Ysgrythur ac ysgol

5 Aws

Bydd y darllenwyr yn cofio, gobeithio, i’r blog hwn lefaru cyn gryfed ag y gallai yn erbyn ailgyflwyno rheolaeth enwadol ar ysgolion yr awdurdodau lleol.

A yw’n dilyn felly fod yr hen G.A. yn cefnogi penderfyniad Huw Lewis, y Gweinidog Addysg, i israddio Ysgrythur fel pwnc ysgol ? Ddim o gwbl. Ddim ar unrhyw gyfrif.

Cyfraith gwlad, hyd yn hyn, yw fod Ysgrythur i’w ddysgu fel pwnc. Nid yw hynny ynddo’i hun, wrth gwrs, yn golygu fod y peth yn iawn.  Rheswm gwell yw fod y Beibl yn rhan o’n diwylliant.  Rhydd inni sylfaen gyffredin o wybodaeth;   un o ganlyniadau llai hynny, ond canlyniad da iawn yn fy marn i, yw gwneud yn bosibl fath arbennig o hiwmor, cyfeiriadaeth a pharodi.  Y dydd yr â ‘amynedd Job’, ‘gwraig Lot’, ‘porthi’r pum mil’ a ‘Samariad trugarog’ yn ymadroddion annealladwy, dydd trist fydd hwnnw.

Bydd athrawon Ysgrythur, wrth reswm, yn amrywio o ran eu pwyslais.  Bydd y plant mwy deallus yn deall ac yn derbyn hyn.  Bydd fy nghyfoedion i yn Ysgol Dyffryn Nantlle yn cofio inni gael olyniaeth o dri athro yn y pwnc; un yn ddifyr ffeithiol, un yn wresog efengylaidd, un yn ddiwinydd dysgedig. Cawsom rywbeth gan y tri.

Yn y seiat brofiad hon dywedaf:   ymhlith Annibynwyr Mynydd y Cilgwyn, ni bu pagan mwy na’r hen G.A.; ni bûm erioed yn well na go lew am ddysgu ar fy nghof, ac ni ryfygais erioed ‘adrodd’ (neu ‘llefaru’ fel y dywedir bellach).  Eto mi ddaliaf fod gwerth diwylliannol mawr – ar wahân i unrhyw ystyriaeth arall, – mewn cofio neu led-gofio rhai darnau allweddol o Feibl Morgan: hanner dwsin o Salmau, dyweder; ‘Gwagedd o wagedd …’; Eseia 40; rhai o’r Damhegion; ‘Ha, wŷr Atheniaid …’;  I Corinthiaid 13;  ‘A mi a welais nef newydd a daear newydd …’.  A gwybod hefyd y prif straeon – petai ond fel straeon: Arch Noa, y siaced fraith, Samson a Delilah, Dafydd a Goliath, Daniel yn ffau’r llewod, Elias ar ben Carmel, a phrif ddigwyddiadau’r Efengylau.   Fe ddywedir, efallai, mai cyfrifoldeb y cyrff crefyddol yw dysgu’r pethau hyn. Ond am eu bod yn rhannau o ddiwylliant, fe ddylai’r ysgol ddyddiol eu traddodi hefyd.

Mae Huw Lewis am greu pwnc newydd, ‘Astudiaethau Crefydd, Athroniaeth a Moeseg’.  Bydd hyn yn ‘helpu uno cymunedau’, yn dysgu i’r plant ‘ystyr byw mewn gwlad rydd’, ac yn ‘mynd i’r afael ag eithafiaeth’.  Mae’r amcanion aruchel hyn yn adleisio’n rhannol bethau a ddywedodd cyn-Weinidog Addysg Lloegr, Charles Clarke, rai wythnosau’n ôl.  Maent hefyd, meddir, dan ddyled i Adroddiad Donaldson ar y cwricwlwm.  Fe gofia’r darllenwyr, gobeithio, fy marn am yr adroddiad hwnnw, a gallaf grynhoi eto mewn un gair faint o sylwedd sydd ynddo: DIM.

Am yr Athroniaeth, yn wir ni byddai dim drwg mewn cyflwyno ychydig ohoni fel pwnc chweched dosbarth, neu efallai ynghynt. Gallaf ddychmygu rhai plant yn cymryd ati’n iawn. Cwestiwn arall yw pwy sy’n mynd i’w dysgu.  A welwn ni athrawon Cymru yn sydyn yn dechrau aberthu prynhawniau Sadwrn o golff er mwyn meistroli Wittgenstein?  Ys dywed yr athronydd Buddy Holly, ‘that’ll be the day’ !

Cyfyd ‘Moesoldeb’ gwestiynau mwy anodd.  Dwy ffaith am Foesoldeb: (1) peth personol ydyw; (2) ni ddygymydd plant ysgol yn hawdd ag ef.  Tu hwnt i ‘Peidiwch â gadael i mi’ch dal chi’n gwneud hyn-a-hyn’, ni welaf sut y gellir ei ddysgu i neb dan ryw ddwy ar bymtheg oed.

Rydym yn mentro i dir anial, corsiog a pheryglus. Â dim byd gwell na llusern egwan Huw Lewis i’n harwain, anodd bod yn ffyddiog y cerddwn yn ddiogel.

Y gair olaf  heddiw i Dwm o’r Nant :

Trwm achos ofni’n enbyd sy,
Beth wnaiff y wlad, gyffredin lu,
Tra bo’r blaenoriaid, harddblaid hy,
Wedi dallu gan dywyllwch ?
A’r dall, truenus, warthus wall,
Yn t’wyso’r dall, deëllwch,
Mai yn y ffos, anniddos nerth,
Mewn galar serth y syrthiwch.

Advertisements

Gadael Ymateb

Rhowch eich manylion isod neu cliciwch ar eicon i fewngofnodi:

WordPress.com Logo

You are commenting using your WordPress.com account. Log Out / Newid )

Twitter picture

You are commenting using your Twitter account. Log Out / Newid )

Facebook photo

You are commenting using your Facebook account. Log Out / Newid )

Google+ photo

You are commenting using your Google+ account. Log Out / Newid )

Connecting to %s

%d bloggers like this: