Y Pleidiau a’u Pethau

1 Mai

“Cymru a’i gwleidyddiaeth dila, druenus” meddai’r hen G.A. ar ddiwedd ei flog diwethaf.  Tebyg y byddai pob plaid yn cytuno, gan ychwanegu “ac eithrio’n gwleidyddiaeth ni wrth gwrs”.

Golwg sydyn heddiw ar y llenyddiaeth etholiad a ddaeth i law.

“Cyfathrebiad etholiad”, sylwch chi, oedd un daflen gan Blaid Cymru.

Hyd yma nid yw’r tŷ hwn wedi derbyn pwt o ddim byd gan y Ceidwadwyr.  Ni wn hyd yn oed enw’r ymgeisydd.

Daeth yma eithaf trwch o bapur gan y Democratiaid Rhyddfrydol.  Nid oes diben canmol na chollfarnu polisïau’r blaid hon, a hynny am ddau reswm: (a) nid yw polisi’n golygu dim oll i drwch ei chefnogwyr; (b) ei thraddodiad – ei hegwyddor – yw mynd yn groes i’r hyn a addawyd.

Mae mwy nag un blaid yn chwarae Gogledd yn erbyn De. Plaid Cymru gymaint â’r un.

Sonia un o daflenni Llafur ddwy waith am “gryfhau’r iaith Gymraeg”.  Hi, hyd yma, yw’r unig blaid i grybwyll y mater hwn yn y llenyddiaeth brintiedig a welais i.  Ond fe ddywed Plaid Cymru ar ei gwefan y bydd y Gymraeg “wrth galon” ei llywodraeth.

Y fwyaf ffraeth o’r taflenni yw eiddo plaid “Abolish the Welsh Assembly”, wedi ei phrintio yn Walsall, West Midlands. Nid yw’n enwi ei hymgeiswyr.  Ond mae’n ein gwahodd i sgrifennu ar gerdyn post “yr hyn y mae’r arbraw hwn [y Cynulliad Cenedlaethol] wedi ei gyflawni i Gymru mewn 17 mlynedd”.  Wel ie …

Diddorol yw taflen y Blaid Werdd. Am Wylfa B? Dim gair.

Mae Plaid Cymru am greu mil yn rhagor o feddygon a phum mil yn rhagor o nyrsus.  Fel’na?  Chwifio ffon?  A chaniatáu bod yr arian ar gael, sut meddech chi mae cynhyrchu mil yn rhagor yn y fan a’r lle o unigolion a chanddynt (a) Lefelau-A da iawn mewn Cemeg, Bywydeg a phynciau cysylltiol, a (b) dim ofn gwaed?   Tasg a fyddai’n dreth ar alluoedd cyfunol Gwydion, Prospero a Gandalf the Grey.

Mae pob plaid dros well addysg.  Neb o blaid salach addysg, hyd y gwelaf. “Cymru glyfrach” yw nod Plaid Cymru, ac ymhlith y moddion tuag at hyn mae:

(a) Gan gytuno â Llafur, “darpariaeth addysg cyn-ysgol am ddim i blant tair blwydd oed.”   Mae’n bryd i rywun ddweud: gartref gyda rhiant y dylai plant bach fod.  Rhwng crud ac ysgol, rhowch dipyn o lonydd i blant, er mwyn y nefoedd. Gwn beth fydd yr wrth-ddadl, llwyddiant ysgolion meithrin yn cyflwyno’r Gymraeg; nid oes wadu hynny.

(b) Anogaeth drwy bremiwm i athrawon weithio tuag at radd Meistr.  Addewir y bydd hyn yn “codi safonau yn ein hysgolion”.  Na fydd, byth.  Os gwir ein bod yn mynd yn dwpach fel pobl – a digon posib ei fod yn wir – mae hynny oherwydd trai diwylliant yn y gymdeithas.  Sut i wrthweithio hyn, yn wir wn i ddim; ond yn sicr nid drwy luosogi graddau rwtshi-ratsh mewn Addysg.  Dyma, o bosib, bolisi mwyaf gwallgo’r etholiad hwn, ac edrychaf ymlaen at dderbyn taflen Plaid Monster Raving Loony i weld a all hi ragori arno.

(c)   “Dileu £18,000 o ddyled i fyfyrwyr sy’n gweithio yng Nghymru ar ôl graddio.”  Yma mae bwlch go fawr yn y stori. Beth am raddio yng Nghymru?  Beth am golegau Cymru yn y cyfamser?  Fel rwyf wedi dweud drosodd a throsodd yn ystod y blynyddoedd, mae diffyg cymdeithas gref, fyw a chreadigol o Gymry yn ein colegau yn un o brif achosion ein methiant yn economaidd, yn addysgol, yn ddiwylliannol a phopeth arall. Y blaid sy’n wirioneddol am adeiladu cenedl ffyniannus yng Nghymru, fe fydd hi’n gwobrwyo’n ariannol, ac yn ddigamsyniol o hael a helaeth, y rhai sy’n para’n ffyddlon yn ddeunaw oed. (“Ffyddlon i beth?” gallwch ofyn.  Rywsut nid yw “ffyddlon i golegau Cymru” – eto beth bynnag – yn taro’r un nodyn â “ffyddlon i Brifysgol Cymru”, nac yn cyffwrdd cydwybod i’r un graddau. Bythol anghlod i’r Pleidwyr hynny a gyfrannodd at ddinistr y Brifysgol ffederal, gan wireddu hen uchelgais gan y gwrth-Gymreig.)

Cyn gorffen â’r testun mawr ‘Plaid Cymru ac Addysg’, rhaid sylwi ar ddau fwlch.  (a) Ni welaf addewid i gau mwy o ysgolion gwledig. Rhyfedd yntê.  (b) Ni sonnir am y polisi o gyflwyno addysg enwadol orfodol, heb ddewis i ddisgyblion na rhieni, mewn cwr o Wynedd.  Os yw hyn yn beth mor wych i blant y Bala, sut na chynigir yr un fantais i holl blant Cymru?

Erys UKIP.  Yn ei thaflen hi mae un neu ddau o bethau PENDANT a phethau Y GELLIR EU GWNEUD.  Mae pob plaid wrthi am y Gwasanaeth Iechyd ac yn addo’i wella fel hyn a fel arall. Gwyddom oll  – neu fe ddylem wybod – mai gwendid mawr y ddarpariaeth iechyd ers chwarter canrif yw DIFFYG ATEBOLRWYDD.  Mae UKIP yn addo adfer byrddau iechyd lleol, etholedig.  Dyma beth amlwg, ymarferol. Pam nad oes unrhyw blaid arall yn meddwl amdano?  Mae UKIP hefyd yn addo cael llai o weinyddwyr, a thalu llai i’r rhai fydd ar ôl.  Dyma eto beth y gellir ei wneud.  Nid yw fel, ddywedwn ni, creu mil o feddygon a phum mil o nyrsus allan o frwyn a hesg.

A yw hyn oll yn gwneud UKIPwr a BREXITiwr o’r hen  G.A.?   Ddim eto.

Disgwyliaf i weld beth fydd gan Blaid yr Honco Bost i’w gynnig.

Advertisements

Un Ymateb to “Y Pleidiau a’u Pethau”

  1. Owen Hughes Mai 1, 2016 at 11:18 pm #

    Mi fuasai’n werth cael un aelod o’r Blaid Honco Bost yn y Bae.

Gadael Ymateb

Rhowch eich manylion isod neu cliciwch ar eicon i fewngofnodi:

WordPress.com Logo

You are commenting using your WordPress.com account. Log Out / Newid )

Twitter picture

You are commenting using your Twitter account. Log Out / Newid )

Facebook photo

You are commenting using your Facebook account. Log Out / Newid )

Google+ photo

You are commenting using your Google+ account. Log Out / Newid )

Connecting to %s

%d bloggers like this: