Dwy ddamcaniaeth cynllwyn

27 Chw

Daeth y ddogfen hon i law.

§

Pwyllgor Ymgyrch Tai a Chynllunio Gwynedd a Môn
(Cylch yr Iaith, Dyfodol i’r Iaith, Canolfan Hanes Uwchgwyrfai, Cymdeithas yr Iaith Gymraeg)
Datganiad
21.02.16
Dim Ystyriaeth i’r Iaith

Mae Cyngor Gwynedd a Chyngor Ynys Môn wedi cael eu beirniadu’n hallt gan y mudiadau iaith am iddyn nhw ofyn i gwmni o Loegr wneud ymchwil ar fewnfudo ac allfudo fel sail i’w cynllun tai heb roi unrhyw ystyriaeth o gwbl i’r Gymraeg. Comisiynwyd Edge Analytics o Leeds i astudio symudoledd poblogaeth yng Ngwynedd a Môn, ac yn ôl yr Uned Polisi Cynllunio a’r panel o gynghorwyr sy’n gyfrifol am y cynllun tai, nid oedd yr iaith yn ffactor. Dywedwyd ymhellach nad oedd angen gwybodaeth leol ar y cwmni i gyflawni’r gwaith. Mae hyn yn fater difrifol iawn yn marn y mudiadau iaith, ac “mae’n tanseilio’r Cynllun Adnau ”. Mewn datganiad meddant, “Mae’r Gymraeg yn rhan annatod o wead cymdeithasol ein cymunedau. Ffolineb llwyr oedd comisiynu astudiaeth o newidiadau yn y boblogaeth heb ystyried effeithiau’r newidiadau hynny ar yr iaith.”

Y Cynllun Adnau sy’n nodi faint o dai newydd fydd yn cael eu darparu yng nghymunedau’r ddwy sir, ac mae’n rhan o’r broses o lunio Cynllun Datblygu Lleol ar y Cyd Gwynedd a Môn 2011-2026. Penderfynwyd ar gyfanswm o 7,902 o dai newydd ar gyfer y ddwy sir, ffigwr sy’n cynnwys mewnlifiad yn unol ag amcanestyniadau poblogaeth Llywodraeth Cymru sy’n seiliedig ar batrwm mewnfudo yn y gorffennol. Mae’r cynllun wedi cael ei feirniadu o’r cychwyn am nifer o resymau gan gynnwys niferoedd uchel y tai a phenderfyniad yr Uned i beidio â chomisiynu asesiad effaith ieithyddol annibynnol o’r Cynllun gan arbenigwyr yn y maes.

Mewn llythyr at y Cyng. Dafydd Meurig, Deilydd Portffolio Cynllunio Cyngor Gwynedd sy’n cadeirio’r Pwyllgor Polisi Cynllunio ar y Cyd, dywed cynrychiolwyr y mudiadau – Ieuan Wyn (Cylch yr Iaith), Simon Brooks (Dyfodol i’r Iaith), Geraint Jones (Canolfan Hanes Uwchgwyrfai) a Menna Machreth (Cymdeithas yr Iaith Gymraeg) – fod gwneud astudiaeth o fewnfudo ac allfudo heb ystyried y Gymraeg “yn gwbl wrthun”:

“Rydych yn dweud nad oedd angen i gwmni Edge Analytics gael arbenigedd mewn Cynllunio Iaith na Chymdeithaseg iaith i ddarparu “cyfres o ragolygon demograffig i Wynedd a Môn.” Ni allwn ond rhyfeddu at hyn oherwydd mae’n gwbl amlwg i bawb fod symudoledd poblogaeth – mewnfudo ac allfudo – yn ffactorau sy’n ymwneud yn uniongyrchol â sefyllfa’r Gymraeg yn ein cymunedau. Mae meddwl y gellir trafod mewnfudo a allfudo mewn perthynas â Gwynedd a Môn heb ymdrin ag effeithiau symudoledd poblogaeth ar y Gymraeg yn gwbl wrthun. Sut yn enw rheswm y bu i’r Uned gomisiynu cwmni nad yw’n meddu ar yr arbenigedd i ymchwilio i effeithiau’r gwahanol senarios ar y Gymraeg?

“Dyma ddiffyg difrifol eto sy’n annilysu’r Cynllun Adnau o safbwynt ieithyddol. Eisoes dangoswyd bod yr Asesiad Effaith Ieithyddol a wnaed gan yr Uned yn sylfaenol ddiffygiol, a bod Arolwg Tai ac Iaith Gwynedd ac Ynys Môn yn annibynadwy oherwydd y fethodoleg ddiffygiol. Yn awr, dyma ddatgelu nad yw’r Uned yn meddwl bod cysylltiad rhwng sefyllfa’r Gymraeg a mewnfudo ac allfudo, a’i bod yn briodol comisiynu cwmni o’r tu allan i Gymru i wneud gwaith ar ddemograffeg Gwynedd a Môn heb ystyried y Gymraeg o gwbl. A oes angen mwy o ffeithiau i ddangos bod tystiolaeth yr Uned yng nghyd-destun y Gymraeg yn annibynadwy?”

Ymhellach, mae’r mudiadau o’r farn bod cynnwys eu dogfen sylwadau a gyflwynwyd i’r ymgynghoriad cyhoeddus flwyddyn yn ôl wedi ei ddiystyru a’i wfftio, ac maen nhw’n gwneud ymholiadau i ganfod pa fath o sylw a roddwyd i’r ddogfen. Meddant yn eu llythyr at y Cyng. Dafydd Meurig: “O edrych ar gofnodion ei gyfarfodydd, ymddengys i ni na chafodd aelodau’r Panel gyfle i drafod ein dogfen sylwadau ‘Sylwadau ar y Cynllun Adnau o ran ei Effaith ar y Gymraeg’ oherwydd nid oes cyfeiriad at y diffygion a amlygwyd gennym yn y modd y cafodd y Cynllun ei asesu’n ieithyddol gan yr Uned. A gafodd aelodau’r Panel gyfle priodol i ystyried ein sylwadau (dogfen hanner can tudalen yn amlygu diffygion yr asesu ieithyddol gan yr Uned) a gyflwynwyd i’r ymgynghoriad cyhoeddus? Bydd rhaid inni holi aelodau’r Panel er mwyn mynd at wraidd y mater hwn.”

Maen nhw hefyd yn cyflwyno cyfres o gwestiynau sy’n ymwneud â gwahanol agweddau ar y broses:

·    Ai’r Uned ynteu’r Panel a benderfynodd nad oedd angen ystyried y Gymraeg i gyflawni gwaith modelu ystod o senarios yn seiliedig ar ragolygon o’r galw am tai yng nghymunedau Gwynedd a Môn, ac y gallai Edge Analytics Ltd gyflawni’r gwaith?

·    Beth oedd y fformiwla a ddefnyddiwyd gan yr Uned ar gyfer y dosbarthiad twf a’r dynodiadau ar gyfer y cymunedau, hynny yw y canrannau yn unol â statws y cymunedau fel canolfannau?

·    A fyddech yn barod i ofyn am asesiad effaith ieithyddol annibynnol o’r Cynllun Adnau gan arbenigwyr yn y maes, a hynny cyn i’r Arolygydd Cynllunio ystyried y Cynllun? Dylai asesiad o’r fath edrych o’r newydd ar gyfansymiau niferoedd y tai ar gyfer Gwynedd ac ar gyfer Môn, ac ar niferoedd tai y dynodiadau ar gyfer y cymunedau unigol.

·    A fyddech yn barod i alw am gyfarfod arbennig o’r cyngor llawn i roi cyfle i’r holl aelodau ystyried y Cynllun Adnau cyn iddo gael ei ystyried gan yr Arolygydd Cynllunio? Gan y byddai gweithredu’r Cynllun yn effeithio mewn rhyw ffordd neu’i gilydd ar bob cymuned, dylai pob cynghorydd sir, fel cynrychiolydd etholedig pobl ei ward, fod â’r hawl ddemocrataidd i drafod a phleidleisio ar fater sy’n ymwneud â dyfodol ein cymunedau a’n parhad fel Cymry Cymraeg.”

Bydd y Cynllun Adnau yn cael ei gyflwyno i Lywodraeth Cymru ac Arolygiaeth Gynllunio ond deallwn fod nifer o gynghorwyr sir yn anniddig nad yw’r  cyngor llawn yn cael cyfle i’w ystyried cyn i’r Arolygydd Cynllunio gychwyn ar y gwaith o’i gloriannu. Cam nesaf y broses o lunio Cynllun Datblygu Lleol ar y Cyd Gwynedd a Môn fydd cynnal ymgynghoriad er mwyn i’r cyhoedd ymateb i’r mân newidiadau – Newidiadau â Ffocws – sydd wedi eu gwneud i’r Cynllun Adnau yn dilyn yr ymgynghoriad a gynhaliwyd flwyddyn yn ôl. Bydd y sylwadau a gyflwynir yn cael eu hanfon at yr Arolygydd Cynllunio.

§

Am drafodaeth bellach ar yr un testun, gweler rhifyn cyfredol Y Faner Newydd, i law heddiw.

Cwestiwn, felly, i ddilynwyr y blog.  A yw un, neu’r ddwy, o’r ddwy ddamcaniaeth cynllwyn isod yn gywir ?

(1)     Mae rhai o swyddogion Cyngor Gwynedd yn gweithio dros Ryw Allu Arall i danseilio Plaid Cymru ac i danseilio’r Cyngor ei hun.

(2)      Mae Rhyw Allu Arall wedi treiddio i mewn i Blaid Cymru gyda’r nod o’i throi yn llwyr yn erbyn dibenion ei bodolaeth ac yn erbyn disgwyliadau ei chefnogwyr.

Beth amdani, ddarllenwyr ?  Beth yw eich barn am y ddwy ddamcaniaeth ?

Advertisements

Gadael Ymateb

Rhowch eich manylion isod neu cliciwch ar eicon i fewngofnodi:

WordPress.com Logo

You are commenting using your WordPress.com account. Log Out / Newid )

Twitter picture

You are commenting using your Twitter account. Log Out / Newid )

Facebook photo

You are commenting using your Facebook account. Log Out / Newid )

Google+ photo

You are commenting using your Google+ account. Log Out / Newid )

Connecting to %s

%d bloggers like this: