Ysgol ac enwad

8 Gorf

Siawns na bydd y darllenwyr wedi darllen yr ohebiaeth yn rhai o’r papurau ynghylch bwriadau Cyngor Gwynedd ar gyfer ysgolion y Bala, ac yn arbennig llythyrau Dylan N.  Jones yn Y Cymro, 12 Mehefin a 3 Gorffennaf.

I greu un ysgol 3-19 oed (a dyna’r bwriad) byddai’n ofynnol cau dwy ysgol gynradd.  Yn draddodiadol mae un o’r rheini’n ‘Ysgol Eglwys’.  Y peth cywir  i’r awdurdod addysg ei wneud fyddai digolledu’r Eglwys yng Nghymru  am yr adeilad, a mynd ymlaen i greu ysgol gymunedol, anenwadol. Nid hynny a fwriedir, ond yn hytrach rhoi llais i’r Eglwys yn rheolaeth yr ysgol fawr newydd, sef cyflwyno elfen o reolaeth enwadol (a) drwy’r cyfan o addysg gynradd,  a (b) mewn addysg uwchradd am y tro cyntaf o fewn y sir, ac am y tro cyntaf yng Nghymru ers hir, hir amser os nad wyf yn camgymryd yn fawr.

Nid ailadroddaf yma ddim o’r dystiolaeth sydd yn nau lythyr grymus Dylan Jones. Mae honno’n awgrymu’n gryf fod rhai o swyddogion Gwynedd wedi ildio i bwysau ac yn wir i flacmel o ddau gyfeiriad yr un pryd, – peth ohono gan yr Eglwys a pheth gan lywodraeth Cymru. Bydd yn ddiddorol gweld a ddaw unrhyw un i ddadlau ar goedd nad yw’r cyhuddiadau’n gywir.

Gan fod i’r mater ymhlygiadau ymhell tu hwnt i ffiniau’r Pum Plwy, dyma rai ystyriaethau.

1.    Y mae, a dylai fod o hyd,  hawl i unrhyw gorff crefyddol gynnal ysgol neu goleg ar ei draul ei hun.

2.    Allan o’r hen gystadleuaeth rhwng yr ‘Ysgolion Cenedlaethol’ (Anglicanaidd) a’r ‘Ysgolion Brytanaidd’ (anenwadol, ond a gefnogid yn bennaf gan yr Ymneilltuwyr) fe ddaeth y cyfaddawd lle mae awdurdod addysg lleol, mewn enw o leiaf, yn rhannu rheolaeth ysgol ag un o’r esgobaethau.  Dynodir yr ysgol fel un ‘wirfoddol reoledig’ (voluntary controlled).  Gweithiodd y cyfaddawd hwn yn ddigon didramgwydd ac nid oes rheswm i dorri arno. Mae rhyw ddealltwriaeth debyg, nad wyf erioed wedi deall ei manylion, rhwng awdurdodau lleol a’r Eglwys Gatholig.

3.   Mater gwahanol fodd bynnag yw ailgyflwyno rheolaeth enwadol wrth sefydlu trefn newydd sydd i fod i wasanaethu’r gymuned drwyddi draw.  Ac wrth ddweud ‘enwadol’, am Gymru yr ydym yn sôn: yn Lloegr byddai’n wahanol gan fod yno eglwys sefydledig.  Rhaid gofyn a oedd swyddogion Gwynedd, wrth gytuno mor rhwydd, yn ymwybodol o’r gwahaniaeth.

4.   Gallaf ddychmygu rhai o’r gweinyddwyr, ac efallai rhai cynghorwyr hefyd, yn ceisio dod allan ohoni drwy ddweud mai bechan fydd y gynrychiolaeth eglwysig ymhlith llywodraethwyr yr ysgol newydd. Clywsom grybwyll y ffigur o ddau aelod.  Nid dyna’r pwynt.  Efallai na chyfodai byth unrhyw fater gwrthdaro rhwng y ddau eglwyswr fel y cyfryw a gweddill yr aelodau fel y cyfryw.  A phe bai rhagor o eglwyswyr ymhlith y ‘gweddill’, popeth yn iawn wrth gwrs. Pe bai pob un gopa walltog o’r llywodraethwyr yn eglwyswr, ac wedi ei ethol, ei gyfethol neu ei benodi yn ei hawl ei hun, ni ddylai fod unrhyw wrthwynebiad. Yr egwyddor yw’r peth.

5.  Ym meddyliau rhai ohonom, ac yn ddigon dealladwy felly, bydd ystyriaethau fel traddodiad yr ardal dan sylw a gwrthdrawiadau dyddiau fu. Nid cwbl amherthnasol ein bod yn coffáu eleni ganmlwydd a hanner oddi ar hwylio’r Mimosa.  Heddiw nid wyf am bwyso’r ystyriaethau hyn, gan y gallant hwythau ddod rhyngom a’r egwyddor.  Unwaith eto, beth yw’r egwyddor?  Addysg wladol, ddyddiol, orfodol : di-enwad  (ond derbyn fod y Ddeddf oddi ar 1944 yn gofyn dysgu Ysgrythur fel pwnc a chynnwys rhyw ffurf ar addoliad Cristnogol ym mywyd yr ysgol – mater arall yw hwnnw.)

6.    Damcaniaeth yw hon, ond mae peth sail iddi. Llywodraeth ddatganoledig sydd yng Nghymru, ac mae polisïau’n treiddio i lawr o hyd drwy’r  Gwasanaeth Gwladol o Lundain i Gaerdydd ac oddi yno i’r awdurdodau lleol gan fod arian ynghlwm.  Gwyddom fod hyn yn arbennig wir ym meysydd tai a chynllunio, gyda’r prif linellau’n cael eu gosod i lawr gan ryw bobl na wyddant ddim am ystyriaethau Cymreig. Tybed, tybed na bu rhywbeth tebyg yma, gyda’r weledigaeth wallgo’n tarddu o ryw swyddfa lle na chlywyd erioed y gair ‘Datgysylltiad’?

7.    Dylai ein swyddogion a’n cynrychiolwyr yng Nghymru fod yn gyfarwydd â’r gair ac yn gwybod yr hanes,  oherwydd o’r hanes y daw’r egwyddor. Unrhyw weinyddwr addysg a ddengys anwybodaeth o’r egwyddor hon, ac unrhyw gynghorydd a geisia fychanu ei phwysigrwydd, mae’n ei gyhoeddi ei hun yn dwpsyn. Dylid diswyddo’r cyntaf, a pheidio ag ailethol yr ail.

8.    Ar wahân i’r llythyrau, hollol dawel yw’r wasg Gymraeg am y mater gwir sgandalaidd hwn. Unwaith eto, pam tybed?   Beth sy’n mynd ymlaen?

Advertisements

Gadael Ymateb

Rhowch eich manylion isod neu cliciwch ar eicon i fewngofnodi:

WordPress.com Logo

You are commenting using your WordPress.com account. Log Out / Newid )

Twitter picture

You are commenting using your Twitter account. Log Out / Newid )

Facebook photo

You are commenting using your Facebook account. Log Out / Newid )

Google+ photo

You are commenting using your Google+ account. Log Out / Newid )

Connecting to %s

%d bloggers like this: