Ambell bwynt bach, cwbl ddieffaith mi wn cyn eu sgrifennu, am y drafodaeth a’r bleidlais ddoe yn Nhŷ’r Cyffredin. Waeth imi heb ag ailadrodd na dyfynnu dim o’r llithoedd llawer grymusach a geir ar flogiau Craig Murray, Wings Over Scotland, Munguin’s Republic a Wee Ginger Dug; gobeithio fod fy narllenwyr yn pori’n rheolaidd yn y rhain. A darllenwch yr YMATEBION, e.e. i Wings y bore ’ma. Dyna’i dweud-hi.
1. Dyma’r Adain Dde wedi cael arwr newydd yn Hilary Benn, ei harwr mwyaf oddi ar Hugh Gaitskell. Mae’r ymateb llesmeiriol i’w araith neithiwr yn atgoffa dyn o’r ymateb i araith Lloyd George fis Medi 1914 o blaid y Rhyfel Byd Cyntaf; rwyf wedi dyfynnu’n o helaeth ohoni yn rhifyn cyfredol Y Casglwr, a gweler hefyd Hen Lyfr Bach Lloyd George.
2. Yn 1914 yr oedd y tyrfaoedd tu allan i Balas Westminster, fel ar sawl achlysur arall, yn gweiddi am ryfel. Fel arall yr oedd hi neithiwr, a dyna un newid sydd wedi digwydd. Wrth gwrs nid tyrfa werinol oedd hon ond tyrfa ddosbarth canol gyda rhai gwerthoedd radicalaidd; fe ddywed rhai mae’n siŵr fod elfen o ‘rent-a-crowd’ ynddi. Ond tae waeth …
3. Fe glywn ddweud mai ‘Pobl Blair’ (Blairites) yw’r rheini o’r Llafurwyr a fotiodd gyda’r Ceidwadwyr neithiwr. Gadewch inni gofio nad gyda Blair y daeth agweddau adain-dde, yn cynnwys imperialaeth a rhyfelgarwch, i mewn i’r Blaid Lafur. Mae’r rheini yn rhan o’i hanes o’r diwrnod y trowyd yn erbyn Keir Hardie yn 1914. Bu ynddi elfen radicalaidd yn gyfochrog, ond dau beth nad ydynt erioed wedi cydorwedd yn gyfforddus yw Llafur ac Egwyddor. Bu ethol Corbyn yn gyfle i roi praw ar hynny eto. Cawn weld …
4. Fe ddywed rhai y bore ’ma y dylai Corbyn fod wedi rhoi’r chwip ar ei blaid, a’i fod wedi dangos gwendid drwy beidio. Efallai wir. Ond yn yr hinsawdd a grewyd gan y cyfryngau fe wnaeth yn dda i gadw mwyafrif ei blaid seneddol a mwyafrif cabinet yr wrthblaid o’i du. Nid yw hynny’n newid y ffaith mai un wir wrthblaid sydd yn San Steffan y dyddiau hyn, sef yr SNP. Argyfwng Prydeindod yw cyd-destun hyn i gyd. Rwsia, America, Ffrainc, Twrci i gyd wrthi’n bomio’n braf yn Syria, a BRITISH BOMBERS ddim yno? Prydain yn sefyll o’r naill du? Hollol annerbyniol. Byddai Lloegr i’w gweld yn wan, fe ddôi ymadawiad yr Alban gam yn nes, a hynny’n golygu cam yn nes at ddiwedd y gêm fawr fel y bu oddi ar y diwrnod hwnnw yn 1066.
5. Y funud hon ni wn pa ffordd y pleidleisiodd Aelodau Seneddol Cymru. Gallwn gymryd fod tri aelod Plaid Cymru gyda’r SNP, a gofidio yr un pryd na byddai llais Cymru’n llawer, llawer cryfach. O na bai yma fudiad gwleidyddol cenedlaethol y gellid ymddiried ynddo ar bob lefel. Ac o na bai yma wasg.
O.N. Erbyn hyn (2.30) mae gan GOLWG 360 restr o sut y pleidleisiodd AS’au Cymru. Diddorol. Ambell syndod. Peth arall yn fy nharo, mor ddi-sôn-amdanyn yw’r rhan fwyaf o’r rhain, fel petai’r Cynulliad bellach weddi dod rhyngom a nhw.
Gadael Ymateb