Unwaith eto : ysgol ac enwad

10 Gorf

Mae e-ddeiseb ar y mater hwn y gallwn ei chefnogi.  Da gweld cefnogaeth gref eisoes ym Mhenllyn;  mae hefyd yn bwnc o bwys i Wynedd oll ac i Gymru gyfan.

Un Ymateb to “Unwaith eto : ysgol ac enwad”

  1. cyfrodedd Gorffennaf 24, 2015 at 12:11 pm #

    O hynny I hyn

    Be ar wyneb y ddaear faith a ddigwyddodd i Gymru? Dim llawer mwy na chan mlynedd yn ôl – megis doe yn hanes y byd – yr oedd meddylwyr mawr y gwledydd yn gyd gytûn eu barn mai Cymru oedd yr unig wlad Geltaidd oedd wedi cadw ei hunaniaeth – yr oedd ei hiaith briodol yn dal ganddi a’r eiddo’r lleill i gyd wedi darfod neu ynteu y disgwylid iddyn nhw ddarfod yn o fuan, yr oedd yn waraidd o fysg y cenhedloedd. O’r diwedd yr oedd y gad-ar-faes hirfaith, ddisbyddodd gymaint o egni goreuon cenedl i ddatgysylltu Eglwys Loegr yng Nghymru fel Eglwys â theyrn Lloegr, Sgotland a’r Werddon yn ben arni, o’r diwedd wedi ei hennill, ac o ganlyniad ymneilltuaeth yn fuddugoliaethus yn y tir, ac yn nesa peth i eglwys genedlaethol. Yr oedd y wlad wedi llwyddo yn anrhydeddus, yn ôl barn y byd, i gadw’r gorau o’i diwylliant. Yr oedd ganddi wasg lyfrau o bob math a gwasg newyddiadurol gre yn llunio ac yn llywio barn cenedl. Hi fuasai’r unig wlad Geltaidd, feddylid, a ddeuai yn y man i’w gwobr yn y byd modern. Sut uffern yr awd o hynny i hyn?

Gadael Ymateb

Rhowch eich manylion isod neu cliciwch ar eicon i fewngofnodi:

WordPress.com Logo

You are commenting using your WordPress.com account. Log Out / Newid )

Twitter picture

You are commenting using your Twitter account. Log Out / Newid )

Facebook photo

You are commenting using your Facebook account. Log Out / Newid )

Google+ photo

You are commenting using your Google+ account. Log Out / Newid )

Connecting to %s

%d bloggers like this: