Gweledigaeth Ieuan Gwynedd

8 Tach

Yn ddiweddar cefais achos i ailddarllen tipyn o waith Ieuan Gwynedd (Evan Jones, 1820-52), gweinidog, golygydd ac ymgyrchydd a gofir yn bennaf efallai am ei wrthdystiad croyw yn erbyn casgliadau’r Llyfrau Gleision.

Yr oedd Ieuan yn gredwr mawr mewn addysg enwadol. Neu, yn fwy manwl, addysg gyd-enwadol.  O fath.

Fel eraill o radicaliaid ei genhedlaeth yn  Lloegr a Chymru, daliai Ieuan Gwynedd mai gwirfoddol a ddylai addysg fod.  Nid o wir fodd y plant efallai, ond o ddewis eu rhieni. ‘Beth ydyw addysg y llywodraeth?’ gofynnodd, gan gyfeirio’i gwestiwn yn arbennig at weithwyr diwydiannol Morgannwg a Mynwy.  A’r ateb: ‘Siop y Cwmni.’

Gan na byddai gan y rhan fwyaf o rieini mo’r amser na’r moddion i addysgu eu plant fesul un ac un, yr oedd raid ei wneud drwy gyd-drefniad, drwy gymdeithas. A chan mai crefydd oedd y peth pwysicaf o ddigon mewn bywyd, cymdeithas grefyddol a ddylai honno fod.  Ddiwedd y 1840au felly, cyfnod y Llyfrau Gleision, yr oedd Ieuan yn annog holl gyrff ac eglwysi Ymneilltuol Cymru i ddod ynghyd gan greu a chyllido cyfundrefn o addysg ddyddiol i’r genedl.

Ymneilltuol?  Beth am yr Eglwys Anglicanaidd?  Oni allai hithau ymuno yn y gwaith mawr?  Na allai, am un rheswm syml, sef mai Eglwys Wladol oedd.  Heddiw, ac oddi ar 1920, ni byddai’r gwrthwynebiad yn sefyll yng Nghymru.

Bu farw Ieuan Gwynedd yn 31 oed, cyn prin ddechrau ar ei gynllun uchelgeisiol i godi arian at y fenter fawr  genedlaethol.  Ac er bod eraill â’r un syniad, ni ddaeth dim ohono. Pe bai Ieuan wedi byw a’r bwriad wedi ei wireddu, pa mor wahanol fuasai pethau?  A fuasai’r gyfundrefn wirfoddol, Ymneilltuol yn fwy Cymraeg na’r hyn a gafwyd?  Ynteu a oedd yr awydd am addysg ddyddiol Saesneg eisoes wedi cydio’n rhy dyn?

Pa beth bynnag a feddyliwn am weledigaeth Ieuan Gwynedd, a oedd modd ei gweithredu ai peidio yng Nghymru Oes Victoria, rhaid inni gydnabod ei bod yn GYFAN, yn GYSON ac yn RHESYMEGOL.

Ni ellir dweud hynny heddiw am gynllun Cyngor Gwynedd ar gyfer Addysg Enwadol.  Ie, mater cylch y Bala a Phenllyn unwaith yn rhagor, – ac erbyn gweld, mae pethau tebyg yn codi eu pennau yn siroedd Dinbych, Môn, Ceredigion a Phenfro, gyda’r gwahaniaeth fod y rheini (hyd yma beth bynnag) yn ymwneud â’r sector cynradd yn unig. Bwriad Gwynedd ar gyfer y Bala yw’r ymgais gyntaf (hyd yn hyn, dywedaf eto) i orfodi  addysg enwadol ar holl ddalgylch ysgol uwchradd.

Mi wn mai ofer gofyn cwestiwn i bobl na allant gymryd y camau cyntaf mewn rhesymeg, ond gofynnaf unwaith eto ambell gwestiwn yn rhethregol gan smalio fod swyddogion addysg Gwynedd yn gwrando yn rhywle, neu aelodau cabinet Gwynedd, neu bob cynghorydd o Wynedd nad yw wedi mynegi barn wahanol :

1.    A ydych chi’n credu mai addysg enwadol sydd orau i blant Penllyn?   (Rhaid mai’r ateb yw ‘YDW’.)

2.     A ydych chi’n credu mai yr Eglwys yng Nghymru yw’r corff cymhwysaf i ddarparu’r addysg honno?  (Ateb:  ‘YDW’ eto, mae’n rhaid.)

3.     Beth a’ch arweiniodd yn sydyn i ateb ‘YDW’ i gwestiynau 1 a 2 ? (Pssst, yr ydym yn gwybod, ond gadewch iddyn nhw ateb.)

4.    (a)  Ai eich bwriad gan hynny yw troi pob ysgol yn y sir yn ysgol enwadol?   (b) A fydd gwobr fawr ariannol i bob ysgol am gyd-fynd â’r bwriad?  (Os mai ‘IE’ a ‘BYDD’ yw eich atebion, popeth yn iawn.   Ond os mai ‘NAGE’ a ‘NA FYDD’, rhaid gofyn cwestiwn pellach.)

5.    Pam y mae’r Bala a Phenllyn yn wahanol felly?  (Yr ydym yn gwybod, ond disgwyliwn yr ateb.)

6.     Os mai ‘IE’ a ‘BYDD’ yw’r atebion i 4 (a) a (b), a rennir y cyfrifoldeb rhwng amrywiaeth o gyrff crefyddol;  ai ynteu yr Eglwys Anglicanaidd fydd yr unig ymgeisydd yn y maes?   Beth yw eich bwriad ?

Dyma ddigon o gwestiynau gan Wil wrth y Wal.  Awn yn ôl at y cefndir hanesyddol. Ni wireddwyd cynllun Ieuan Gwynedd a’r radicaliaid, na dim byd tebyg yng Nghymru nac yn Lloegr. Aed ymlaen, er gwell neu er gwaeth, i greu cyfundrefn o addysg ddyddiol, orfodol, wladwriaethol, gan rannu’r cyfrifoldeb drosti rhwng llywodraeth y dydd a’r awdurdodau lleol.  Diogelwyd yr ysgolion Anglicanaidd, sef yr ‘Ysgolion Cenedlaethol’ gynt (o’u cyferbynnu â’r ‘Ysgolion Brytanaidd’ anenwadol).  Dan Ddeddf Addysg Balfour, 1902, gwarantwyd nawdd ariannol drwy’r awdurdodau lleol i’r Ysgolion Eglwys;   bu protestio mawr ond ofer gan rai o’r Ymneilltuwyr.  Mewn amser derbyniwyd y sefyllfa, a hyrwyddodd yr Eglwys y cyfaddawd drwy ddynodi rhai ysgolion yn rhai ‘gwirfoddol reoledig’, sef ysgafnhau peth ar ei rheolaeth ei hun.   Parhaodd y cyfaddawd pan ddaeth Datgysylltiad yng Nghymru, 1920.

I barhau â’r cyfaddawd heddiw, beth a allai awdurdod lleol ei wneud, gydag anrhydedd, lle cred fod rhaid cau neu gyfuno ysgolion?  Os rhaid cau Ysgol Eglwys, dylai’r awdurdod brynu’r adeilad gan yr Eglwys, h.y. ei digolledu.  Byddwn i’n fodlon mynd ymhellach : er mwyn diogelu’r cyfaddawd, dylai’r awdurdod ystyried yn ddifrifol helpu’r Eglwys i gadw’r ysgol ar agor, costied a gostio.  Ond nid dyna yr ydym yn ei weld yng Nghymru’r dyddiau hyn.  Yn hytrach, torri’n hyf drwy derfynau’r cyfaddawd yr ydym wedi ei barchu o’r ddeutu oddi ar Ddatgysylltiad, ac sydd wedi gweithio’n ddigon didramgwydd.   Mewn mwy nag un ardal gwelwn yr Eglwys yn colli un ysgol ond yn ennill dwy neu dair, – gyda’r canlyniad nad oes dewis o gwbl o fewn y dalgylchoedd.  Dyna’r hyn y mae’r cynghorau’n cytuno iddo, ac yn amlwg yr hyn y mae’r esgobaethau’n pwyso amdano. Ym Mhenllyn, – yr enghraifft gyntaf yng Nghymru hyd yma – dyma orfodi’r addysg enwadol, heb ddewis, ar holl ddalgylch ysgol uwchradd.  Am y tro, rhown o’r naill du Thomas Charles a Lewis Edwards, Ap Vychan, Tom Ellis a Rhyfel y Degwm, Michael D. Jones a’r Mimosa (er mai arwydd o dwpdra a diffyg addysg y swyddogion a’r cynghorwyr oedd eu bod wedi anghofio’r  pethau hyn).  Er mor bwysig yw Hanes, cwestiwn o Hawl Sifil sydd yma yn ei hanfod, ac ar y tir hwnnw y dylid galw’r cynghorau yn gyfreithiol i gyfrif.  Beth, er enghraifft, petai ysgol Foslemaidd yn cau yn un o ddinasoedd Prydain, a’r awdurdod lleol wedyn yn cyhoeddi ‘Ymhen dwy flynedd fe fydd pob ysgol yn y ddinas yn Foslemaidd’?  Yr un egwyddor ydyw.

Gallwn roi yn awr yr atebion i gwestiynau 3 a 5 uchod.  Bargen salw fu yma, y cytunwyd iddi yn y cudd a than bwysau gan swyddogion anneallus, a’i chymeradwyo wedyn gan gabinet o rai yr un mor gibddall.

A chan mai plaid wleidyddol  sy’n rheoli Gwynedd (o drwch blewyn, wedi iddi  golli ei chefnogaeth eang drwy ei maith ffolineb yn y gorffennol), oni ddylid gofyn, ble mae disgyblaeth y blaid honno? Ble mae ei pholisi? Ble mae ei hegwyddor?   A bod yn benodol, fe ddylai Leanne, dipyn cyn hyn, fod wedi rhoi ei throed i lawr a dweud wrth bob cynghorydd a phob cynrychiolydd sy’n derbyn sêl ei phlaid: ‘PEIDIWCH Â GWNEUD PETHAU HOLLOL WIRION’.

Advertisements

6 Ymateb to “Gweledigaeth Ieuan Gwynedd”

  1. Awel Jones Tachwedd 9, 2015 at 2:47 pm #

    Cytuno yn hollol a’ch sylwadau. Rydw innau mor siomedig yn yr hyn mae cynghorwyr fy mhlaid fy hun wedi ei wneud.

    • glynadda Tachwedd 13, 2015 at 5:54 pm #

      Diolch yn fawr Awel. Ateb isod.

  2. Dyfir Gwent Tachwedd 11, 2015 at 9:51 pm #

    Rwyf innau’n cytuno’n llwyr a’ch sylwadau. Ni feddyliais erioed y byddwn yn gweld y dydd pan fyddai’r blaid yr wyf wedi bod mor ffyddlon iddi, yn gweithredu yn y fath fodd gan ein hamddifadu o addysg gymunedol ym Mhenllyn, a hynny heb gynnig esboniad credadwy.

    • glynadda Tachwedd 13, 2015 at 6:00 pm #

      Diolch, Awel Jones a Dyfir Gwent. Mae gen i bob hyder y bydd rhai ohonoch ym Mhenllyn acw yn gofalu nad ydym wedi clywed y gair olaf am y mater gwir chwerthinllyd a gwaradwyddus hwn. Mae un peth pwysig y gall cyrff crefyddol ac eglwysi unigol ei wneud, sef gwrthod yn fflat gynnig nawddogol yr Eglwys Anglicanaidd o sedd fach neu ddwy ar Fwrdd Llywodraethwyr yr ysgol newydd (os daw honno i fod). Yr Eglwys oedd isio hi; eled ymlaen heb i enwadau eraill gyfranogi yn ei chastiau.

  3. Mari Tachwedd 26, 2015 at 7:57 pm #

    Ychydig filltiroedd yn unig o’r Bala y ganed Ieuan Gwynedd, ym Mryntynoriaid ar y Garneddwen. Mae ysgol gynradd Rhydymain (rhwng Dolgellau a Llanuwchllyn) wedi’i henwi ar ei ôl – dichon y caiff ei hailenwi pan droith yn ysgol ardal cyn bo hir!

    Mae’n gynllun anfaddeuol o dwp.

    • glynadda Tachwedd 26, 2015 at 8:58 pm #

      Diolch, Mari. Peidiwn â gadael i’r mater hwn orffwys. Bydd eisiau enw ar yr ysgol newydd. ‘Ysgol Syr Watkin’, mae’n debyg. A phwy gawn ni i’w hagor?

Gadael Ymateb

Rhowch eich manylion isod neu cliciwch ar eicon i fewngofnodi:

WordPress.com Logo

You are commenting using your WordPress.com account. Log Out / Newid )

Twitter picture

You are commenting using your Twitter account. Log Out / Newid )

Facebook photo

You are commenting using your Facebook account. Log Out / Newid )

Google+ photo

You are commenting using your Google+ account. Log Out / Newid )

Connecting to %s

%d bloggers like this: