Dau begwn y wlad

15 Tach

Rydym yn ddyledus i Flogmenai (13 Tachwedd) am dynnu sylw at gyfweliad Jason Mohammad â Leanne Wood ar y cwestiwn aruthrol bwysig o ganu ‘God Save the Queen’ ai peidio ar achlysuron cyhoeddus yng Nghymru. Y cefndir, fel y cofir, oedd fod Neil McEvoy, arweinydd Plaid Cymru ar Gyngor Caerdydd, heb ymuno yn y gân ar ddiwedd seremoni’r Cofio yn y brifddinas. Beirniadwyd ef gan ryw Dori cerddgar, rhoes yntau ddau chwech am swllt, yna cafodd rhywun yn y BBC y weledigaeth o ddefnyddio hyn i blesio’u meistri drwy biwsio ychydig ar y Pleidwyr.

I bob cŵyn am beidio canu, boed yn anthem neu beth bynnag, mae un ateb syml iawn cyn dod at unrhyw ystyriaeth wleidyddol.  Nid yw pawb yn canu, ac nid yw pawb yn medru canu.  Mae disgwyl i bawb ganu fel disgwyl i bawb gynganeddu. Dyna ben arni.

Ond gwleidyddol, wrth reswm, yw’r holl gorddi o du’r Sefydliad a’u cŵn bach y dyddiau hyn ynghylch caneuon ac arwyddluniau diwylliant totemig Prydeindod, ac am y tro cyntaf ers cenedlaethau mae wedi taro’r Blaid Lafur.  Do, fe wisgodd Corbyn goler a thei a phabi coch, do fe ganodd, ond ni foesymgrymodd yn ddigon isel, – wedyn dyna ni.  Gwyddom oll beth sy’n gyrru’r peth heddiw i grescendo niwrotig, sef  datblygiadau yn yr Alban.  Os daw Alban annibynnol, dyna ddiwedd ar gêm mil o flynyddoedd, ac mae’r rhai sy’n rheoli yn Lloegr yn deall hynny.

Yr oedd cwestiynau a sylwadau Jason Mohammad yn hurt a rhagfarnllyd i’r eithaf, – a braidd yn annisgwyl gan un y daethom i ddisgwyl mwy o synnwyr ganddo.  Ni chymerodd Leanne unrhyw lol, ac yr oedd hynny’n hwb bach i’r galon.  Rhwng medr Leanne wrth drin y cyfryngau ac arweiniad Neil McEvoy yng Nghaerdydd, daw ambell arwydd cadarnhaol o un cwr i Gymru.  A dry hyn yn gefnogaeth etholiadaol o gwbl sydd gwestiwn mawr.  Pobl geidwadol a Phrydeingar yw gwerin Morgannwg a Mynwy, ac ymddengys mai at UKIP y mae eu gogwydd ar hyn o bryd.  Cawn weld.

Ond yn ôl at dirwedd digalon ei wlad ei hun y mae’n rhaid i’r hen G.A. ddychwelyd.  Ie, mater mawr y dydd eto, sef polisi gwrthun cabinet Gwynedd o ailgyflwyno addysg enwadol yn y sir, heb roi’r dewis. Gallaf ddweud ar gydwybod nad oes dim yn fy nghof a’m profiad i wedi siglo ffydd mewn llywodraeth a gwleidyddiaeth i’r fath raddau.   A’r wedd dristaf yw anallu arweinwyr y Cyngor i ymateb yn rhesymegol i’r gwrthwynebiadau.

Does bosib y caiff hyn sefyll.  A yw pob un cynghorydd Plaid Cymru ar y Cyngor yn hapus â’r penderfyniad?  A yw grwpiau ac unigolion eraill yn cyd-fynd ag ef?  Onid oes gymal rywle yn y cyfansoddiad yn galluogi galw cyfarfod arbennig o’r Cyngor cyfan i ystyried peth mor sylfaenol?

Advertisements

Un Ymateb to “Dau begwn y wlad”

  1. Alwyn Gruffydd Rhagfyr 2, 2015 at 1:07 am #

    Er gwybodaeth rheolir Cyngor Gwynedd gan Gabinet o 10 aelod. Maent wedi’u dewis gan Arweinydd y Cyngor ac maent fel ei gilydd yn aelodau o’r un plaid wleidyddol. Nid oes unrhyw gyfundrefn ar gyfer apelio yn erbyn penderfyniadau’r cabinet ac nid oes modd i’r 65 o aelodau eraill y Cyngor graffu unrhyw fater CYN i’r Cabinet ei drafod. Dyna yw democratiaeth diwerth Gwynedd y dwthwn hen.

Gadael Ymateb

Rhowch eich manylion isod neu cliciwch ar eicon i fewngofnodi:

WordPress.com Logo

You are commenting using your WordPress.com account. Log Out / Newid )

Twitter picture

You are commenting using your Twitter account. Log Out / Newid )

Facebook photo

You are commenting using your Facebook account. Log Out / Newid )

Google+ photo

You are commenting using your Google+ account. Log Out / Newid )

Connecting to %s

%d bloggers like this: