Oes yna unrhyw un call ar Gyngor Môn ?

30 Mai

Yr wythnos ddiwethaf bu’r Arlywydd Obama yn Hiroshima, y cyntaf erioed o arlywyddion America i ymweld â’r ddinas honno.  Soniodd yn gyffredinol y byddai’n dda cael llai o arfau niwclear.  Nid ymddiheurodd am yr hyn a alwodd un o’r awyrenwyr, wrth wylio’r cwmwl yn codi ar y diwrnod hwnnw yn 1945, yn ‘marvel of American technology’.

Gan Karen Owen yn rhifyn diwethaf  Y CYMRO (27 Mai) cawsom gryn dipyn o hanes y bobl a fu’n gyfrifol am greu’r ‘rhyfeddod technolegol’, cwmni o’r enw Bechtel.  Heb godi llais na rhuo, dim ond cofnodi’r ffeithiau, mae’r ysgrif yn dweud digon i osod Bechtel ymhlith pobl waetha’r byd heddiw.  A dyma inni un o’r partneriaid mewn codi atomfa newydd yn yr Wylfa, os daw hynny i fod.

Rydym oll yn ddyledus i Karen am grynhoi’r ffeithiau ac i’r CYMRO am eu cyhoeddi. Pa bapur neu gylchgrawn Cymraeg arall a fyddai’n gwneud hyn?

A dwedwch i mi, oes yna unrhyw un call ar Gyngor Môn?

Advertisements

Gadael Ymateb

Rhowch eich manylion isod neu cliciwch ar eicon i fewngofnodi:

WordPress.com Logo

You are commenting using your WordPress.com account. Log Out / Newid )

Twitter picture

You are commenting using your Twitter account. Log Out / Newid )

Facebook photo

You are commenting using your Facebook account. Log Out / Newid )

Google+ photo

You are commenting using your Google+ account. Log Out / Newid )

Connecting to %s

%d bloggers like this: