Colli Gwyn Thomas

14 Ebr

Y tro olaf imi siarad â Gwyn Thomas, fo ffoniodd fi, i ganmol rhywbeth bach oedd gen i. Blynyddoedd hir o gefnogaeth bersonol, o gwmni ac o gyfeillgarwch sydd flaenaf yn fy meddwl wedi derbyn y newydd trist iawn heddiw am ei golli o’n plith.

Dywedaf bedwar peth.

Yr oedd Gwyn yn ddyn o ewyllys da. Mynnai fod yn deg ac yn hael tuag at gyd-ddyn.   Mewn cylch eang o gydnabyddiaeth, triniai bawb yr un fath.

Meddyliodd yn eang am ystyr pethau, – pethau ein bywyd bob dydd heddiw a hefyd y pethau sy’n ddwfn dan yr wyneb ond yn ‘codi o’r cudd’ mewn llenyddiaeth, chwedl a chrefydd.

Fel gwir ddysgawdwr, fe ddaliodd ati. Ni bu pall ar y ffrwd o gerddi, trafodaethau, cyfieithiadau, sgriptiau, storïau, am na bu pall ar yr awydd i rannu gwybodaeth, dealltwriaeth, diddordeb a mwynhad.

Yn olaf, os bu’n wir am unrhyw un, bu’n wir am Gwyn, na wnaeth erioed y camgymeriad o roddi heibio bethau bachgennaidd. Llunio a recordio rhyw raglen wirion oedd y peth cyntaf a wnaeth ef a minnau efo’n gilydd.  Drwy’r blynyddoedd yn ei gwmni  cawsom lawer o hwyl a chwerthin am bethau bach digri, diniwed.

Yr ydym wedi colli cyfaill mawr iawn.  Ymunaf â chylch eang a fydd yn estyn cydymdeimlad calon a dymuniadau da i Jennifer, Rhodri, Ceredig, Heledd a’r teuluoedd.

Dan fy enw fy hun, Dafydd Glyn Jones.

Advertisements

4 Ymateb to “Colli Gwyn Thomas”

  1. Alun Ffred Ebrill 14, 2016 at 10:27 pm #

    Amen ddweda innau.

  2. Euros Ebrill 15, 2016 at 4:27 am #

    Diolch am y gair am Gwyn Thomas. Gair o’r galon gan gyfaill cywir i gyfaill cywir

  3. Helen Gwyn Ebrill 22, 2016 at 3:41 pm #

    Diolch Dafydd..Gwir bob gair.Roedd Gwyn wastad yn glen ac yn dy gydnabod.Fel un a anwyd ynTanygrisiau fy hunan roeddwn yn hynod falch o’r cysylltiad.

  4. D. Densil Morgan Mai 27, 2016 at 4:27 pm #

    Newydd ddarllen hwn – teyrnged ardderchog a gwir

Gadael Ymateb

Rhowch eich manylion isod neu cliciwch ar eicon i fewngofnodi:

WordPress.com Logo

You are commenting using your WordPress.com account. Log Out / Newid )

Twitter picture

You are commenting using your Twitter account. Log Out / Newid )

Facebook photo

You are commenting using your Facebook account. Log Out / Newid )

Google+ photo

You are commenting using your Google+ account. Log Out / Newid )

Connecting to %s

%d bloggers like this: