Carwyn, Corbyn a Phenllyn

12 Med

“Buenos dias, Pamperos.  Muchas gracias am y croeso yng nghymanfa Cwm Hyfryd yndê, ac am y paned o mate ar y pampas yndê.  Cymru ydi’n gwlad ni yndê, ac Ariannin ydi’n cenedl ni. Neu fel arall yndê.  Rydw i wedi mwynhau bod yma efo chi.  Si Seňor!  Felly adios amigos, viva Rio Tinto, hasta la vista a vaya con Dios i chi i gyd!”

Dyna araith fach y gallasai Carwyn ei thraddodi ar Ŵyl y Glaniad.  Gallasai unrhyw un ei sgrifennu ar ôl darllen Bandit yr Andes a chomic Roy Rogers.  Amlwg nad oedd Carwyn na neb o’i weision sifil wedi meddwl am hynny.

Diffyg dychymyg, tipyn o handi-ciap i’r sawl sy’n llywodraethu gwlad.

* * * *

Dal i feddwl fod Corbyn yn hen enw Cymraeg da. Os nad oes yna “Wil Corbyn” rywle yng ngweithiau Caradog Prichard neu T. Rowland Hughes, – fe ddylai fod.  “Gwnaf, mi gadwaf yr hen gŷn brasollt, er cof am … Wil Corbyn.”

A dyna Corbyn wedi cyrraedd, gan ddwyn yn ei sgil ambell beth  na byddwn yn eu cysylltu’n aml â’r Blaid Lafur, – hwyl ac eiddgarwch.   Eisoes mae’r cynlluniau ar y gweill i gael ei wared.  Trident fydd y maen praw, “diogelwch Prydain” (h.y. balchder Lloegr).  Fe allwn weld dyddiau digon diddorol, gyda thrwch y gwleidyddion Llafur yn gorfod ymgodymu â rhywbeth sylfaenol groes i’r graen iddynt; nid yn gymaint polisi, ond yr egwyddor o fod ag egwyddor.

* * * *

Dywedais o’r blaen, o na bai plaid yng Nghymru a allai fanteisio ar hyn. Ac ychwanegaf heddiw:   os bydd cabinet Gwynedd yr wythnos nesaf yn cymeradwyo’r cynllun LLOERIG sydd wedi ei gynnig ar gyfer ysgolion y Bala, bydd yn ddiwedd ar unrhyw hygrededd a all fod gan Blaid Cymru.

Gweler y cofnodion Ysgol ac Enwad, ac Ysgrythur ac Ysgol.

Gadael Ymateb

Rhowch eich manylion isod neu cliciwch ar eicon i fewngofnodi:

WordPress.com Logo

You are commenting using your WordPress.com account. Log Out / Newid )

Twitter picture

You are commenting using your Twitter account. Log Out / Newid )

Facebook photo

You are commenting using your Facebook account. Log Out / Newid )

Google+ photo

You are commenting using your Google+ account. Log Out / Newid )

Connecting to %s

%d bloggers like this: