Taro’r gwaelod gwleidyddol

15 Rha

Fwy nag unwaith mae’r hen flog hwn wedi cefnogi Leanne.  Yn sicr mae ganddi gryfderau nad ydynt gan yr un arall o Aelodau Cynulliad Plaid Cymru, ac ar fwy nag un achlysur mae ei harweiniad wedi pwyso yn y glorian yn erbyn gwiriondeb a gwaradwydd arweinwyr y Blaid yng Ngwynedd y dyddiau hyn.  Ond wir-ionedd innau ac yn enw pob rheswm, diwrnod o wyliau cenedlaethol er mwyn i bawb wylio gornest bêl-droed fis Mehefin nesaf?  Dyma daro’r gwaelod gwleidyddol, choelia’ i byth.  Ar wahân i bopeth arall, beth fydd gwerth hyn mewn pleidleisiau?  Proffwydaf mai DIM. Gwelaf mai tueddu i gymryd y peth yn ysgafn y mae ymatebwyr GOLWG 360 heddiw, ac efallai mai dyna’r agwedd iawn.  Ond wrth inni feddwl am gyflwr echrydus gwleidyddiaeth Cymru a’r holl bethau sy’n galw am arweiniad eglur a diamwys, mae gwedd ddifrif hefyd i’r gwamalrwydd hwn. Plaid sy’n treulio’i hamser a’i hadnoddau yn trefnu deiseb ar fater mor chwerthinllyd, plaid yw honno sy’n cadarnhau wrth y byd yr hyn y bu llawer o’i chefnogwyr yn ei amau ers blynyddoedd, sef ei bod hi wedi colli’r cyfeiriad yn llwyr.

Pob cenedlaetholwr y siaradaf ag ef y dyddiau hyn, siom, anghrediniaeth a dicter a glywaf ganddo.  Wedi pymtheng mlynedd o ddatganoli efallai ei bod yn bryd i genedlaetholwyr ddod at ei gilydd a gofyn beth, heddiw, ddylai fod yn nod, diben a pholisi mudiad cenedlaethol gwleidyddol a chyfansoddiadol yng Nghymru.

Advertisements

3 Ymateb to “Taro’r gwaelod gwleidyddol”

  1. R Tyler Rhagfyr 16, 2015 at 12:29 pm #

    Cytuno cant y cant

  2. Alun Lenny Rhagfyr 30, 2015 at 10:13 am #

    Ofnaf fy mod yn anghytuno’n llwyr â’r sylwadau “Ba, hymbygaidd” hyn! Nid yw Cymru wedi cyrraedd ffeinals peldroed ers 1958. A byddwn yn chwarae Lloegr… Dyma achlysur unigryw. Bydd yna sylw rhyfeddol yn y wasg a’r cyfryngau ar draws Ewrop cyn y gêm, a sylw iddi’n fyd-eang, yn wir. Mae peldroed yn rhywbeth pwerus dros ben. Yn anffodus, mae’r gêm am 2.00 ar bnawn Iau. Dylai Cymry sy’n gweithio gael cyfle i weld y gêm yn fyw. Ni ddaeth cyfle tebyg yn fy oes i hyd yn hyn (dim ond pedair oed oeddwn yn 1958) ac efallai na ddaw cyfle tebyg fyth eto. Mae hyn yn ymwneud â llawer mwy na pheldroed. Mae’n ymwneud â balchder a hyder yn ein cenedl. Awgrym sinigaidd iawn yw’r un fod y Blaid yn pwyso am hyn er mwyn ennill pleidleisiau. C’mon!

    • Cadi Twll Clo Rhagfyr 31, 2015 at 11:39 am #

      Ai tynnu coes rydych chi, Alun Lenny?

Gadael Ymateb

Rhowch eich manylion isod neu cliciwch ar eicon i fewngofnodi:

WordPress.com Logo

You are commenting using your WordPress.com account. Log Out / Newid )

Twitter picture

You are commenting using your Twitter account. Log Out / Newid )

Facebook photo

You are commenting using your Facebook account. Log Out / Newid )

Google+ photo

You are commenting using your Google+ account. Log Out / Newid )

Connecting to %s

%d bloggers like this: