Fe enillodd Dyfed a Dewi Emrys bedair cadair genedlaethol yr un, a Phedrog dair. Cafodd Cadfan, Crwys, Caradog Prichard a Chynan bob un dair coron. Yna fe benderfynodd yr Eisteddfod mai digon oedd digon, gan gymryd efallai gyngor R. Williams Parry y dylai’r bardd, yn wahanol i’r Cristion, ‘fynd oddi wrth ei wobr at ei waith’. Gosodwyd terfyn o ddwy gadair, dwy goron a dwy fedal ryddiaith. Yr oedd yn bosibl o hyd gael y ‘dwbl dwbl’ (ac mewn egwyddor y ‘trebl dwbl’), ynghyd â phob cyfiawn glod am hynny. Rhoed terfyn o ddwy fuddugoliaeth hefyd ar y prif gystadleuthau canu a llefaru unigol (nid ar y bandiau a’r corau).
Bellach mae’r Eisteddfod am ddiddymu’r cyfyngiad, – neu wedi gwneud, os cywir yr adroddiadau. A oes terfyn newydd o deirgwaith, nid wyf wedi deall yn iawn, ond yn sicr mae’r ‘trebl trebl’ yn awr yn bosibl.
Rhaid imi gyfaddef na wyddwn fod hyn ar y gweill nes gweld Y Cymro ddoe. Rhaid fy mod yn cysgu yn rhywle. Fy nheimlad cyntaf oedd bod ‘rheol y ddau dro’ yn iawn a’i bod wedi gwasanaethu’r Eisteddfod yn dda dros ddegawdau. (Nid yw’r ddadl ynghylch corau a bandiau yn gwbl gymwys, oherwydd daw pobl newydd i mewn i’r rheini o hyd.) Gobaith cefnogwyr y newid yw y ceir cryfach a gwell gweithiau yn y prif gystadleuthau drwy adael i lenorion profiadol ddal i dynnu torch yn erbyn ei gilydd. Efallai bod rhywbeth yn hynny, ac efallai mai peth iach i ymgeiswyr iau fyddai gwybod y gallant fod yn y maes yn erbyn hen wariars. Cawn weld pan ddaw’r newid i fod.
A dod a wna, mae’n ymddangos. Dywed adroddiad Y Cymro ei fod yn awr wedi ei gymeradwyo gan Bwyllgor Diwylliannol yr Eisteddfod, y Cyngor a’r Bwrdd Gweithredol. Cymerwn fod yr Orsedd hithau o blaid. Un peth bach sy’n anesmwytho braidd. Onid oes yna gorff yn rhywle o’r enw ‘Y Llys’? Rywsut nid wyf yn tybio y byddai’r Llys yn dewis gwrthwynebu wedi i’r cyrff eraill gyflwyno dadl gref. Ond fel ar achlysuron eraill mae rhywun yn gofyn onid oes llais na swyddogaeth o gwbl bellach i’r corff eang sy’n cynrychioli cefnogwyr yr ŵyl. Mae rhyw duedd wrth-ddemocrataidd ar waith yn rhywle, debyg iawn yn wir i’r duedd sydd wedi gosod polisïau awdurdodau lleol bron yn llwyr yn nwylo aelodau cabinet, fel nad oes fawr o ddiben i weddill yr aelodau, y mwyafrif mawr, fod ar y cynghorau o gwbl.
Gadael Ymateb