Canmlwyddiant

27 Maw

Heddiw daw atgof braidd yn anesmwythol sydd wedi fy mhoeni bob yn ail â pheidio dros y blynyddoedd.  Atgof ydyw am noson yn un o ddwy gymdeithas ffilmiau Coleg Bangor, tua 1963-4. Mae’n debyg fy mod wedi talu rhyw fymryn am fynd i mewn, gan nad oeddwn yn aelod o’r gymdeithas. Y ‘llun mawr’ y noson honno oedd campau Buster Keaton gyda rhyw hen drên o’r enw The General.  Y ‘llun bach’, Mise Éire, ffilm wedi ei rhoi ynghyd o hen  luniau newyddion cyfoes a dilys o Wrthryfel y Pasg, 1916, a’r helyntion a ddilynodd. Gyda’r ddwy ffilm, yn ôl arfer y dyddiau hynny, roedd yn rhaid newid rîl ar ôl rhyw ugain munud. Wrth inni nesu at ddiwedd rîl gyntaf y ffilm gyntaf synhwyrid rhyw wingo a mwmian ymhith y gynulleidfa o 150-200. Roedd yn dechrau gwawrio ar yr edrychwyr nad y Sais oedd arwr y stori hon. Powliodd yr ail rîl yn ei blaen gyda’r anesmwythyd yn cynyddu, a daeth i’w diwedd yng nghanol storm o fwuo a rhuo ‘take it off !’ Aeth y trefnwyr ymlaen at Buster Keaton.  Ni chefais weld y traean olaf nes cael benthyg y DVD gan gyfaill yn ddiweddar iawn. Mwynhawyd anturiaethau Buster gan bawb, am wn i, ond roedd o leiaf un aelod o’r gynulleidfa (yr unig Gymro yn y lle, efallai) yn euog a blin wrtho’i hun na byddai wedi mynnu gweld diwedd y ffilm gyntaf neu ynteu ei arian yn ôl. Ie, noson o Chwarae Teg Prydeinig.

Digwyddiad o arwyddocâd byd-eang aruthrol oedd Gwrthryfel y Pasg.  Bu’n ddechrau’r diwedd i holl ymerodraethau Gorllewin Ewrop, a phe na bai llywodraeth y Weriniaeth wedi ei goffáu mewn modd teilwng heddiw buasai’n gywilydd mawr iddi. Am flynyddoedd lawer bu’n arferiad peidio gwneud dim ohono rhag gwneud pethau’n waeth yn y Gogledd.  A gafwyd unrhyw ddiolch am hynny sy’n gwestiwn mawr. Mae’n debyg y bu ystyried gofalus iawn pa ffurf a gymerai’r coffâd heddiw a pha nodyn i’w daro.

Trasiedi enbyd fu’r rhyfel cartref a ddilynodd setliad 1921, a bron na ddywedid mai dadrith ynghylch eu chwyldro eu hunain fu prif thema llenorion Gwyddelig dros y blynyddoedd wedyn.  Edrychwn ninnau Gymry gyda siom ar y methiant i adfer yr Wyddeleg, y diffyg ewyllys yn wir.  Serch hyn oll, camp hanesyddol nodedig iawn yw’r hyn a ddilynodd y Gwrthryfel, sef y gamp o gadw allan, am yn agos i gan mlynedd, o anturiaethau gwaedlyd y wladwriaeth Brydeinig.  O’r ochr hon i’r dŵr, lle rydym yn gyfarwydd â’r clochdar di-ball, obsesiynol am yr anturiaethau hynny, go brin y gallwn warafun i’r Gwyddel ei un diwrnod o goffâd milwrol mewn can mlynedd.

Bu’r adroddiadau newyddion yr ochr hon heddiw’n ddigon gweddus o ran cywair, ar ôl cofio’n hatgoffa mai ‘cael ei drechu’ a wnaeth y Gwrthryfel.  Efallai fy mod yn anghywir, ond caf yr argraff fod llai o ddiddordeb ymhlith y Cymry nag oedd adeg yr hanner canmlwyddiant, 1966. Ailddangosir y rhaglen ar Wersyll y Fron Goch gan S4C heno, ond hyd y gwelaf ni bu yr un rhaglen fyw yn dangos gweithrediadau’r diwrnod. Tila iawn. Fel arfer.

Ble arall y bu distawrwydd?  Ar y blogiau a’r gwefannau Albanaidd sydd fel rheol mor fywiog a chraff.  Gŵyr cenedlaetholwyr yr Alban fod yn eu dwylo bellach y gallu i gwblhau’r hyn a gychwynnodd y Gwyddyl ganmlwydd yn ôl. Ond mae ganddynt eu llwybr eu hunain tuag at y diweddglo hwnnw.

3 Ymateb to “Canmlwyddiant”

  1. Cai Larsen Mawrth 27, 2016 at 11:30 pm #

    Byddai’n syndod i chi cymaint o Gymry sydd trosodd yma.

  2. Gruffydd Aled Williams Ebrill 1, 2016 at 10:08 am #

    Newydd ddychwelyd o Iwerddon a’r dathliadau yno. Gwefreiddiol iawn, a thros chwarter miliwn o bobl ar strydoedd Dulyn ddydd Sul. Yr oeddwn yno hefyd yn 1966 – I ble’r aeth yr hanner canrif! Fel Glyn Adda rwy’n meddwl fod llai o Gymry wedi mynychu’r dathliadau eleni nag yn 1966, ond, fel y dywed Cai Larsen, yr oedd cryn dipyn yno’r tro hwn hefyd.

    Bu rhai lleisiau—haneswyr honedig ryddfrydig— yn Iwerddon yn dilorni 1916 yn ystod y 1980au a’r 1990au, ond fe ddistawodd y lleisiau hynny I raddau helaeth erbyn hyn (Ruth Dudley Edwards yn dal I gynrchiol’r dueddfryd hon I ryw raddau).

    Ni welais ‘Mise Eire’ ym Mangor yn ystod dyddiau pan oeddwn I (a Glyn Adda) yn fyfyrwyr yno. Ond gallaf ddychmygu ymateb rhai o’n cyd-fyfyrwyr o’r tu draw I Glawdd Offa. Yr oedd elfen ffyrnig ;ymerodrol’ iawn ymhlith rhai ohonynt. Byddai Glyn Adda yn cofio am eu hymateb i’r ymgyrch dros ryddid yn Kenya ar y pryd..

    • glynadda Ebrill 1, 2016 at 10:36 am #

      Ydi, mae’r hen G.A. yn cofio’n fyw iawn y dadleuon chwilboeth hyd goridorau’r coleg rhwng ar y naill law ganwr pop adnabyddus ac ar y llaw arall Philip Otieno, Affricanwr oedd yn cefnogi’r Cymry ar bob achlysur, yn ogystal â chefnogi ei bobl ei hun. Beth ddaeth ohono tybed? Ond meddwl yn sobor yr un pryd am gyflwr y rhan fwyaf o wledydd Affrica heddiw. Oni fyddai eu byd yn well dan ryw Ian Smith?

      Am yr ‘elfen ffyrnig ymerodrol’ yng Ngholeg Bangor hanner canrif yn ôl, petawn i’n enwi naw neu ddeg o’i blaenoriaid, gwrth-Gymreigwyr cyson, cegog, diflino, rwy’n sicr y gallai Aled gadarnhau’r enwau. Ond y cwestiwn bellach yw, pwy sy wedi ennill? Er enghraifft, un o obeithion yr ‘elfen ffyrnig ymerodrol’ oedd dinistrio Prifysgol Cymru.

Gadael Ymateb

Rhowch eich manylion isod neu cliciwch ar eicon i fewngofnodi:

WordPress.com Logo

You are commenting using your WordPress.com account. Log Out / Newid )

Twitter picture

You are commenting using your Twitter account. Log Out / Newid )

Facebook photo

You are commenting using your Facebook account. Log Out / Newid )

Google+ photo

You are commenting using your Google+ account. Log Out / Newid )

Connecting to %s

%d bloggers like this: