Rhaid ichi ei rhoi hi …

29 Ion

Wele ddarn o daflen sydd newydd ddod trwy’r drws yma.  Mae isetholiad ym ‘Mangor Uchel’ am sedd ar Gyngor Dinas Bangor.

taflen lib dem

Rhaid ichi ei rhoi hi i’r Democratiaid Rhyddfrydol.  Pa blaid arall allai gynhyrchu taflen a neges fel hyn ?

Mae gwahanol ystyron i ‘ei rhoi hi’, wrth gwrs.  Ar y naill law gall ‘ei rhoi hi i rywun’ olygu ymosod arno, ei geryddu.  ‘Mi rhois hi iddo fo ’dat y gwaltas’, medd hen ymadrodd da.  Ar y llaw arall gall olygu ildio pwynt i rywun, derbyn fod ganddo rywbeth, neu ar y gorau rhoi rhyw fath o bardwn iddo.  Fel un o ‘bob l Bangor Uchel’ prysuraf i ddweud mai’r ail ystyr a olygaf heddiw.

A yw ‘ei rhoi hi’ yn golygu rhoi fy mhleidlais ?  A dyfynnu meddyliwr llawer mwy na mi, ‘dydw i’n deud dim byd’.   Ond – a dyfynnu’r un gŵr ymhellach – ‘y ’mhwynt i a ’mhwynt mawr i ydi hwn’ :

Beth bynnag ddywedwch chi am y Democratiaid Rhyddfrydol, nid y nhw fu’n gyfrifol am y pethau hollol wallgo a’r pethau hollol anfad yng ngwleidyddiaeth Gwynedd y blynyddoedd ddiwethaf :

●     NID Y DEMOCRATIAID RHYDDFRYDOL fu wrthi’n ymosod ar fröydd drwy gau ysgolion heb angen na rheswm, dim ond i blesio Gweinidogion Addysg Llafur yng Nghaerdydd.

●     NID Y DEMOCRATIAID RHYDDFRYDOL a gafodd y weledigaeth wallgo o ailgyflwyno addysg enwadol mewn ardal o Wynedd heb unrhyw ddewis i’r rhieni.

●     NID Y DEMOCRATIAID RHYDDFRYDOL sydd wedi creu trefn gabinet haearnaidd o anystwyth o fewn y Cyngor, gan beri na ellir cael trafodaeth agored na barn y Cyngor cyfan ar unrhyw fater o bwys, a pheri mai gwastraff amser yw i’r rhan fwyaf o’r cynghorwyr fod arno o gwbl.

Ydi, mae gwleidyddiaeth Gwynedd a Chymru mewn tipyn o lanast y dyddiau hyn, a phan ddaw’n adeg ‘ei rhoi hi’, sef y tro hwn rhoi  ✘ ar y papur yna, bydd yn adeg o gyfyng-gyngor gwirioneddol i rai ohonom sydd wedi arfer ‘ei rhoi hi’ yn bur ddibetrus dros yr hanner canrif ddiwethaf.

Un Ymateb to “Rhaid ichi ei rhoi hi …”

  1. Geraint Jones alias Oswald Smart Ebrill 16, 2016 at 6:07 pm #

    Rhaid cofio fod cynghorydd June Marshall, cynghorydd y Dem. Rhydd. O Fangor wedi pleidleisio o blaid codi 366 o dai diangen (heblaw angen Saeson) gan Gwmni Adeiladu Morbaine ar dir Pen-y-ffridd ym Mhenrhosgarnedd. Hyn lai na phythefnos yn ol ac yn groes I fwyafrif aelodau Pwyllgor Cynllunio Gwynedd. Ai cynrychioli pob l Bangor Uchel mae ein gwladgarol Jiwno? “Daw hyfryd ddydd Mehefin cyn bo hir, a chlywir y gwcw …”

Gadael Ymateb

Rhowch eich manylion isod neu cliciwch ar eicon i fewngofnodi:

WordPress.com Logo

You are commenting using your WordPress.com account. Log Out / Newid )

Twitter picture

You are commenting using your Twitter account. Log Out / Newid )

Facebook photo

You are commenting using your Facebook account. Log Out / Newid )

Google+ photo

You are commenting using your Google+ account. Log Out / Newid )

Connecting to %s

%d bloggers like this: