Nid dros byth y cuddir twyll

7 Aws

Dyma damaid o Private Eye yr wythnos yma.  Stori ydyw am gytundeb amheus iawn rhwng Gweinyddiaeth Amddiffyn Prydain a llywodraeth Sawdi Arabia.  Y dudalen o ddüwch sydd o ddiddordeb arbennig i ni. Yn y cyflwr hwn y cyflwynodd y Weinyddiaeth set o gofnodion yr oedd Tribiwnlys Gwybodaeth wedi gofyn amdanynt.

du private eye

Eich atgoffa o rywbeth, ddarllenwyr ffyddlon ?  Lle gwelsoch chi flacledio fel hyn o’r blaen ?

Wrth gwrs ! Llyfr Du Caerfyrddin !

Rywle tu ôl i’r caddug yna fe ddylai fod yr wybodaeth hanfodol am gyfarfod Cyngor Prifysgol Cymru, Hydref 2011, gwybodaeth nad yw’r Is-Ganghellor a’i gynffonwyr am i aelodau’r Brifysgol ei gweld.

Am ba hyd yn rhagor y goddefwn ymddygiad fel hyn ym mywyd cyhoeddus Cymru ?

Nid dros byth y cuddir twyll.  ‘Nid ymgel drwg yn lle bo.’

Ac fel y dywed yr hen Lyfr Du gwreiddiol, ‘bydd dydd Mawrth, dydd gwythlonedd’ (= llid, helynt, gwrthdaro).

Advertisements

Gadael Ymateb

Rhowch eich manylion isod neu cliciwch ar eicon i fewngofnodi:

WordPress.com Logo

You are commenting using your WordPress.com account. Log Out / Newid )

Twitter picture

You are commenting using your Twitter account. Log Out / Newid )

Facebook photo

You are commenting using your Facebook account. Log Out / Newid )

Google+ photo

You are commenting using your Google+ account. Log Out / Newid )

Connecting to %s

%d bloggers like this: