Hanner Canrif o Lol

6 Rha

Difyr yw bodio drwy Lyfr Mawr Lol.   Gofynnaf, fel eraill, ble’r aeth y blynyddoedd oddi ar Jiwbilol chwarter canrif yn ôl, ac yn wir ble’r aeth yr hanner canrif oddi ar sefydlu’r hen recsyn anhepgorol ym 1965.  Teimlaf ryw fath o gyfrifoldeb am gychwyn Lol, gan mai un o gymhellion ei lansio oedd adwaith yn erbyn y cylchgrawn rag Bronco a olygid gen i.  Roedd dau wahaniaeth rhwng y ddau gyhoeddiad,  sef fod Bronco (a) yn osgoi rhyw, pyrcs a rhegfeydd, a (b) yn ymatal rhag taro mor galed ag y gellid yn erbyn rhai targedau gwleidyddol.  Vive la différence, a braint fu cael cyfrannu ambell bwt i Lol o dro i dro.

Wrth droi’r dalennau daw llu o wynebau ac enwau yn ôl yn fyw iawn o’r gorffennol;   ceir ambell un arall y bu’n rhaid clirio ychydig ar y niwl cyn cofio pwy oedd a beth oedd ei bechod. Yn wir, mewn amryw o achosion nid yw’r pechod yn fwy na hunanbwysigrwydd diniwed.

Tri chwestiwn yn codi yn y meddwl wrth fynd dros rai o’r sgandalau, hen a nes atom.

1.    Y cwestiwn ‘beth yw’r Sefydliad?’   Papur y Sefydliad Dychanol fu, ac yw, Lol, fel Private Eye yn Lloegr.  Yng Nghymru, hwnnw yw’r Sefydliad Cenedlaetholaidd hefyd, gyda’i jôcs, ei ragdybiadau a’i ragfarnau yn rhai dealladwy yn unig i genedlaetholwyr.  ‘Papur y Gwrth-sefydliad’ meddem efallai, ond rhannol wir yw hynny, oherwydd yng Nghymru mae’r Sefydliad Prydeingar a’r Sefydliad Cenedlaetholaidd yn gorgyffwrdd ac yn cyd-ymwau, gyda drysau troi-rownd yn arwain yn hwylus o un i’r llall.

2.     Beth yw gwerth dychan?  Yn ddiweddar bu farw Warren Mitchell neu Alf Garnett, ac adroddwyd droeon brofiad yr actor o gael ei gyfarch ar y stryd â rhyw sylwadau fel ‘rwyt ti yn llygad dy le Alf’, ‘mi ddwedaist yn iawn neithiwr Alf’.  Do, yn sicr, yn ystod y blynyddoedd yr oedd rhagfarnau Alf yn destun dychan wythnosol fe aeth y gwerinwr o Sais, a digon o Gymry hefyd mae’n siŵr, nid yn llai tebyg iddo ond yn debycach iddo.  Pa rai o gocynnau hitio Lol a ddiwygiodd eu buchedd ar ôl ymddangos yn y cylchgrawn?  Tebyg mai dim un. Faint o rai eraill a gadwodd at y llwybr cul rhag ofn i Lol eu dal?  Dyfalaf mai dim un, os oedd gwell gwobrau o gymryd y ffordd lydan.

Na, nid yw dychan ynddo’i hun yn mynd i ddiwygio unigolyn na chymdeithas.  Eto mae gwerth amhrisiadwy iddo.  Ei swyddogaeth yw dangos na allwch chi ddim twyllo PAWB, DRWY’R AMSER, er y gallwch, chwedl Abraham Lincoln, dwyllo pawb weithiau, a rhai drwy’r amser.

3.     Pa ffordd yr ydym yn mynd?  Gan gychwyn ym 1965 yr oedd Lol yn rhan o ddeffroad gwleidyddol-ddiwylliannol ail hanner y 1960au, deffroad a barhaodd drwy’r rhan helaethaf o’r 1970au wedyn, cyn cael ei fwrw’n galed yn y flwyddyn ’79.  Ym 1965 hefyd, blwyddyn geni Lol, daeth Prydeindod J.R.Jones i ddiffinio’r broblem a hoelio’r gelyn mewn ffordd nas gwnaed o’r blaen, gan gynnig dadansoddiad a llwybr newydd a groesawyd gan garfan o genedlaetholwyr tra rhwystredig.  Y flwyddyn wedyn chwalwyd y rhwystredigaeth ymhellach mewn modd gorfoleddus gan genedlaetholdeb mwy confensiynol, sef ym muddugoliaeth Gwynfor Evans. Bu cynnydd amlwg mewn addysg ysgol Gymraeg.  Bu ymgyrchu ar sawl ffrynt.  Cychwynnwyd mentrau economaidd fel Adfer, Cymdeithas Tai Gwynedd, Antur Aelhaearn ac anturiau bro eraill.  Daeth y papurau bro, y mwyaf gwydn o’r cyflawniadau.  Rhan o’r ymysgwyd hwn fu Lol, gyda Thafod y Ddraig hefyd yn gydymaith iddo mewn rhai agweddau.

Mi af ymhellach. I’r rhai ohonom a ddymunai weld newid yng Nghymru, newid a fyddai’n cryfhau ein hunaniaeth a’n hunan-barch, cyfnod rhwystredig iawn oedd hanner cyntaf y 1960au. Eto yr oedd gobaith yr adeg honno. Disgwyl y Wyrth oedd rhan o’r gobaith, yn arbennig y Wyrth wleidyddol, petai Plaid Cymru ond yn ennill un sedd yn rhywle …  Rhan arall o’r gobaith oedd ffydd mewn rhai mesurau gwleidyddol, diwylliannol ac addysgol; dim ond inni wneud hyn, hyn a hyn, ac yna hyn, a hyn wedyn gyda lwc, fe ddôi  hi, fe geid atebion, fe fyddai pethau’n gwella.

A dyfynnu’r gân, ‘Ple mae’r goleuni’n awr?’  Ple mae’r gobaith heddiw?  Os dywedaf i mai i lawr, i lawr ac i lawr mae pethau wedi mynd yng Nghymru dros y 35 mlynedd diwethaf, faint o’r darllenwyr fyddai’n cytuno?  Ni rof enghreifftiau. Meddyliwch chi.

Er gwaethaf popeth rhaid inni ddal i gredu y bydd Lol yma i ddathlu ei ganmlwyddiant yn 2065.  Gallwn fod yn gwbl hyderus y bydd defnydd i’w lenwi.

Advertisements

Gadael Ymateb

Rhowch eich manylion isod neu cliciwch ar eicon i fewngofnodi:

WordPress.com Logo

You are commenting using your WordPress.com account. Log Out / Newid )

Twitter picture

You are commenting using your Twitter account. Log Out / Newid )

Facebook photo

You are commenting using your Facebook account. Log Out / Newid )

Google+ photo

You are commenting using your Google+ account. Log Out / Newid )

Connecting to %s

%d bloggers like this: