Crochan ac Archdderwydd

24 Ebr

Ddechrau’r wythnos diwethaf, tro bach i Gaeredin ac i Amgueddfa Genedlaethol yr Alban i weld arddangosfa helaeth o’r enw CELTS.  Roedd hi eisoes wedi bod yn yr Amgueddfa Brydeinig yn Llundain, a gwn fod ambell un o’m darllenwyr wedi ei gweld hi yno. Am ryw reswm nid yw’n dod i Gymru.

Crochan

Do fe gawsom weld, wyneb yn wyneb fel petai, amryw o’r creiriau a’r trysorau Celtaidd nas gwelsom ond mewn lluniau o’r blaen, a chyda hwy esboniadau cryno ar eu tarddiad, eu gwneuthuriad, eu diben tybiedig.  Nid oedaf ag ambell osodiad a’m trawai i fel un amheus.  Uchafbwynt y cyfan, canolbwynt y sioe, oedd y crochan neu’r pair o arian, gyda’r lluniau ar ei du mewn a’i du allan sydd wedi achosi’r fath drafod a dehongli a dyfalu oddi ar ei ddarganfod gyntaf.  ‘Crochan Gundestrup’ yr ydym yn ei alw, oddi wrth y man yng ngogledd Denmarc lle cafwyd hyd iddo; ond barn y rhan fwyaf o’r arbenigwyr yw mai rywle tua de-ddwyrain Ewrop y lluniwyd ef, efallai tua 150-50 Cyn Crist.  O’r diwedd, wedi syllu llawer ar luniau ohono a darllen cynigion ar ei ddehongli, dyma ni, a dim ond ffenest o blastig rhyngom ag ef. A dyma gyfle i sylwi, fel na bu’n bosibl o’r blaen, ar ei wneuthuriad, sy’n llawn mor hynod â’i ‘ystyr’: y modd y mae’r lluniau wedi eu gweithio i mewn i’r metel o’r tu cefn, a’r panelau wedi eu rhybedu ynghyd. Mae un panel ar goll.  Ai yn hwnnw yr oedd yr allwedd i’r cyfan?  Adre â ni felly, i ddarllen a meddwl a syllu eto ar y lluniau rhyfedd sydd fel petaent yn dal rhyw berthynas, anuniongyrchol a thros ganrifoedd, â rhai pethau yn chwedlau’r Cymry.

Rhywbeth arall o bwys?  Fe aed ymlaen i sôn am ymlediad ac ymfudiadau tybiedig y Celtiaid, datblygiad eu celfyddyd, goroesiad honno i’r cyfnod Cristnogol, a sut y gallai fod wedi ymgyfuno â phatrymau Sacsonaidd a Llychlynig.  Ac ymlaen at ‘ailddarganfod’ y Celtiaid neu yn wir eu ‘hailddyfeisio’ gan ysgolheigion diogel ac anniogel yn nechrau’r ddeunawfed ganrif, twf y cwlt neu’r ffasiwn ‘dderwyddol’, a chysylltu’r Celtiaid â chylchoedd cerrig ac amryw bethau eraill na bu a wnelent, yn hanesyddol, ddim â hwy. Uchafbwynt yr adran hon, a gynrychiolai’n fras y Celtiaid yn y byd modern, oedd clamp o lun o Hwfa Môn, Archdderwydd Cymru 1895-1905.  Yn garedig, ni ddywedai’r capsiwn ei fod yn ymgeisydd cryf am deitl y bardd salaf erioed mewn unrhyw iaith.  Prysuro at y diwedd wedyn, yn eithaf swta.

Os mai ‘Yr Hen Geltiaid’ yw testun arddangosfa, dyna ni. Ond os neilltuo panel neu ddau tua’r diwedd i’r ‘Celtiaid heddiw’, cystal ei wneud yn iawn. Os mai teulu o ieithoedd, fel y deil llawer, yw unig wir ystyr ‘y teulu Celtaidd’, byddai’n dda cynnwys rhyw ddarlun o’r ieithoedd hynny heddiw a’r byd y maent yn bodoli ynddo. Gwelaf un anhawster, sef fod y Gymraeg gymaint ar y blaen i’r ieithoedd Celtaidd eraill o ran y defnydd a wneir ohoni, – neu gymaint ar eu holau, os mai stori dirywiad ac enciliad anochel yw’r hyn a welwn. O’r gorau, fe wyddom ni yn rhy dda am wendid cyfryngau Cymraeg y dwthwn hwn, ond ni buasai llun o ambell ffilm a drama allan o le; a buasai panel bach yn dangos amrywiaeth y wasg Gymraeg, yn cynnwys rhai o’r papurau bro, yn agoriad llygad i lawer un o’r tu allan, – ac efallai yn dipyn o ysgytwad hefyd.

Ond da oedd cael gweld y crochan, ac amryw drysorau eraill sydd mor wahanol o ran arddull i bethau’r byd Clasurol, mor ddirgel eu hystyr ac mor hardd.

Advertisements

Un Ymateb to “Crochan ac Archdderwydd”

  1. jim Ebrill 24, 2016 at 12:47 pm #

    cytunaf gyda chi am y diweddglo – roedd absenoldeb y Gymraeg yn “bleedin’ obvious” fel bydde nhw yn deud yn parthe’r British museum. Roeddwn innau yn meddlw hefyd pan nad oedd offer cywedol yno yn chwarae seiniau cyfoes yr ieithoedd – canu/barddnth /teledu. Roedd absenoldeb y Gymraeg hefyd yn amlwg ar diweddglo y gyfres ar y BBC, mond honno weles i – ond cafwyd “set-up” hollol anaturiol o’r iaith gaeleg gymunedol yn iwerddon – pam nag oedddent wedi gorffen gyda delwedd o’r cymunedau gymreig cyfoes? ! Sdim ishe gofyn pam os e – ni dal ry fyw

Gadael Ymateb

Rhowch eich manylion isod neu cliciwch ar eicon i fewngofnodi:

WordPress.com Logo

You are commenting using your WordPress.com account. Log Out / Newid )

Twitter picture

You are commenting using your Twitter account. Log Out / Newid )

Facebook photo

You are commenting using your Facebook account. Log Out / Newid )

Google+ photo

You are commenting using your Google+ account. Log Out / Newid )

Connecting to %s

%d bloggers like this: