Cyngor y gwan i’r cryf

27 Ebr

Wythnos yn ôl, tra oeddwn i yng Nghaeredin yn edrych ar arddangosfa’r Celtiaid ac ati, mewn cwr arall o’r brifddinas yr oedd Plaid Genedlaethol yr Alban yn cynnal rali rymus i  lansio’i maniffesto etholiad. Yr hyn a ddaliodd benawdau’r wasg oedd y cwestiwn: a fydd refferendwm arall? Y peth mawr i’w gofio yw bod y pleidiau Prydeinig a chefnogwyr ‘na’ yn 2014 wedi bod yn pwyso’n daer am addewid na bydd yr un. Yn wir fe gofiwn i’r dyn gwellt hwnnw, Jack Straw, alw am ddeddfwriaeth yn gwahardd unrhyw refferendwm pellach a allai arwain at rannu’r Deyrnas.

Cyfieithwn eiriau Nicola Sturgeon wrth y rali:

‘Does yr un diwrnod yn mynd heibio heb i rywun ofyn imi a fydd yna ail refferendwm ar annibyniaeth yn y senedd nesaf.  Ar un ystyr mae fy ateb i’n syml iawn – mi hoffwn i hynny’n fawr iawn.  Rwy’n credu â’m holl galon mai annibyniaeth yw’r dyfodol gorau i’n gwlad ni.

‘Ond os oes ail refferendwm i fod – boed hynny yn y senedd nesaf neu ryw senedd yn y dyfodol – rhaid inni yn gyntaf ennill yr hawl i’w roi gerbron.’

Pwysleisiodd wedyn mai yr adeg i feddwl am refferendwm fydd yr adeg pan fydd tystiolaeth glir a chyson o awydd am annibyniaeth.  Yn fyr, ‘pan fyddwn ni’n sicr o ennill’.

Cystal ateb â dim un, ac nid er mwyn anghytuno ag ef y cynigiaf ddau sylw.

(1)   Onid yw’n anffodus ein bod wedi mynd i roi cymaint pwys ar refferendwm?  Llywodraeth gynrychioliadol yw’r traddodiad yng ngwledydd Prydain, a bu adeg pryd nad oedd sôn am refferenda ac eithrio’r rhai ar agor y tafarnau yng Nghymru.  Y bleidlais ar ymuno â’r Farchnad Gyffredin (1975) a sefydlodd y refferendwm fel offeryn democratiaeth yn y gwledydd hyn, ac yna rhai ’79 a ’97 ar ddatganoli. Bydd pleidlais mis Mehefin ar Ewrop yn cadarnau’r defnydd o  refferendwm, ac yn anffodus yn cadarnhau offeryn sy’n gwasanaethu Adwaith yn amlach na pheidio.

(2)   Drwy’r blynyddoedd fe ddywedwyd wrth genedlaetholwyr yr Alban a Chymru, ‘fe gewch chi senedd (neu annibyniaeth, neu beth bynnag) pan fydd gennych chi’r pleidleisiau a’r seddi’.  Wel, yn yr Alban, dyma hi wedi dod. Petawn i heddiw yn lle’r SNP, byddai’n demtasiwn fawr dweud fel hyn. ‘Na, peidiwch â phoeni, fydd dim refferendwm arall. Os cawn ni fwyafrif clir o seddau’r Alban yn Holyrood ac yn San Steffan  (?)un waith eto, byddwn yn agor trafodaethau a fydd yn arwain at annibyniaeth.’  Buan iawn wedyn y gwelem ni’r ochr arall yn dechrau gweiddi am refferendwm.

Ond cyngor y gwan i’r cryf yw hwn, ac nid wyf am ei anfon i bencadlys yr SNP.  Diau y gŵyr Nicola ei phethau.

Adre â ni i Gymru, a’i gwleidyddiaeth dila, druenus.

2 Ymateb to “Cyngor y gwan i’r cryf”

  1. Marconatrix Ebrill 28, 2016 at 4:38 pm #

    Wel diolch am hynny, diddorol iawn i gael eich sylwadau chi. Rhaid cyfaddef fod rhai tu mewn i´r SNP sy´n cydymdeimlo â chi, rhai o´r ¨old timers¨ mwya ffyrnig fel arfer.

    Ar hyn o bryd rhaid i´r SNP gynnyddu eu nifer o seddau yn y senedd wythnos nesa, am gynnal pethau yn mynd ymlaen (tuag at annibyniaeth yn y pen draw). Nid hawdd ydi hyn am mae nifer gweddol fawr o seddau ganddyn nhw bellach. Am mai ryw hanner o´r etholaeth ar blaid yr SNP, a hanner hefyd am annibyniaeth, nid yr un bobl yn hollol ydyn nhw. Felly a´r adeg hon rhaid i Nicla apelio i´r clamp ¨canol y ffordd¨, pobl sy´n hoffi llywodraeth yr SNP heb fod yn sicr am annibyniaeth i´r Alban. A hynny heb golli y rhai ffyrnig. Dim chwarae bach ydi hyn!

    Beth arall? Galw am refferendwm a´i golli? Cyhoeddi UDI fel yn Iwerddon ganrif yn ôl? (A gweld gwaed ar y strydoedd??)

    • glynadda Ebrill 28, 2016 at 5:24 pm #

      Digon synhwyrol. Ac fel rwy’n dweud, mae’n siwr fod Nicola’n gwybod ei phethau.

Gadael Ymateb

Rhowch eich manylion isod neu cliciwch ar eicon i fewngofnodi:

WordPress.com Logo

You are commenting using your WordPress.com account. Log Out / Newid )

Twitter picture

You are commenting using your Twitter account. Log Out / Newid )

Facebook photo

You are commenting using your Facebook account. Log Out / Newid )

Google+ photo

You are commenting using your Google+ account. Log Out / Newid )

Connecting to %s

%d bloggers like this: