensau’r 21 ganrif.”  Rhagwelai “daith heriol a chyffrous.”   A gododd unrhyw un yn y Cynulliad i ofyn taith heriol a chyffrous i ble, yn eno’r dyn?  A pham mae’n rhaid i bob coblyn o bob dim fod yn heriol a chyffrous?  A awgrymodd unrhyw un bod yr unfed  ganrif ar hugain bellach yn bymtheg oed a’i bod yn bryd  peidio paldaruo dim mwy am ei sialensau?  Croesawyd cyhoeddiad y Gweinidog gan y Democratiaid Rhyddfrydol, ac nid yw hynny’n syndod.  Fe’u croesawyd hefyd gan Blaid Cymru. Nid yw hynny’n syndod chwaith.  Daw hyn â ni at ein trydydd pennawd.

3.     Trethu’r botel bop.  Ymladdodd Plaid Cymru’r etholiad diwethaf heb unrhyw bolisi.  Dywedaf eto yr hyn yr wyf wedi ei ddweud droeon o’r blaen: lle ceir cefnogaeth iddi, cefnogaeth yw honno i’r hyn y dylai Plaid Genedlaethol fod.  Yn lle polisi cynigiodd inni y tro hwn eto bethau dwlali a diystyr, megis addo creu mil yn rhagor o feddygon yng Nghymru.   Do, fe glywsom am rithio palas Tylwyth Teg o dwmpath rhedyn.  Ond efallai mai pen-draw gwamalrwydd y Blaid y dyddiau hyn yw ei haddewid i osod treth ar ddiodydd pop y bernir eu bod yn orfelys.  Efallai eu bod yn orfelys, – ’dwn i ddim. Ond er mwyn y nefoedd, gadewch lonydd i’r botel bop a dywedwch rywbeth am rywbeth o bwys.  Cynigier trefn synhwyrol ar gyfer llywodraeth leol yng Nghymru.  Rhodder cyfarwyddyd clir i gynghorwyr y Blaid nad ydynt i gau ysgolion nac adeiladu tai yn unig i blesio gweinidogion Llafur.  Cadwer at y polisi gwrth-niwclear sydd wedi ei osod i lawr gan y Gynhadledd, a siarsio Rhun, ar boen ei fywyd, i beidio mynd yn groes iddo.  Wyneber yr hen beth hwnnw,  mewnlifiad, a meddwl o ddifrif a oes ateb.  “Celfyddyd y posibl” meddai’r bydol-ddoeth yn ôl ei arfer.  Caniatâf innau, yn sinigaidd, gymaint â hyn: petai’r Dreth Botel Bop yn foddion i ddenu degau o filoedd o bleidleisiau a thrwy hynny ennill yr awdurdod i wneud rhai pethau o wir bwys, wel o’r gorau, i mewn â hi!  Ond nid oes rhithyn o dystiolaeth ei bod wedi ennill cymaint ag un bleidlais!  Nid “colli’r plot” sydd yma, ond bod heb weld arlliw o unrhyw blot erioed.  Pathetig.

Dyna ichi dair enghraifft o rwdlian pur yn lle meddwl. Oes ryfedd ein bod yn y fath dwll?

Digon am heddiw!

Un Ymateb to “Tri pheth sy tu hwnt i jôc”

  1. Heledd Gwyndaf Gorffennaf 4, 2015 at 7:21 am #

    Ni allaf anghytuno gydag unrhyw bwynt yma. Diolch am eu gwyntyllu.

Gadael Ymateb

Rhowch eich manylion isod neu cliciwch ar eicon i fewngofnodi:

WordPress.com Logo

You are commenting using your WordPress.com account. Log Out / Newid )

Twitter picture

You are commenting using your Twitter account. Log Out / Newid )

Facebook photo

You are commenting using your Facebook account. Log Out / Newid )

Google+ photo

You are commenting using your Google+ account. Log Out / Newid )

Connecting to %s

%d bloggers like this: