Addysg enwadol — a dim dewis

7 Hyd

Efallai y cofiwch inni gael tipyn bach o hwyl y tro diwethaf ar draul democratiaeth – neu ddiffyg hynny – o dan Gyngor Gwynedd.  Rhag ofn nad ydych yn cofio, dyma hi’r hen ysgrif eto.   Ie, y testun oedd penderfyniad rhyfedd ac ofnadwy Cabinet y Cyngor i wneud ysgol newydd arfaethedig y Bala, 3-19 oed, yn ysgol enwadol, heb ddewis o gwbl.   Ie, rhyfedd ac ofnadwy yn wir, rhyfeddach a mwy ofnadwy, mwyaf yn y byd y meddyliwn am y peth.  Mae iddo ei ochr chwerthinllyd a ffarsaidd, ac “anodd yw peidio sgrifennu dychan” chwedl yr hen fardd Lladin; ond gobeithio fod pawb yn gweld fod iddo ochr ddifrifol iawn hefyd.

YSTYRIWCH MEWN DIFRI.  Beth pe bai’r awdurdod addysg ryw fore yn cyhoeddi, “o’r wythnos (neu’r tymor, neu’r flwyddyn) nesaf, fe fydd Ysgol Ardudwy yn Ysgol Gatholig.”  Neu “fe fydd Ysgol Dyffryn Ogwen dan ofal yr Annibynwyr” ?   A beth pe byddid yn ychwanegu: “ni bydd dim dewis i’r plant na’u rhieni; bydd yr ysgol, yr adeiladau a’r adnoddau yn eiddo i’r corff crefyddol, ond bydd y trethdalwyr yn dwyn y draul” ? Fe fyddai yna gryn godi aeliau  – neu o leiaf fe ddylai fod os oes unrhyw synnwyr hanesyddol, dinesig a moesol ar ôl yn ein cymdeithas.

O’R GORAU, DOWCH INNI OFYN: a oes unrhyw wahaniaeth rhwng y ddau syniad hyn a’r peth a gynllunir yn y Bala?

Os ydym am ddweud “oes”, fe allwn ddadlau:  (a) Mae “Ysgol Eglwys” yn beth traddodiadol;  a (b) mewn rhai dalgylchoedd cynradd ni bu dewis, ac nid oes eto. Y gwrthateb yw mai rhannau o’r cyfaddawd oddi ar Ddatgysylltiad yw (a) a (b) yng Nghymru, yr enwog “gyfaddawd Prydeinig” mewn cyswllt Cymreig.  Cytunodd yr Eglwys Anglicanaidd a’r awdurdod lleol i rannu rheolaeth rhai ysgolion a oedd yn eglwysig eisoes, ac aeth hynny rhagddo yn ddigon didramgwydd.

A yw hyn yn gyfiawnhad, neu yn gynsail digonol, ar gyfer cyflwyno, o’r newydd, reolaeth enwadol – boed mewn mesur bach neu fawr – dros addysg ddyddiol, orfodol (i) i holl blant y dref  yn y sector cynradd, (ii) i holl blant y dalgylch yn y sector uwchradd?

Nac ydyw, ac ni fydd byth. Os yw awduron a chefnogwyr y penderfyniad yn credu ei fod, boed iddynt ddweud hynny ar goedd, a rhoi eu rhesymau.  A boed iddynt ATEB y cwestiynau a’r gwrth-ddadleuon, neu O LEIAF ddangos eu bod yn medru eu darllen.

Ers pan gododd y mater gyntaf fe glywyd mwy nag un gwrthwynebiad.  Mi garwn i wahaniaethu yma rhwng, (1) gwrthwynebiadau dilys, a (2) y gwrthwynebiad hanfodol.

(1)    DILYS

(a)    Cyfeirir at “draddodiad Ymneilltuol” yr ardal dan sylw.   Hollol deg a pherthnasol, a phwysig yng ngolwg llawer mae’n sicr. Yn wir mae’n demtasiwn awgrymu galw’r ysgol fawr newydd yn “Ysgol Syr Watkin”, i ddathlu troi mam Michael D. Jones o’i chartref.  Ond gwrthwynebiad dilys, heb fod yn hanfodol, yw hwn.  Petai’r un peth i ddigwydd yn ninas eglwysig Bangor, byddai’r egwyddor yr un fath yn union.

(b)   Dyma hi’n ganmlwyddiant a hanner taith y Mimosa, a digwyddiadau’n coffáu hynny.  Rhaid dweud fod penderfyniad Gwynedd yn amlygu rhyw ddiffyg amgyffred hanesyddol, ie a rhyw ddiffyg chwaeth hefyd, ar ran ei awduron.  Mater dilys eto, ond nid mater hanfodol.  Oherwydd beth bynnag yr amseriad, byddai’r penderfyniad yn anghywir.

(c)   Codwyd y gwrthwynebiad seciwlaraidd neu anffyddiol.  Digon dilys eto, yn dibynnu ar eich safbwynt. Ond nid oes raid cymryd y safbwynt hwnnw er mwyn gwrthwynebu’r penderfyniad, fel y ceisiais ddadlau ym mlog 5 Awst. Nid oes raid gwthwynebu addysg enwadol chwaith, cyn belled â bod honno (i) yn wirfoddol, a (ii) yn cael ei hariannu yn llwyr gan gorff crefyddol.

(2)     HANFODOL

Y gwrthwynebiad hanfodol yw hwn:   yr ydym yn sefydlu ysgol ddyddiol, orfodol drwy weithred awdurdod addysg, heb ddewis arall yn y dalgylch i’r plant na’u rhieni, ac yr ydym yn ei gosod, o’r newydd, dan reolaeth un o’r enwadau crefyddol.  Ar dir hawliau sifil mae hyn yn gwbl annerbyniol, ac yn wir fe ellir amau ei gyfreithlondeb.

Neu rhowch hi fel hyn:   os yw’r penderfyniad ar gyfer y Bala yn iawn, yn briodol, yn welliant, pam na wneir yr un modd â holl ysgolion y sir?  Fel y gofynnais y tro diwethaf, oni fyddent oll yn well o gael eu gosod dan ryw gorff crefyddol?  A yw’r cynllunwyr a’r cynghorwyr yn credu hynny?

Gwyddom y gwir wrth gwrs, nid oes yma ond bargen sinigaidd wedi ei tharo yn y cudd rhwng, ar y naill law corff bydol, cyfrwys a digywilydd, ac ar y llaw arall swyddogion sydd eu hunain yn dra diffygiol mewn addysg, dealltwriaeth a diwylliant.  Onid oedd NEB o aelodau Cabinet Gwynedd yn gweld hyn?  Nac oedd, mae’n amlwg, ac mae’r cyfan yn adlewyrchiad sobreiddiol ar ansawdd ein cynrychiolaeth.

Gwyddom fod y drefn gabinet bellach yn llyffetheirio democratiaeth yn enbyd, fel nad oes – fel y clywais – fawr o ddiben i fwyafrif mawr y cynghorwyr fod ar y cyngor o gwbl.  Serch hynny gofynnaf ar goedd: a yw POB UN o gynghorwyr Gwynedd, o bob plaid a charfan, yn hapus â’r penderfyniad?  Gynghorwyr, os oes gennych farn, gadewch i ni ei chlywed.  Cewch lwyfan yn syth, dim ond ymateb i Flog Glyn Adda.  Oes RHYWUN am ddweud gair yn y dwys ddistawrwydd?

Ond gadewch i ni gael rhesymeg, nid esgusion.  Gallaf yn hawdd ddychmygu’r sbin:  “Dyna ni, mae’r peth wedi ei basio.  Gadewch inni yn awr gydweithio’n bositif i’w wneud yn llwyddiant …” &c &c.

Ni ellir gwneud llwyddiant o beth sy’n wallus o’r cychwyn.

Un Ymateb to “Addysg enwadol — a dim dewis”

  1. Alwyn Gruffydd Hydref 9, 2015 at 12:17 am #

    Annwyl Dafydd,
    Wele isod ohebiaeth fu rhyngddof â Chadeirydd Cyngor Gwynedd ynglŷn â chynlluniau addysg Cyngor Gwynedd yn ardal Y Bala. Rwy’n credu ei fod yn hunanesboniadwy:

    From: <Cynghorydd.DilwynMorgan@gwynedd.gov.uk>
    > Date: 17 Medi 2015 15:28:38 GMT+1
    > To: Gruffydd Alwyn CYNG/COUN
    > Subject: Erthygl yn y Daily Post
    >
    > Annwyl Alwyn,
    >
    > Y mae y Daily Post yn dy ddyfynnu yn gwneud honiadau am y broses o ad drefnu addysg Dalgylch Y Berwyn.
    > “The decision on the school’s status was undemocratic”
    > “There was no question asked about what the community thought about the status of the school – “it was decided behind closed doors”
    > Mae rhain yn gyhuddiadau difrifol yn erbyn y drefn sydd yn gyfreithiol i’w dilyn a gan fod Y Bala yn ward i mi, fe hoffwn dderbyn y dystiolaeth sydd gennyt o hyn fel y gallaf fynd a hyn ymhellach.
    >
    > Gyda diolch am dy gonsern am drigolion Penllyn a dod ar mater yma im sylw.
    >
    > Cofion
    >
    > Dilwyn

    ————————————————————————————————————————————

    On 18 Medi 2015, at 16:15, “Alwyn Gruffydd” wrote:
    >
    > Annwyl Dilwyn,
    > Diolch am dy neges.
    >Cefais alwad gan y Daily Post yn holi fy marn ynglŷn â phenderfyniad Cabinet Cyngor Gwynedd i sefydlu Ysgol Eglwys newydd yn Y Bala. Fe’i rhoddais yn rhadlon gan ail adrodd yr hyn rwyf wedi ei bregethu ers blynyddoedd bellach for y drefn gabinet gyda 10 aelod yn unig o’r 75 o aelodau’r Cyngor, a rheini o’r un blaid wleidyddol, gyda’r hawl absoliwt am benderfyniadau heb gyfle i unrhyw aelod arall apelio yn eu herbyn, yn groes i holl egwyddor trylowyder, atebolrwydd – a thrwy hynny ddemocratiaeth ei hun. Ar ben hynny mae trefn graffu’r Cyngor yn gyfan gwbl annheilwng ac yn cyfrannu dim, hyd y gwela i, at gyfundrefn lywodraethol y Cyngor. Does dim rhyfedd fod yna gymaint o ddifrawder ymysg y cyhoedd am wleidyddiaeth a gwleidyddion yn gyffredinol.
    > O ran penderfynu y tu ôl i ddrysau caeëdig cefais gadarnhâd yn ddiweddar gan un o uchel-swyddogion y Cyngor fod aelodau’r Cabinet yn cyfarfod o flaen llaw yn breifat i drafod y materion o’u blaenau yn ddiweddarach yn eu cyfarfodydd ffurfiol. Hynny yw, penderfynu y tu ôl i ddrysau caeëdig i ddechrau. Sut fath o lywodraeth agored yw hynny?
    > Gobeithio fod hyn yn ateb dy ymholiadau. Os y gallaf fod o unrhyw gymorth pellach paid â phetruso cyn cysylltu.
    > Cofion,
    > Alwyn.
    > ON: Ella i ti sylwi’n barod ar lythyr ardderchog ar addysg yn Y Bala gan Dafydd Glyn Jones, Bangor, yn Y Cymro heddiw.

    —————————————————————————–

    From: Morgan Dilwyn CYNG/COUN [mailto:Cynghorydd.DilwynMorgan@gwynedd.gov.uk]
    Sent: 18 September 2015 17:39
    To: Alwyn Gruffydd
    Subject: Re: Erthygl yn y Daily Post

    Annwyl Alwyn,
    Diolch am dy ateb. Does dim rhaid pregethu am y drefn eto fyth gan mai dyna yr amodau rydym wedi ei gael i lywodraethu a mae rhaid gweitho o fewn hynny am y tro beth bynnag.
    O ran yr Ysgol rydwi yn ymfalchio mewn buddsoddiad o dros ddeg miliwn yn fy ward ac mi fyddaf yn dal i weithio cyn galetad ac y gallaf i sicrhau eu llwyddiant er lles fy nghymuned a plant y dalgylch.
    Mae pawb wedi cael y cyfle i ddweud eu dweud . Ambell un wrth gwrs a rhagfarn bersonol yn erbyn yr Eglwys a phoeni dim am ddyfodol addysg ein plant.
    Diolch am dy sylwadau a rwyf wedi sgwennu at olygydd y Daily Post yn cwyno am safon eu gohebu ac am roi camsyniadau a chelwydd yn eu papur.

    Cofion

    Dilwyn

    DILWYN MORGAN
    Cynghorydd Gwynedd
    Tref Y Bala
    07824983305

    ————————————————————————————————————————-

    Annwyl Dilwyn,
    Diolch am ymateb mor brydlon.Tri mater bach yn codi ohono rhag unrhyw gamddealltwriaeth:
    1. Fel y gwyddost erbyn hyn nid wyf yn un sy’n derbyn pethau fel ag y mae nhw os rwyf o’r farn fod annhegwch yn bodoli a bod fy nghyfrifoldeb fel cynrychiolydd fy ardal yn Y Cyngor yn cael ei lyfetheirio gan yr annhegwch hwnnw. O ganlyniad byddaf yn parhau i bregethu y erbyn y drefn bresennol hyd nes y gwelwn adfer ddemocratiaeth yng Ngwynedd. Yn anffodus, fel y bu i mi rybuddio pan fabwysiadwyd cyfansoddiad presennol y Cyngor, bydd rhaid gwneud hynny yng ngholofnnau’r Wasg bellach gan nad oes cyfle priodol ar lawr y Siambr. Ond byddai peidio â gwneud hynny’n fy mradychu fy hun a phawb arall sy’n credu mewn llywodraeth leol agored a theg.
    2. Nid oes rhagfarn gennyf yn erbyn yr Eglwys yng Nghymru. Fe’m maged yn yr Eglwys a chefais fy nerbyn iddi drwy Fedydd Esgob. Ond, heb ail-adrodd sylwadau blaenorol gennyf i ac eraill, mae gennyf grebwyll o hanes hefyd.
    3. Gobeithio nad wyt yn ensynio fy bod yn pedlera celwyddau wrth y Wasg. Rhoddais ddatganiad cywir o’r sefyllfa yng Nghyngor Gwynedd sef fy mod o’r farn ei fod yn Gyngor annemocrataidd gyda chabinet sy’n gwneud ei benderfyniadau tu ôl y ddrysau caeëdig. Nid celwydd mo hynny.
    Cofion,
    Alwyn.

Gadael Ymateb

Rhowch eich manylion isod neu cliciwch ar eicon i fewngofnodi:

WordPress.com Logo

You are commenting using your WordPress.com account. Log Out / Newid )

Twitter picture

You are commenting using your Twitter account. Log Out / Newid )

Facebook photo

You are commenting using your Facebook account. Log Out / Newid )

Google+ photo

You are commenting using your Google+ account. Log Out / Newid )

Connecting to %s

%d bloggers like this: