Neb yn deilwng

19 Tach

Er gwell neu er gwaeth, nid yw’r hen G.A. wedi cystadlu rhyw lawer erioed.  Ond fis Mai eleni mi roddais gynnig arni, mewn ymateb i’r hysbyseb hon:

hysb cyst clasur

Fe ddaeth yr haf, ac fe aeth. Dim sôn am ddyfarniad na beirniadaeth na’r ‘rhestr derfynol o glasuron cydnabyddedig’.  Holais Lenyddiaeth Cymru, drwy Tŷ Newydd, 10 Medi a 23 Hydref, ond ni ddaeth gair yn ôl.  Yna mi anfonais at Hywel James, Prif Lyfrgellydd Gwynedd, a chefais ateb llawn a phrydlon ddechrau Tachwedd.  Yr oedd ‘ychydig dros hanner cant o enwebiadau’ wedi dod i mewn. Ni ddyfarnwyd gwobrau.  Yr oeddwn innau heb weld rheol na ddylid mynd dros hanner can gair.  Neb yn deilwng felly.  Ond dyma gyhoeddi fy ymgais, fel petai’n un o bryddestau anfuddugol yr Eisteddfod.  Gobeithio y bydd o ddiddordeb i rai o ddarllenwyr y blog, a gall darllenwyr hŷn gymharu eu hargraffiadau a’u hatgofion eu hunain.

§

Y DDAU FATH O  GLASUR

Ymateb i wahoddiad Cymdeithas Prif Lyfrgellwyr Cymru, Cyngor Llyfrau Cymru a Llenyddiaeth Cymru.  

Mae dau ddosbarth o glasuron, a gall y ddau orgyffwrdd wrth gwrs:   I.   Ein clasuron personol, y rhai y bu inni eu mwynhau pan oeddem yn blant neu’n gymharol ifainc, a dal i’w gwerthfawrogi drwy’r blynyddoedd, efallai gan eu hailddarllen.    II.   Clasuron gwlad, y llyfrau sy’n dal yn eu hapêl dros genedlaethau, neu a gyfrifir yn bwysig yn hanes yr iaith a’i llenyddiaeth.  Dywedaf air am y ddau fath, gan ymgyfyngu i nofelau a storïau fel yr awgrymir yn y gwahoddiad, ac i lyfrau Cymraeg.

I.        CLASURON PERSONOL

Yr oedd i ni, blant blynyddoedd canol yr ugeinfed ganrif, tua hanner cant o nofelau a llyfrau straeon Cymraeg yr oedd cyfran uchel ohonom un ai wedi eu darllen neu wedi eu ‘cael’ yn yr ysgol ar ddiwedd pnawn Gwener os buom yn blant go dda yn ystod yr wythnos.  Dyma weithiau Meuryn, Elizabeth Watkin-Jones, G.E. Breeze, E. Tegla Davies, Idwal Jones, Alwyn Thomas, Hugh Evans, Gwilym E. Thomas, J.E. Williams, J.O. Williams, Joseph Jenkins, R. Lloyd Jones, W.D. Owen, John Pierce, Elena Puw Morgan,  E. Morgan Humphreys ac eraill.  Gan y rhain, ynghyd â’r Beibl a Llyfr Mawr y Plant, y cawsom ein Cymraeg llenyddol.  Yr oeddwn i’n rhy hen, ysywaeth, erbyn y dechreuodd ffrwd nofelau T. Llew Jones; darllenais amryw ohonynt yn werthfawrogol mewn blynyddoedd diweddarach.

Tebyg fod amryw fel finnau wedi darllen storïau Meuryn i gyd, yn cynnwys anturiaethau gwir godi-gwallt-pen Deiniol Morgan yn yr Affrig  (ychydig yn wleidyddol anghywir weithiau yn y darlun o’r ‘brodorion duon’) a hanesion yr Arolygydd Penri (‘yr ‘Aroglydd’, fel y darllenais ei enw y tro cyntaf) ar drywydd sawl llofrudd yng nghefn gwlad Cymru.  ‘Tydi’r Prif Gwnstabl ’ma’n dwp, deudwch?’ sylwodd ein prifathro, Mr. Gruffydd, wrth ddarllen inni Dirgelwch Hendre Galed.   Anodd anghytuno.  Ac ‘wedi myned yn ŵr’, anodd anghytuno chwaith â’r farn fod y  straeon ymhell o fod yn adlewyrchiad cywir o ddulliau’r heddlu. Nid oedd hynny’n poeni dim arnaf yn y blynyddoedd gleision, na phoeni neb o’m cyfoedion, rwy’n dyfalu. Clod bythol i Meuryn.  Ei lyfr gorau yn ôl safonau gwrthrychol yw Y Barcud Olaf, casgliad o storïau natur gafaelgar dros ben, gyda’r thema ddiosgoi bod yn rhaid i bob creadur gael bwyd.

Nes ati o ran darlunio dulliau plismon a ditectif yw cyfres nofelau John Ellis Williams am Inspector Hopkyn a’r cyn-heddwas Parri (a gafodd gydweithio dro neu ddau).  A bod yn fanwl ni ddaw’r rhain ychwaith i gategori llyfrau fy mhlentyndod, ond cefais flas mawr arnynt fel y deuent allan, a byddaf yn dal i’w darllen, – nid er mwyn dal y troseddwr ond am y darlun o oes a chymdeithas.  Sgrifennais fel hyn unwaith:

Mae yma deimlad ac aroglau’r pumdegau, a rhywbeth i foddio’r ysfa fusneslyd honno y mae operâu sebon hefyd yn darparu ar ei chyfer.  Awdur ditectif arall a ganmolwyd ar dro am yr un rhinwedd yw Georges Simenon.  Fe ddywedodd ef unwaith ar ddiwedd cyfweliad: ‘Mae’r beirniaid i gyd ers ugain mlynedd wedi bod yn dweud yr un peth, “mae’n bryd i Simenon roi inni nofel fawr, nofel ag ynddi ddeg ar hugain o gymeriadau.”   Dydyn nhw ddim yn deall. Ysgrifennaf i byth nofel fawr. Mosaic o fy holl nofelau byrion yw fy nofel fawr i.’  Fe allai John Ellis Williams yn deg iawn fod wedi honni peth tebyg.    

Sgrifennwr ardderchog, ar ei orau, oedd y J.E. Williams arall (Bae Colwyn a’r Bermo).  Campwaith o stori ysbïwyr gryno, gyflym yw Y Graith Las.

Heb amheuaeth, y stori dditectif orau i’w mwynhau gan fy nghenhedlaeth i yw Dirgelwch Gallt y Ffrwd gan E. Morgan Humphreys.  Fe ddywedai’r arbenigwr ei bod yn torri dwy o ddeddfau’r stori dditectif Brydeinig glasurol: (i) mae rhywun yn ymosod yn gorfforol ar y datgelwr (peth nad yw’n digwydd byth yn nofelau J. Ellis Williams);   (ii) fe leddir plismon yng nghwrs ei ymholiadau.  Serch hynny, clasur.  Cystal dyfynnu eto beth a ddywedais:

 Cofiadwy iawn yw ei hawyrgylch gyda’r nosau diwedd haf mewn ardal dawel uwchben y môr, a’r modd graddol a thawel yr awgrymir rhyw ddrygioni ar waith.   Gellir olrhain yr ‘is-blot Indiaidd’, fel y clywais alw’r math hwn o beth, i fodelau Saesneg, The Moonstone gan Wilkie Collins yn arbennig. Efallai nad yw’r dadleniad gyda’r gorau; ond mae adeiladu’r dirgelwch yn ardderchog, gyda mynd a dod y llong ddieithr, Yr Wylan, ac ymddangosiadau lledrithiol y wraig ifanc Beatrice Lyndford, yn chwarae eu rhan yn dra effeithiol.

Mae i Nedw (E. Tegla Davies) ei arwyddocâd arbennig i mi.  Dyma’r llyfr clawr caled cyfan cyntaf imi ei ddarllen yn ddistaw i mi fy hun.  Syndod pleserus iawn oedd i’m meibion, yn eu tro, gael y fath hwyl a blas ar fyd mor wahanol i’w byd hwy; ac i’m myfyrwyr hefyd ymateb mor gynnes, – llawer ohonynt, mi dybiaf, heb gwrdd â Nedw o’r blaen.  Clasuron yn ôl unrhyw safonau, straeon a ddylai fod ar gael bob amser, yw ‘Mesur Tir’, ‘Dewyrth a Bodo’, ‘Bod yn Ddiymhongar’, ‘Mafon Duon’ a rhai o’r lleill.  Yn fuan ar ôl Nedw dois at Hunangofiant Tomi, a synhwyro’r gwahaniaeth.  Hogyn direidus yw Nedw, er bod iddo ochr hydeiml.  Hogyn bach cydwybodol, awyddus bob amser i wneud ei orau, yw Tomi Sera Jôs, ond mae iddo yntau ei apêl, a honno’n para.  Anfarwol, y ddau.  Ac fel mewn eraill o straeon am blant – y clasuron oll efallai – mae’r olwg ar oedolion yn bwysig, – eu harferion rhyfedd, eu hanonestrwydd weithiau, a’r iaith y maent yn eu siarad, sef, yn straeon Tegla, jargon y bywyd crefyddol.   Daw’r bechgyn i ddygymod â’r pethau hyn o dipyn i beth, ac i faddau lle mae coll.

Diniwed y cefais i Gwilym a Benni Bach (W. Llewelyn Williams) ar ôl Nedw a Tomi, ond roeddwn yn ddigon hoff ohono; ac os rhywbeth dois i’w werthfawrogi’n fwy ymhen blynyddoedd.  Erbyn i Teulu Bach Nantoer ddod i’m dwylo yr oeddwn i ychydig yn rhy hen, ond bythol glod i Moelona am un llyfr arall, sef ei Storïau o Hanes Cymru.  Da fyddai i holl athrawon ac addysgwyr Cymru ddarllen hwn, a mwydro llai am y Cwricwlwm Cenedlaethol.  O ran cyferbyniad, gallant ddarllen hefyd Ein Hen, Hen Hanes, W. Ambrose Bebb, gwahanol ei gywair.  Rydym yn gorweithio’r gair ‘cyffrous’ heddiw, ac mewn cyd-destunau anaddas, ond cyffro’n wir oedd darllen y llyfr hwn y tro cyntaf.

Un arall o’r meistri yw R. Lloyd Jones, ac mae agoriad Mêt y Mona yn gampus, fel y cludir y ddau fachgen yn ddisymwth o fyd eu chwarae bob dydd i fyd o berygl a dirgelwch.  Am Capten, rhaid ei gosod yn y rheng uchaf oll, o’r noson y darllenais gyntaf y bennod agoriadol. Noson dwym o haf oedd honno, y llofft yn foddfa o olau’r machlud, minnau’n foddfa o ddagrau wrth ddarllen am blant y wyrcws a’u siwtiau llwyd. Wedi’r agoriad calonrwygol ac wedi llawer dyrys dro, down at ddiweddglo gorfoleddus lle gwobrwyir anrhydedd a ffyddlondeb,  – peth pwysig i blant, pwysig i bawb ohonom a dweud y gwir. Do, chwaraewyd rhan gan gyd-ddigwyddiadau, a chan ‘Y Ddamwain Ffodus’ (teitl un o’r penodau).   Ac efallai fod rhywbeth mewn tras hefyd !

Diolch am gyfres lyfrau bach clawr papur Gwasg y Brython, Dai y Dderwen, Huwcyn, Siencyn Tanrallt &c &c, rhyw un ar bymtheg i gyd. Oriau difyr lawer, gydag anturiaethau a helbulon bechgyn yn brif destunau eto. Joseph Jenkins oedd y prif awdur, ond caed cyfraniadau gan eraill – Hugh Evans y cyhoeddwr, J.E. Williams, Daniel Williams a Richard Jones. Ie, Sbando’r Llinyn. Treuliais oriau yn gwneud llinyn du a gwyn fel llinyn Sbando, a cheisio’i glymu yn y modd gofynnol, ond nid ymddangosodd y dyn bach !

Traethodd C.G.Jung lawer, ac yn ddifyr odiaeth, am ffigur y ‘Chwaraewr Castiau’ mewn chwedloniaeth a diwylliant ac yng ‘nghudd droadau’r galon’.  Nid oes gwell enghreifftiau yn y byd nag yn y ddwy gyfrol Nic a Nic Oedd, Nic Fydd gan Gwilym E. Thomas.  Mae rhyw fath o newid cywair rhwng y ddwy gyfrol, a synhwyrwn ar y pryd heb fedru ei ddiffinio’n iawn, ac fe gyfyd yr ail gyfrol at ryw grescendo o ddrygioni digrif dros ben wrth i Nic, gyda help y fodrwy, y drych a’r gadair, droi cylchoedd o gwmpas y ddau gorrach Ismael a Iago, y ddwy hen wrach Nano a Soffia a’r ddau frenin Elifi a Rwstrang.  A’r cast di-chwaeth a chwaraeodd ar y tywysog bach Yo-yo, ddiwrnod ei ben blwydd !   Ofnadwy!  Gorffen y llyfr gyda Nic yn gofyn iddo’i hun, ‘I b’le’r af i nesaf ?’  Ysywaeth, ni ddaeth rhagor, ond ailddarllenais NONF y noson o’r blaen gan chwerthin yn orffwyll fel erioed.

Sôn am hogiau, a direidi, faint sy’n cofio Perl ym Mhen Llyffant ?  Llyfr bychan clawr papur yw hwn, gan Alwyn Thomas (awdur Deg o’r Gloch, Teulu’r Cwpwrdd Cornel &c), am anturiaethau (trychinebus gan mwyaf) dau fachgen o’m hoedran i mewn ardal y gallwn ei hadnabod.  Gyda’r cyfuniad bachgennaidd o ddireidi a diniweidrwydd, saif yn deg yn olyniaeth Nedw, ac mae’n deilwng iawn ohoni. Mae rhywbeth ynddo sy’n ein ‘tynnu i mewn’ ar unwaith.

Ac aros gyda gweinidogion o Ddyffryn Nantlle, barnodd Idwal Jones wrth edrych yn ôl nad oedd anturiaethau Gari Tryfan ac Alec yn gweithio cystal, rywsut, fel nofelau ag y gwnaent yng nghyfresi iasol ‘Awr y Plant’.  Gwir efallai, ond mae tudalennau olaf Dirgelwch y Gamma yn gyffrous iawn ac yn dal peth o arswyd yr eiliadau cyn i fiwsig lloerig Tshaicofsci daro ar ein clyw unwaith eto.  Roedd rhagor i’w ddweud am y Gamma (clymblaid o ddrwgweithredwyr rhyngwladol, rhagflaenydd i SMERSH ac i ‘Grŵp Bilderberg’), a thrueni na chawsom fel llyfr y rhan olaf, sy’n datgelu pwy oedd tu ôl i’r cyfan.

Cyfresi ‘Awr y Plant’ eto oedd storïau R. Bryn Williams, Y March Coch a Bandit yr Andes cyn eu troi’n llyfrau.  Cafodd eu Cymraeg-Sbaeneg ac acenion Dagoaidd y dihirod afael fawr arnom ni blant, a chawsom ail-fyw’r anturiaethau drwy eu dynwared. Yr oedd yma rywbeth gwreiddiol, gwahanol  eto, yn perthyn i bennod ramantus o’n hanes.  Rhyw ffigur fel Zorro oedd y March Coch, yn dod i’r adwy pan fyddai gwasgfa ar y Gwladfawyr.  Yn hytrach na’n bod ni yma’n datgelu’r gyfrinach pwy oedd, gwell ailgyhoeddi’r llyfr.

O blith storïwyr Cymraeg, y mae un awdures y bydd ei henw’n dragwyddol gyfystyr â’r gair ‘rhamant’.  Elizabeth Watkin-Jones yw honno.  Tywydd, tirwedd, sŵn y môr, sŵn carnau meirch, – fe gydweithia’r cyfan i roi inni’r peth hanfodol hwnnw, awyrgylch.  Yn Y Dryslwyn mae naws, cymeriad i Dafarn y Ddraig y funud yr awn trwy’r drws, ac mae naws a chymeriad gwahanol i Dafarn y Cei. Mae i Plant y Mynachdy, Luned Bengoch a’r Cwlwm Cêl oll eu rhinweddau; efallai mai stori Luned a gydiodd fwyaf o’r tair yng ngrym yr agoriad, yna hanes Rhys yn achub Luned, ac yna’u hymchwil gyda’i gilydd am Owain Glyndŵr.  Yn Y Dryslwyn deuwn yn ôl unwaith eto at y ddeubeth hynny, ffyddlondeb ac anrhydedd, mor hanfodol mewn storïau i blant a hefyd mewn rhamant.  Efallai mai fi oedd yn ara’ deg yn ei gweld-hi, ond pan ddarllenais gyntaf, yn saith oed, dudalen 126 o’r Dryslwyn, fe’m trawodd yn fy nhalcen fel datgeliad syfrdanol.  Daliaf i brofi gwefr y datgeliad bob tro yr ailddarllenaf Y Dryslwyn, a dyma’r llyfr yr wyf wedi ei ddarllen amlaf o bob un erioed.

Syrthiais dan gyfaredd Madam Wen (W.D. Owen) pan ddarlledwyd hi ar Awr y Plant. Tipyn bach yn hen-ffasiwn y cefais i arddull y llyfr pan ddois ato, wedi cael fy sbwylio gan Elizabeth Watkin-Jones yn y cyfamser.  Ond buan y peidiodd hynny â bod yn broblem.  Stori am fyw dau fywyd yw Madam Wen fel Y Dryslwyn, gyda chymeriad o natur anrhydeddus – ac o waed da, wrth gwrs! – yn gorfod treulio tymor ar herw er mwyn iawnhau hen gam.  Hud a lledrith!   Diweddglo ardderchog!

Yr oeddem ni blant y genhedlaeth honno’n darllen amryw o lyfrau oedolion ochr yn ochr â’r llyfrau a anelwyd fwy at ein hoedran.  Soniaf am un, yr oedd fy nyhead am ragor ohono wedi fy ngyrru i sgrifennu, orau y medrwn a bron cyn dysgu ‘sgwennu sownd’, ambell stori yn ei ddynwared.  Storïau’r Henllys Fawr (W.J. Griffith) oedd hwnnw, a saif o hyd yn rheng flaen clasuron digrif y byd.

Os mai trafod clasuron yr ydym, siawns nad oes lle i ryw un ‘clasur india corn’ (corn classic).  ‘Rhamant am Facedonia’ yw isdeitl nofelét Cynan, Ffarwel Weledig.  Sgubodd fi oddi ar fy nhraed pan ddarllenais hi mewn oedran tyner, ac ni chyll byth ei lle.  Ar uchafbwynt y stori ailadroddir y llinellau

O ! bydd glaswellt dros ein llwybrau i gyd
Cyn delom i Gymru’n ôl

(a gyfaddaswyd yn effeithiol hefyd gan Cynan ar gyfer un o’i delynegion ei hun).  Yr oedd rhywbeth yn doddedig ynghylch y ‘delom’ yna, a chafodd afael fawr arnaf.  Gwyddwn ei fod yn wahanol i ‘deuwn’, er y bu’n flynyddoedd wedyn cyn imi ddysgu ei enw gramadegol.

I gloi’r adran hon, soniaf am un llyfr ffeithiol – neu hanner-ffeithiol – ac iddo’i apêl at blant o bob oed.  Y Tylwyth Teg gan Hugh Evans yw hwn, casgliad o chwedlau gwlad, o’i ardal ei hun (‘Cwm Eithin’) yn bennaf, gyda’r amrywiadau cyfarwydd, – dawnsfeydd y Tylwyth, eu cymwynasau a’u castiau,  ymweliadau ‘meidrolion’ â’u gwlad, a rhai priodasau cymysg. Wrth agor a chloi mae’r awdur yn gwrogi i’r anthropolegwyr a’u damcaniaethau am yr hen goelion, ond yn adrodd y straeon i gyd yn sobr-gellweirus heb arwydd o ildio’i gred yn y bobl fach.  Clasur eto, a ddylai fod mewn print yn barhaus, gyda’r lluniau hardd gwreiddiol, yn cyfleu byd heb fod cweit yn real, ond a allai fodoli er hynny.

Gwyn ein byd ni blant canol yr hen ganrif, a gafodd y fath fwynhad ac ysbrydiaeth o’r arlwy hon. Dylai’r llyfrau i gyd fod ar gael yn barhaol, efallai fel e-lyfrau yn niffyg dim arall.  A gobeithio fod plant y dyddiau hyn yn cael yr un pleser o’r pethau sydd ar gynnig bellach.

II.    CLASURON  GWLAD

Dan y pennawd hwn, soniaf am ddau is-ddosbarth.

1.        Rhai nofelau o’r ugeinfed ganrif

Nid oes angen i mi ddweud dim am Gŵr Pen y Bryn (carreg filltir o hyd), nac am lyfrau Kate Roberts, T. Rowland Hughes ac Islwyn Ffowc Elis; ac rwy’n siŵr y bydd stori Caradog Prichard wedi derbyn geirda lawer.  Daeth dwy nofel Elena Puw Morgan, Y Graith a’r Wisg Sidan yn ôl i beth sylw haeddiannol drwy eu troi’n gyfresi teledu: dwy stori gref, gyferbyniol am ddau fath o obsesiwn neu ysfa, yr ysfa i ormesu yn y naill a’r ysfa i wasanaethu yn y llall.  Heb wneud gormod o’r gair ‘clasur’, soniaf yn fyr am nofelau pedwar awdur arall y byddai’n gam eu hanghofio.

Tyfodd Moelona yn gyson mewn medr ac amcan, a’i stori fwyaf uchelgeisiol yw Ffynnonloyw (? 1939).  Ys gwn-i a fwriadwyd unwaith iddi fynd i’r gystadleuaeth ‘nofel dair cenhedlaeth’ yn Eisteddfod Castell Nedd, 1934, lle daeth Traed mewn Cyffion a Creigiau Milgwyn yn gydradd orau?  Ei thema yw chwalfa a dadfeiliad teulu amaethyddol o gefndir tebyg i eiddo’r awdures, wrth i blant un genhedlaeth droi’n Saeson y naill ar ôl y llall, cyn achub un aelod fel pentewyn o’r tân.  Gyda mwy o drwch, rhyw gan tudalen arall dyweder, gallasai Ffynnonloyw fod yn nofel sylweddol a phwysig. Mae’n haeddu ei chofio a’i darllen eto.

Yr oeddwn yn dal i ddarllen Wil Cwac Cwac, cofiwch, pan gefais Y Bryniau Pell (Jane Ann Jones) i’m dwylo yn ystod haf 1949.  Cefais y teimlad  bryd hynny fod ‘rhywbeth ynddi’, rhywbeth gwir am fywyd, ac mi hoffais ei chywair tawel, trist.  Nofel arall a allasai fod yn helaethach, ond gwnaeth ei phwynt o fewn ei chwmpas cryno.

Llais newydd oedd Dyddgu Owen pan gyhoeddodd ei nofel gyntaf, Cri’r Gwylanod, at Nadolig 1953 (yr un Nadolig â Cysgod y Cryman). Efallai mai fy meddwl i sydd wedi pylu, ond cyfaddefaf yn awr yr hyn na fynnwn ei gyfaddef yn ddeuddeg oed, sef nad wyf yn gallu dilyn holl droadau rhan olaf y stori am genhadaeth gudd yng nghanolbarth Ewrop.  Ond wrth ailddarllen gallaf adnabod yr hyn a’m daliodd ac a’m cyfareddodd bryd hynny, yr agwedd soffistigedig, gosmopolitan, a’r cyfarfyddiad cyntaf mewn nofel â chenedlaetholdeb Cymreig modern.

Mae rhywbeth caled a thrist, ac eto rhyw realiti diosgoi, yn nwy nofel gref  W. Leslie Richards, Yr EtifeddionLlanw a Thrai.  Yn y gyntaf mae hanes erlid un gangen o deulu yn anfaddeugar dros flynyddoedd gan gangen arall, ac yn yr ail ceir gwahanu cariadon gan rawd ddidrugaredd amgylchiadau.   Nofelau i’w parchu yn wir.

Yn yr holl lyfrau yr wyf wedi eu henwi nid oes dim lol, dim trio bod yn glyfar.  Ac i’r genhedlaeth honno o awduron yr oedd yn bosib darlunio bywyd Cymru heb gofnodi llawer o fratiaith.  (Cofiwch, yr wyf wedi talu teyrnged cyn hyn i awduron heddiw sy’n ymgodymu â’r rheidrwydd o gofnodi bratiaith, ac yn ei wneud yn gywir.)

2.    Clasuron hanesyddol

Ffaith a’m hwynebai bob dydd pan oeddwn yn dysgu oedd fod y testunau pwysig o’r cyfnod modern bron i gyd allan o brint.  Bustachu ymlaen o flwyddyn i flwyddyn fu’r hanes: gosod llyfrau ar rota, llun-gopïo darnau, gofyn i’r myfyrwyr geisio rhannu, rhoi benthyg copïau personol, cribinio siopau ail-law, gollwng testunau pwysig o’r cyrsiau am nad oeddent ar gael.  Un canlyniad yng ngwaith myfyrwyr fu’r ailgylchu didrugaredd ar Blodeuwedd ac Un Nos Ola Leuad.

Cwrdd, i ryw fesur, â’r diffyg hwn oedd ein hamcan wrth sefydlu Dalen Newydd Cyf.  Hyd yma mae’r cwmni wedi canolbwyntio’n bennaf ar ailolygu ac ailgyflwyno testunau o’r gorffennol, y rhan  fwyaf am eu bod yn destunau pwysig ac y dylent fod o ddefnydd ac o ddiddordeb i efrydwyr llenyddiaeth; ac ambell un am ei fod yn ddifyr i’r golygydd.  Mae dwy gyfres bellach wedi cychwyn:  (a)   Cyfrolau Cenedl, y gobeithiwn ei gweld yn tyfu’n fath o Everyman’s Library neu Penguin Classics Cymraeg.  Bu’r Library of Wales Saesneg yn esiampl hefyd.  (b) Yr Hen Lyfrau Bach, cyfres o weithiau byrion neu ddetholion, nid annhebyg i Gyfres y Fil.

Cyn lansio ‘Cyfrolau Cenedl’ buom yn ystyried yr enw ‘Clasuron y Cymro’.  Dyma benderfynu yn y diwedd nad oes raid profi fod pob teitl yn glasur er mwyn ei gynnwys, a chymerwyd sylw o gyngor R.T. Jenkins fod gwahaniaeth rhwng clasur a chrair.  Dyma’r deg teitl cyntaf:

Canu Twm o’r Nant
Twm o’r Nant: Dwy Anterliwt
William Williams: Prydnawngwaith y Cymry
Emrys ap Iwan: Breuddwyd Pabydd
Beirniadaeth John Morris-Jones
Rhywbeth yn Trwblo
Dramâu W.J. Gruffydd
W.J. Gruffydd:  Eira Llynedd ac Ysgrifau Eraill
Llythyrau Goronwy Owen
Daniel Owen: Y Dreflan

Caiff y darllenwyr benderfynu pa rai o’r rhain sy’n glasuron a pha rai sy’n greiriau. Beth am Prydnawngwaith y Cymry ?  Nid oedd fawr neb wedi ei weld oddi ar ei argraffiad cyntaf, 1820.  Fi a benderfynodd mai da i bobl ei weld.  Beth, yn wir, am Y Dreflan ?  Os bu allan o brint ers dros gan mlynedd, ai clasur ydyw?  Wel, dyma gyfle i genhedlaeth newydd roi ei barn.  Fy nheimlad i yw na siomir mohoni.  Mae cyfrolau eraill wedi eu cysodi ac yn disgwyl eu twrn:

Llywelyn Fawr a Lladd wrth yr Allor, dau gampwaith drama gan Thomas Parry. [Wedi ymddangos erbyn hyn, Tachwedd 2015.]

Taith y Pererin.

Dafydd Dafis, ‘nofel’ ddychanol Beriah Gwynfe Evans.

N’ad fi’n Ango, detholiad newydd o delynegion dechrau’r ugeinfed ganrif.

Disgwyliwch hefyd:

Dwy Ddrama gan Kate Roberts.  Cofiwn mai fel dramodydd y dechreuodd K.R. ar ei gyrfa lenyddol.

Gildas : Coll Prydain.   Ein llyfr hanes cyntaf, yr erys ei ddylanwad hyd y dydd hwn, er gwell neu er gwaeth.  Golygiad newydd ysgolheigaidd gyda’r testunau Cymraeg a Lladin gyfarwyneb.  Wedi eu harchebu hefyd, neu dan drafodaeth, mae pedair cyfrol arall i wneud teulu o destunau hanes hanfodol:  Hanes y Brytaniaid (Nennius); Brut y Brenhinedd (Sieffre o Fynwy); Brut y Tywysogion ; Llythyrau Tywysogion Cymru.   Ystyriwch mewn difrif, mae Brut Sieffre ar gael yn rhwydd yng nghyfieithiad Saesneg Penguin Classics, ond ni bu erioed ar gael mewn diweddariad Cymraeg.

Llawer rhagor i ddilyn … os byw ac iach.  A byddwch barod am ambell syndod.

Y llynedd cyhoeddwyd y pedwar cyntaf o’r Hen Lyfrau Bach, gyda’r pedwar i’w cael mewn pecyn am bris manteisiol:

Y Bardd Cocos
Daniel Owen:  Dewis Blaenoriaid
Eben Fardd
Cerddi’r Bardd Cwsg.

Y pedwarawd nesaf fydd:

Lloyd George
Omar Kahyyâm
Twm o’r Nant yn Cofio
Cerddi Goronwy Owen.

[Wedi ymddangos erbyn hyn.]  Ac mae rhesaid arall yn disgwyl ei thro.

Ymateb?   Cafwyd rhai adolygiadau ystyriol yn Y Traethodydd a Llên Cymru, a bu adolygydd rheolaidd Y Cymro yn gyson gefnogol.  Daw geirda gan gyfeillion, sy’n hwb i ddyfalbarhau.  Gwerthiant?  Deallaf nad yw’n arferiad gan gyhoeddwyr grybwyll ffigurau, ond waeth gen i hynny mwy na pheidio. Argreffir 230 yr un o Gyfrolau Cenedl. Rhyw lafurus ddringo at y 200 yw hanes pob un hyd yma, gyda’r hyn y gallwn ei werthu o law i law ac mewn ambell ffair lyfrau yn gymorth ym mhen gwerthiant y siopau.   Fe ddylai cyfrolau fel y rhain fod yn gwerthu miloedd, ond tybed nad yw’r ‘Genedl’ yn y teitl bellach wedi pasio rhyw bwynt ar ei ffordd i ebargofiant?  Meddyliwch am  Twm o’r Nant, a’i becyn ar ei gefn, yn gwerthu 2,000 o’i gasgliad Gardd o Gerddi  (Llyfr y Flwyddyn, 1790, wrth gwrs).  Efallai na ddylwn fod wedi clywed, ond mi glywais, fod Llyfrgell Sir Wrecsam wedi archebu UN copi o Canu Twm o’r Nant!  Ardderchog yntê !

Wedi troi’r rhif o 10, efallai ei bod yn bryd inni ailfeddwl yn sylfaenol am y prosesau gwerthu.  Onid gwell gwerthu’r cyfan drwy danysgrifiad?  Neu a fyddai rhesel i arddangos 12 cyfrol a’u hwynebau at allan, fel sydd gan Library of Wales, yn gymorth?  A fyddai gan y siopau le i beth fel hyn?

Da yw darllen, yn y ddogfen gan Gymdeithas Prif Lyfrgellwyr Cymru, ddatganiad ar ran y Cyngor Llyfrau: ‘Mae hi bob amser yn bwysig i ni hefyd gofio am y clasuron sy’n cael eu darllen a’u mwynhau gan do ar ôl to o ddarllenwyr. Braf felly yw cael cefnogi’r ymgyrch hon gan awdurdodau llyfrgell ledled Cymru.’  Profiad Dalen Newydd hyd yma yw fod y Cyngor yn weddol gefnogol i gyhoeddi’r clasuron, ond ddim yn ofnadwy o gefnogol.  Cyhoeddasom y pedwar Hen Lyfr Bach cyntaf heb grant am nad oedd y Cyngor (neu’r Panel Grantiau) yn gweld ei ffordd yn glir i gefnogi cyfres newydd y llynedd.  Rydym i gael mil o bunnau at yr ail bedwarawd, llai na’r angen, ond dyna ni.  Ac o ran Cyfrolau Cenedl, gwnaed rheol gan y Cyngor neu’r Panel nad oes mwy na dwy gyfrol yn y gyfres i dderbyn cefnogaeth mewn blwyddyn.  Dyna pam y bu inni gyhoeddi Breuddwyd Pabydd  heb grant yn 2011.  Bwriwch yn awr, un ai (i) fod cyhoeddwr arall wedi cyhoeddi Breuddwyd Pabydd yn ystod yr un flwyddyn, neu (ii) ein bod ni wedi cyhoeddi Breuddwyd Pabydd ond ar wahân i gyfres ‘Cyfrolau Cenedl’.  Rwy’n cymryd y byddai wedi derbyn grant y ddau dro.  Dyma reol fiwrocrataidd ddienaid, ddisynnwyr, y byddwn yn gofyn yn fuan i’r Cyngor ailfeddwl amdani.  Ond efallai mai hen awduron sâl oedd Goronwy Owen, Twm o’r Nant, John Morris-Jones, Daniel Owen, Emrys ap Iwan, W.J. Gruffydd, ac na ddylid gollwng gormod ohonynt yr un pryd ar y cyhoedd Cymreig.

Gyda nifer o olygyddion cymwys wedi derbyn gwahoddiadau, rhagwelwn mai cyflymu a wna’r cyflenwad o Gyfrolau Cenedl.  Gall y Cyngor Llyfrau ystyried y ddau ddewis, un ai (i) dal ar y cyfle tra byddaf i ar dir y byw ac yn fy mhethau yn o lew, neu (ii) disgwyl nes byddaf i wedi marw.  Diau y bydd gan y Cyngor  resymau da dros ei benderfyniad, beth bynnag a fydd.

Yn yr ATODIAD* mae rhestr a luniais ugain mlynedd yn ôl, o bethau y teimlwn i eu hangen pan oeddwn yn dysgu.  Mae rhai ohonynt wedi eu hailargraffu erbyn hyn.  Am y lleill, efallai fod eu cyhoeddwyr yn amau na fyddent yn gwerthu o gwbl.  Efallai fod y genhedlaeth brynu llyfrau yn darfod; does ganddi ddim lle i fwy o lyfrau, mae’r cyfrolau hyn ganddi prun bynnag, ac ni fydd ei phlant yn gwybod beth i’w wneud â hwy.  A’r siopau llyfrau’n cau yn ein trefi prifysgol, efallai fod y cyfan ar ben.

Dafydd Glyn Jones                                24.5.15

* Hepgorir yma.

§

Dyna ni felly, gyd-ymgeiswyr. Ffarwel i’r pryd o fwyd mewn gwesty moethus. Diolch am yr hen dun ffa pôb yntê.

Gadael Ymateb

Rhowch eich manylion isod neu cliciwch ar eicon i fewngofnodi:

WordPress.com Logo

You are commenting using your WordPress.com account. Log Out / Newid )

Twitter picture

You are commenting using your Twitter account. Log Out / Newid )

Facebook photo

You are commenting using your Facebook account. Log Out / Newid )

Google+ photo

You are commenting using your Google+ account. Log Out / Newid )

Connecting to %s

%d bloggers like this: