Tynnu’ch sylw heddiw at chwe chyfrol ddiweddaraf cwmni Dalen Newydd Cyf.
Rhif 11 yng nghyfres ‘Cyfrolau Cenedl’ yw Thomas Parry : Dwy Ddrama, sef Lladd wrth yr Allor (cyfieithiad o ddrama T.S. Eliot, Murder in the Cathedral) a Llywelyn Fawr. Dyma glasur benthyg a chlasur gwreiddiol o law meistr ar yr iaith, yr oedd yn hen bryd eu gweld yn ôl mewn print. Cynhwysir dwy ddarlith werthfawr ar y ddrama gan Syr Thomas Parry, a rhagymadrodd gennyf i. Y cyfan am £ 10.00
Y Porthwll gan Elidir Jones. Nofel gan awdur newydd. Lleolir y digwyddiadau rhwng copa’r Wyddfa a gwaelod Llyn Cowlyd, a rhwng y ddau mae dynol ryw yn rhygnu ymlaen â’i bywyd mewn cornel o Wynedd … hyd nes y daw’r Porthwll. Wedyn, gan chwarae ag amser, mae pethau’n digwydd ddwywaith, – ond â gwahaniaethau bach bob tro. Ond gyda’r diwedd syfrdanol daw gwahaniaeth mawr. Er gwell, tybed? £ 9.00
Daw pedair cyfrol arall yng nghyfres ‘Yr Hen Lyfrau Bach’, gyda phwt o gyflwyniad bob tro gan yr hen G.A. dan ei enw barddol. Gellir cael y cyfan am £10.00 fel ‘Pecyn 2′ (y pecyn pinc), sy’n dal i ffitio hosan Nadolig y Cymro a’i boced (yn y ddwy ystyr).
Hen Lyfr Bach Lloyd George. Dyma ddetholiad newydd o bethau a ddywedodd ‘Dewin Dwyfor’ yn ystod ei yrfa dymhestlog hir. Ceir yma dreiddgarwch a sentiment, caswir a gweniaith, gweledigaeth a dallineb, – cyfuniadau cyffredin ym myd gwleidyddiaeth, ond y cyfan ar raddfa fwy na’r cyffredin am mai Lloyd George sydd yma. Drwy’r cyfan rhed yr arabedd di-ball a’r ddawn ysgubol. £ 3.00
Hen Lyfr Bach Penillion Omar Khayyâm (John Morris-Jones). Wedi ei gyfareddu fel llawer yn ei genhedlaeth gan gyfaddasiad Edward Fitzgerald o Rwbâ‘iyât Omar Khayyâm, bwriodd John Morris-Jones ati i lunio’i fersiwn Gymraeg gan droi at y Berseg wreiddiol. Mewn teyrnged i Syr John gofynnodd R. Williams Parry : ‘Ac onid yn ei “Omar” – y gerdd bagan honno – y clywyd Cymraeg gorchestol y Beibl felysaf erioed mewn cerdd?’ £ 3.00
Hen Lyfr Bach Twm o’r Nant yn Cofio. Golygiad newydd o hunangofiant rhyddiaith Bardd y Nant (a gyhoeddwyd gyntaf ym 1805) ynghyd â nifer o gerddi yn bwrw golwg dros ei yrfa helbulus. Drwy’r cyfan ceir yr un gymysgedd o ymffrost ac edifeirwch, dweud ei gŵyn a dweud ei gyffes, a’r un frwydr barhaus rhwng ei ‘athrylithr’ a’i amgylchiadau. £ 3.00
Hen Lyfr Bach Cerddi Goronwy Owen. Canai Goronwy Owen ar destunau cyfarwydd ei oes ac mewn moddau a oedd yn ffasiynol mewn llenyddiaeth Saesneg. Ond yn gyfeiliant i’r cyfan mae ei helbul ef ei hun, ei obeithion a’i fynych siomedigaethau wrth chwilio am ‘y gem neu’r maen gwerthfawr, sef dedwyddyd’. Dyma ddetholiad bach newydd o’i gerddi enwog a llai enwog.
£ 3. 00
Yn awr gellir cael manylion am holl gynnyrch y cwmni hwn ar ‘Stondin Dalen Newydd Cyf’, (dalennewydd.cymru), a hefyd gellir prynu. Galwch i mewn.
Gadael Ymateb