Hafod y Cymro

23 Chw

Darllen heddiw fod saith o awdurdodau lleol gorllewin Cymru’n bwriadu ystyried y posibilrwydd o ddyblu trethi ail gartrefi.

Fel perchennog ail gartref yn fy hen ardal byddwn i’n dadlau’n gryf yn erbyn y cam hwnnw, ac yn wir yn gryf o blaid polisi hollol groes.

Mewn cyflwyniad i gyfrol fy niweddar gyfaill Dewi Tomos, Tyddynnod y Chwarelwyr (2004), mi sgrifennais beth fel hyn:

‘Hwyrach fod rhan o’r ateb gan yr hen Gymry. Daliaf fod hawl o hyd gan bob Cymro i hendref a hafod, os yw ei amgylchiadau mewn rhyw fodd yn caniatáu. Gadewch inni beidio â gwamalu:   mae tŷ haf neu ail gartref yn iawn os mai Cymro a’i piau.  Beth amdani, blant alltud ein hardal a aeth yn “drigolion gwaelod gwlad a gwŷr y celfau cain”?   Nid yw’n ateb cyflawn i’r broblem o bell ffordd. Ond mae’n un ffordd fach o “ddal dy dir”.’

I’r rhai ohonom a all gofio deng mlynedd yn ôl gall dyfynnu ‘dal dy dir’ godi hen gwestiwn cas yn y meddwl.  Pam na wnaeth mudiad Cymuned ddim byd o gwbl ohoni?  A thu ôl i hwnnw llecha cwestiwn casach eto: sut na feddiannwyd yr holl dai oedd yn mynd yn wag yn ein hardaloedd gwledig – ie a threfol hefyd – gan gwmni Adfer a’r cymdeithasau tai a sefydlwyd gan genedlaetholwyr y 1960au?  Sut y bu i ni, y dosbarth proffesiynol Cymraeg, fethu mor llwyr lle mae dyn wedi cyrraedd o Fangladesh heb ddwy geiniog i’w crafu yn erbyn ei gilydd yn llwyddo ar ei ganfed ac yn ffynnu?  Yr ateb yn fyr yw fod yn rhaid iddo ef lwyddo. Nid oedd raid i ni. Roedd ein byd yn rhy gysurus. Roedd ef o ddifri.  Ninnau fel dosbarth, – chwarae plant.

Un canlyniad i’r methiannau hyn yw ffaith y gellir ei chrynhoi mewn byr eiriau.  Ystyr ‘problem tai’ mewn rhannau helaeth o Gymru heddiw yw bod gormod o dai, a dim Cymry ar ôl i’w llenwi. Dyma pam nad oes eisiau tai newydd o gwbl ym Môn a Gwynedd.  Myth, bellach, yw fod y Cymry’n methu cael tai ac eraill yn eu prynu. Mae’r Cymry wedi mynd.

Mwyfwy’r cyfrifoldeb felly ar y rhai ohonom sy’n weddill. Gallwn gyfrannu rhywbeth bach – a phwysleisiaf y BACH eto  – drwy feddiannu ail dŷ yn ein hardal, i chwarae tŷ bach, i’w osod, i wneud unrhyw beth a fynnom ag ef, ond inni ei BERCHENOGI.  Mewn byd callach na hwn dylai fod yn bosibl i lywodraeth leol neu lywodraeth gwlad, drwy dipyn o help ariannol, ein galluogi i feddiannu eiddo yn yr ardaloedd lle magwyd ni neu lle mae gennym wreiddiau,  – a’n cyfrifoldeb ni fyddai profi fod hynny’n wir wrth gwrs.  A ddylid estyn y fraint hon i unrhyw ddyn dŵad?   Dylid, i ddyn dŵad o unrhyw fan yn y byd, os yw’n medru Cymraeg.

Byddai rhywbeth fel hyn yn eitem o bolisi gan blaid wleidyddol genedlaethol a honno o ddifrif. Hyd yma nid oes arlliw o unrhyw blaid o’r fath yn unman ar y gorwel.

Advertisements

Un Ymateb to “Hafod y Cymro”

  1. Jina Chwefror 23, 2016 at 11:58 pm #

    O’r diwedd! Mae’r hen Lyn Adda annwyl yn mentro i draethu ar Y pwnc pwysicaf i ddyfodol ein hiaith: tai.
    Tasai bob Cymro Cymraeg sy’n gallu yn mynd ati i brynu ail gartref (neu gwell fyth, rhes o dai!) y byddai gennym ryw obaith i gadw ein gwlad.
    Yn lle hynny mae pawb yn cuddio eu pennau yn y tywod wrth i’r swnami o ‘Cynllun Adnau’ gynyddu nerth. Beth am i Lyn Adda ymuno gyda’r ychydig sydd yn ceisio deffro Seithennyn ein Cymru?

Gadael Ymateb

Rhowch eich manylion isod neu cliciwch ar eicon i fewngofnodi:

WordPress.com Logo

You are commenting using your WordPress.com account. Log Out / Newid )

Twitter picture

You are commenting using your Twitter account. Log Out / Newid )

Facebook photo

You are commenting using your Facebook account. Log Out / Newid )

Google+ photo

You are commenting using your Google+ account. Log Out / Newid )

Connecting to %s

%d bloggers like this: