Dal i gytuno !

18 Gorf

‘Pryderu am le’r Gymraeg o fewn y prifysgolion’ yw pennawd GOLWG, 16 Gorffennaf.  Teimlaf yn euog braidd.  Lled-awgrymir yn yr adroddiad mai un rheswm am y wasgfa ar y Gymraeg fel pwnc prifysgol yw bod amrywiaeth o bynciau eraill bellach ar gael drwy’r Gymraeg dan adain  ‘Y Coleg Cymraeg Cenedlaethol’.  Fel un o’r tri academydd a fu’n ymgyrchu am dair blynedd ar ddeg o 1998 ymlaen o blaid sefydlu’r corff hwn (dan enw arall, ‘Y Coleg Ffederal’), rhaid imi ofyn i mi fy hun a wnes i anghymwynas â’r hen bwnc a fu’n ddiddordeb imi erioed ac yn fywoliaeth imi am flynyddoedd go dda.  Tybed nad oedd yr Adrannau Cymraeg, drwodd a thro, yn iawn yn eu hoerfelgarwch tuag at y Col. Ffed.,  – tan y diwrnod y sefydlwyd ef ?

I’m cysuro fy hun, chwiliaf am rai rhesymau eraill posibl dros wendid y Gymraeg, – os gwendid sydd.  Yn wir fe gododd y mater hwn o’r blaen, fis Mawrth 2013, a gwnes sylw ar y blog.   Gan fy mod yn dal i gytuno â’r hyn a ddywedais, ac i arbed i neb glicio, dyma ddyfynnu’r hen ysgrif eto.  Fe ymddangosodd  wedyn yn Y Faner Newydd, ond gan fod dwy golofn yn y fan honno wedi eu hargraffu tu chwith, nid oedd yn gwneud llawer o synnwyr.

§

‘Ddim yn bwnc poblogaidd’

Stori flaen Y Cymro, Gŵyl Ddewi 2013: ‘Cymraeg Ddim yn Bwnc Poblogaidd i Fyfyrwyr Lefel A’.  Crynhoi y mae Karen Owen sylwedd adroddiad wedi ei gomisiynu gan Y Coleg Cymraeg Cenedlaethol, ac iddo’r ‘teitl hirfaith’: ‘Y canfyddiad o’r Gymraeg fel pwnc academaidd a’r ffactorau sy’n cyflyru dewisiadau yn ei chylch’.

Mae darllen yr ysgrif yn galw i’m cof i ddau ddiwrnod o’m gyrfa fel darlithydd ar Iaith a Llenyddiaeth Gymraeg, sef y diwrnod cyntaf a’r hyn a fu, yn ymarferol, y diwrnod olaf.

Ar ôl brecwast brysiog o afal a darn o gaws, brysiais i Neuadd Prichard Jones yng Ngholeg Bangor ar fore o Hydref 1966 i ymuno am y tro cyntaf yn y gwaith o gofrestru myfyrwyr newydd y sesiwn hwnnw.  Ar ddiwedd y dydd yr oedd fy nghydweithwyr — pump o’r saith yn gyn-athrawon arnaf — yn eithaf siomedig ynghylch yr helfa ac ychydig yn bryderus am ddyfodol y pwnc a’r adran. Ni chofiaf yr union ffigur, ond rhaid ei fod beth i lawr ar y nifer arferol yn y flwyddyn gyntaf, sef rhyw ddau ddwsin i ddeg ar hugain. Nid oedd dim amdani, wrth gwrs, ond bwrw ymlaen â  gwaith y tymor, a dyna a wnaed. Ond yn ystod gwyliau hir yr haf hwnnw, digwyddasai rhywbeth a oedd i gael effeithiau llesol a bywiocaol mewn amryw feysydd yng Nghymru, yn cynnwys (mi gredaf) effaith ar apêl y Gymraeg fel pwnc. Ar 14 Gorffennaf 1966, yn etholaeth seneddol Caerfyrddin, dechreuodd cyfnod o ymysgwyd gwladgarol Cymreig.  Rwy’n eithaf sicr i’r effaith ddechrau dangos, ymhen rhyw ddwy neu dair blynedd, yn y niferoedd a ddymunai astudio’r Gymraeg mewn coleg. I ni yr academwyr Cymraeg, pobl yr ‘academig dost’ fel y’n diffiniwyd gan un ohonom mewn cenhedlaeth gynt (er na chofiaf, yn ystod 34 mlynedd o ddarlithio, erioed fwyta darn o dost yn y Coleg), bu’r ymysgwyd yn gryn embaras ar rai adegau, yn enwedig pan ddôi yn agos atom gan ysgwyd ein hoff eisteddle, sef pen llidiart.  Ond fe’n cadwodd mewn busnes, a chynnal rhai ohonom hyd at ein pensiwn. Bu adegau yn ystod yr 1970-80au pan oedd nifer dosbarth Cymraeg y flwyddyn gyntaf, iaith gyntaf, yn hanner cant a mwy – dwbl yr hyn oedd, er enghraifft, yn fy mlwyddyn gyntaf i fel myfyriwr, 1959-60.  Diamau fod a wnelo’r cynnydd ag amryw ffactorau, ac rwyf am fod mor hyf â meddwl mai un ohonynt oedd ein  parodrwydd ni fel tîm i fynd allan a chenhadu yn y gymdeithas. Ond daliaf i feddwl bod a wnelo rywbeth, o leiaf, â’r ffaith fod morál cyfran o’r Cymry yn weddol uchel, a’i bod hi’n dipyn bach o hwyl, am rai blynyddoedd, bod yn Gymro.

Gallem osod stori’r Cymro  mewn cyd-destun eang, fel hyn. Llai o astudio’r Gymraeg ar gyfer Lefel A?  Wel, fe ddylai fod, oherwydd mae llai ohonom, llai o Gymry, fel yr atgoffwyd ni’n gryf a phoenus gan gyhoeddi’r ystadegau y llynedd. Ddim yn bwnc poblogaidd?  Wel nac ydyw, oherwydd  ’dyw’r Gymraeg ei hun ddim yn beth poblogaidd ymhlith y Cymry. Yn wir hi yw rhif 2 yn rhestr eu Pethau Mwyaf Amhoblogaidd.  A rhif 1 yn y rhestr honno? Hwy eu hunain wrth gwrs!   Oherwydd crynhoir dymuniad calon Cymro, heddiw fel mewn sawl cenhedlaeth o’r blaen, yn y pedwar gair ‘Isio Bod yn Sais’.  Nid awn heddiw ar ôl y rhesymau oesol pam y mae hyn. Weithiau, am gyfnodau byr, fe wanheir y dymuniad hwn, gan roi lle i rai ohonom gredu eto y gallwn wneud rhywbeth ohoni, ac adeiladu yng Nghymru genedl fodern hyderus. Ond i gynnal y gobaith hwnnw, a newid y cywair, mae angen rhyw ‘sgŵd’ neu ryw ‘shiglad’ o hyd ar y Cymry, peth anodd i’w drefnu a pheth sy’n dibynnu llawer ar hap a damwain. Meddyliwn eto am ystadegau iaith affwysol 2011.  Ni allaf yn fy myw beidio â chredu bod a wnelo’r rhain rywbeth ag ysbryd isel y mudiad gwleidyddol cenedlaethol dros y degawd diwethaf, y gwendid, yr ansicrwydd  a’r diffyg arweiniad.  Gall pobl feddwl eu bod yn medru Cymraeg pan fydd tipyn o hwyl ynglŷn â hynny, a meddwl y gwrthwyneb ar adegau di-hwyl.  (Os ydych yn credu nad oes dim byd yn y ddamcaniaeth hon, gofynnwch pam yr aeth cymaint o bobl ifainc yn ‘former Welsh-speakers’, chwedl newyddion Saesneg y BBC,  rhwng 2001 a 2011.)

Dychwelaf yn awr at y ‘diwrnod olaf’ hwnnw, bron i 34 mlynedd yn ddiweddarach. Yn ystod gwyliau’r haf 2000, yn ddirybudd a heb unrhyw ymgynghoriad â ni, ei haelodau, fe gyhoeddodd awdurdodau Coleg Bangor fwriad  i gyfuno Adran y Gymraeg ag Adran gymharol newydd Cyfathrebu. Amlinellwyd y cynllun mewn dogfen neilltuol o goch ac anneallus. Yn sifalrig, arddelwyd cyfrifoldeb amdani gan y Prifathro Roy Evans, ond yr oedd bys amheuaeth yn pwyntio’n gryf iawn at … Ddyn Arall.  A thorri hyd at yr asgwrn stori waradwyddus a chwerw i’w hatgofio o hyd, rhoed y bwriad gwallgo o’r naill du, yr un mor chwap ag yr ymddangosodd, pan welwyd y gallai arwain at yr un peth hwnnw a fawr ofnir gan sefydliadau, cyhoeddusrwydd anffafriol.  Yn y cyfamser yr oeddwn i, ar ddiwrnod yn niwedd Awst, wrth sgrifennu ymateb i’r ddogfen, wedi ‘chwythu falf’, fel y dywedir, a dyna i bob pwrpas ddiwedd ar ddarlithio yn y Coleg ar y Bryn.

Pam y daw’r hen hanes blinderus hwn i’r cof heddiw? Am fod rhai o ymadroddion adroddiad y Coleg Cymraeg Cenedlaethol, a’i agwedd a’i ragdybiau, yn swnio’n debyg iawn i rai yr hen ddogfen dila, biblyd honno dair blynedd ar ddeg yn ôl.  Llenyddiaeth Gymraeg yn ‘hen ffasiwn’, ‘sych’, ‘cul’, dim ‘byd-olwg’, gormod o waith dysgu ar y cof, gormod o reolau, Cymraeg Canol.  ‘Gwaith trwm’ – ac eto ‘llai heriol’!  Mwy o apêl mewn pethau fel y goeg-wyddor, Seicoleg, a’r cymorth hawdd ei gael hwnnw, Cyfathrebu.

Mae nifer o gwestiynau y gellid eu gofyn am yr adroddiad. Pwy a’i sgrifennodd? Syniad pwy oedd ei gael?  Beth oedd a wnelo â’r Coleg Cymraeg Cenedlaethol p’run bynnag?  Onid dysgu pynciau eraill trwy’r Gymraeg yw cyfrifoldeb hwnnw? Sut y cafwyd yr ymatebion? Ai drwy dicio blychau?

Gallai darllenwyr Y Cymro weld drostynt eu hunain y rhes resymau a ddyfynnid am ‘ddiffyg apêl’ y Gymraeg. Nid wyf am ddechrau eu hateb un ac un, oherwydd mae’n amlwg nad oes dim sylwedd ynddynt.  Diddorol bod adroddiad Y Cymro  yn defnyddio’r ymadrodd ‘troi trwynau’.  Oes, mae tipyn o hwnnw. Troi trwyn yn llythrennol weithiau, megis yn rhai o gyfraniadau’r ‘ifanc’ yng nghynulleidfaoedd rhaglen Pawb â’i Farn.  Fe ddaw dau beth ynghyd i gael yr effaith drwynol hon: (a) argyhoeddiad o bwysigrwydd personol, peth sy’n tueddu i nodweddu’r rhan fwyaf ohonom mewn plentyndod hwyr, er efallai ei fod yn gryfach mewn rhai sefyllfaoedd cymdeithasol nag mewn eraill; (b) y cywilydd o berthyn i grŵp ethnig yr arweinir ni gan amryw ddylanwadau, hanesyddol a chyfoes, i gredu ei fod yn israddol.

A dealler hyn cyn inni ddweud gair ymhellach. Nid oes raid i bawb, nac i’r mwyafrif, astudio’r Cymraeg – ac nid oes raid ei hastudio fel pwnc er mwyn ei  gwerthfawrogi. Mater o ddewis personol ydyw, ac astudied pawb yr hyn sy’n apelio ato. Ond y tu ôl i rai o’r ymatebion yn yr adroddiad, mae dyn yn synhwyro rhyw euogrwydd o beidio â dewis Cymraeg, –  peth cwbl ddialw-amdano. Ac o’r euogrwydd daw rhyw hel esgus, – unwaith eto a neb yn gofyn am esgus na chyfiawnhad, – onibai fod yr arolwg, drwy eiriad rhai cwestiynau, yn lled-awgrymu hynny.

Soniaf am un yn unig o’r ‘rhesymau’, sef y pwys honedig ar destunau o’r gorffennol, a’r rheini’n ymddangos yn ‘drwm’ ac yn ‘anodd’ ac yn ‘waith dysgu’. Ni wnes i erioed ymholiad systematig i’r mater, ond yr wyf wedi digwydd siarad yn ddiweddar ag ambell ddisgybl a wnaeth Gymraeg hyd at TGAU a’i gollwng wedyn. Ac un peth a glywais oedd fod peth o’r stwff ‘cyfoes’ yn  sgrwtsh disylwedd, heb ysgogi neb i ddyfalbarhau ag ef.  Tueddaf i amau fod hynny’n wir, ac y byddem yn sicrach o’n pethau trwy gadw at y Mabinogi, y Bardd Cwsg a rhai o’r clasuron hyd at ac yn cynnwys yr ugeinfed ganrif (ond gan gofio rhoi gorffwys bach i Blodeuwedd ac Un Nos Ola Leuad).  Ar ôl golygu a chyhoeddi’r gyfrol Canu Twm o’r Nant, meddyliais y byddai’n beth da i’r gwerthiant pe dewisid hi’n destun gosod. Hefyd câi’r disgyblion ynddi ‘fyd-olwg’ bendant iawn, beirniadaeth, dychan a hwyl, a’r oll mewn Cymraeg cyhyrog. Bûm mor hyf â sgrifennu at Gyd-Bwyllgor Addysg Cymru gyda’r awgrym.  Daeth ateb gan un o’r swyddogion: ‘Yn anffodus, nid wyf yn rhagweld y byddwn yn medru defnyddio’r gyfrol ar gyfer y cwrs TGAU Llenyddiaeth Gymraeg gan ein bod yn gosod cerddi o gyfnod mwy diweddar’.  Iawn, ond pam ‘anffodus’? Mae’n debyg y dylwn fod wedi ateb a gofyn ‘Pam rwyt ti’n dweud “yn anffodus”, yr iâr ddŵr wirion?’.  Os dyna’ch penderfyniad, rhaid eich bod yn meddwl mai dyna’r peth cywir.

Tebyg na allaf egluro’n llawn heddiw, ond gwelaf yr adroddiad cynrhonllyd, niwrotig hwn fel rhan o beth mwy. Dan gochl datganoli ac esgus creu dinasyddiaeth Gymreig, rydym yn gweld, oddi ar sefydlu’r Cynulliad Cenedlaethol, duedd – neu efallai y dylid dweud ‘ymgais’ – i danseilio’n sefydliadau gwir genhedlig.  Nid oes angen ond dweud ‘Prifysgol Cymru’.  Mae dysg neu ysgolheictod Cymraeg yn un o’r sefydliadau hyn, yn rhan fechan ond allweddol o wneuthuriad cenedl.  Mae drycsawr dogfen anfad Bangor, 2000, ar yr ‘ymchwil’ hwn.  A beth petawn i’n olrhain ei darddiad, yn y pen draw, i’r un ffynhonnell â’r ymgais i danseilio’r Eisteddfod Genedlaethol drwy ddyfais drwstan ‘y Dwsin Doeth’?   Efallai na bydd y cysylltiad yn amlwg i’m darllenwyr ar yr olwg gyntaf. Ond meddyliwch …   Tybed nad oes yna ryw Bwrpas Cyffredin yn rhywle tu ôl i’r cyfan?

A oes rhywun o un o adrannau Cymraeg y colegau am wrthateb yr adroddiad?  Ynteu derbyn y cyfan yn llywaeth, ddi-ddweud-dim-byd unwaith eto?  Y llynedd [2012] mi olygais Beirniadaeth John Morris-Jones yng nghyfres ‘Cyfrolau Cenedl’. Cyn bo hir, rwy’n gobeithio, fe ddilyn cyfrol o feirniadaeth W. J. Gruffydd.*  Meddyliwch sut y byddai’r ddau foi yna’n delio â rhyw nonsens fel hyn!

*  Bellach mae Eira Llynedd ac Ysgrifau Eraill gan W. J. Gruffydd ar gael yn yr un gyfres.

Advertisements

Gadael Ymateb

Rhowch eich manylion isod neu cliciwch ar eicon i fewngofnodi:

WordPress.com Logo

You are commenting using your WordPress.com account. Log Out / Newid )

Twitter picture

You are commenting using your Twitter account. Log Out / Newid )

Facebook photo

You are commenting using your Facebook account. Log Out / Newid )

Google+ photo

You are commenting using your Google+ account. Log Out / Newid )

Connecting to %s

%d bloggers like this: