Rhwng Boris a Kinnock

5 Meh

Allan gyda Boris? I mewn gyda Kinnock ?

Heddiw mae’r hen G.A. am rannu â’r ddau ddwsin ohonoch rai o’i feddyliau rhanedig ac ansicr ar fater y refferendwm. Peidiwch â dweud wrth y lleill !

‘Dwyn undeb politicaidd ac economaidd i Ewrop yw un o anghenion cyntaf ein canrif ni,’ ysgrifennodd Saunders Lewis yn 1927.  Gwelai rôl allweddol a mawredddog i Gymru: ‘ … yn lladmerydd Ewrop ym Mhrydain ac yn gadwyn i glymu Lloegr a’r Ymerodraeth wrth genhedloedd cred a Seiat y Cenhedloedd’.

Roedd hi’n ail hanner y ganrif, wedi rhyfel enbyd arall, cyn bod neb yn meddwl o ddifrif am wireddu’r weledigaeth.

Cymerwyd y cam tyngedfennol gan ddyn bach o wlad Belg, Paul-Henri Spaak, Gweinidog Tramor y wlad honno a chadeirydd pwyllgor a sefydlwyd ganol y 1950au i ddechrau cynllunio cydweithrediad economaidd rhwng chwech o wledydd Gorllewin Ewrop.   Ymerodraeth Belg oedd y Gymuned Ewropeaidd yn ei chychwyniad. Ei phwrpas oedd cadw Ffrainc a’r Almaen yn eu lle, rhag iddynt wneud yr un peth eto.   A’r ffordd o’u cadw yn eu lle oedd gadael iddynt gael eu dymuniad yn y rhan fwyaf o bethau.

Mae’r  Gymuned hefyd yn ymerodraeth Gatholig. ‘Cenhedloedd cred’, sylwer uchod. Mae i’r Comisiwn awdurdod Pabaidd. Mae penderfyniadau a rheoliadau yn ‘rhyw ddod o rywle’.  Nid yw o unrhyw bwys beth a ddywedir yn y Senedd, ac yn wir nid oes ddiben i’r Aelodau fod yno.  (Eich atgoffa o gyngor sir arbennig yng Ngogledd-Orllewin Cymru?)

Fel yr wyf wedi pwysleisio droeon ar y blog hwn, nid oes dim byd anochel yn rhawd dynoliaeth.  Ond mae rhai prosesau sy’n digwydd BRON yn ddi-ffael.  Ac un o’r rheini yw cwymp ymerodraethau.   Felly, er mwyn bod ar yr ochr iawn i lanw mawr Hanes, a ddylwn i bleidleisio dros fynd allan?

Mae nifer o ystyriaethau eraill y gallwn seilio’n dewis arnynt, a dyma rai:

CEISIO  RHAGWELD.  A ydym am fod yn aelodau o Gymuned y gall Twrci hefyd fod yn aelod ohoni ryw ddydd, yn fuan neu’n hwyr ?   Ac edrych arni fel arall, a fyddai aelodaeth o’r Gymuned yn fodd o osod rhyw fesur o wastrodaeth ar y wlad barhaol ffasgaidd honno?   Mae rhywun yn meddwl yn ddifrifol, petasai hen wladwriaeth Iwgoslafia yn rhan o’r Gymuned erbyn y 1990au, a fyddid wedi osgoi’r trychineb erchyll ?

EIN BUDDIANNAU NI.  Mae sgetsus Eisteddfod y Ffermwyr Ifainc ymhlith yr ychydig bethau digri sydd ar ôl yng Nghymru.  A fyddai hi’n chwalfa derfynol ar amaethyddiaeth ac ar gefn gwlad petaem ni’n mynd allan?  Mae o leiaf ddau ffermwr-wleidydd – Glyn Davies ac Andrew R. T. Davies – heb fod yn meddwl hynny.  A fyddem yn colli bendithion pethau fel Amcan Un a Cymunedau’n Gyntaf petaem yn ymadael?  Bendithion?  Ffrwythau?  Canlyniadau?   Ble maen nhw?

TACTEGOL.  Rhagdybio am y tro fod Lloegr am BREXIT.   Fotio ‘i mewn’ er mwyn i Gymru edrych yn wahanol i Loegr?   Gobaith gwan.

Rhagdybio y bydd yr Alban am aros i mewn. Fotio ‘allan’ er mwyn dyfnhau’r rhaniad a dod ag annibyniaeth yr Alban yn nes, yn y gobaith y byddai hynny, ryw fodd neu’i gilydd, ryw ddydd a ddaw, o ryw gymorth i Gymru?  Ergyd go bell.  (Yn ôl rhai adroddiadau mae ‘the Auld Alliance’ yn dal i gyfrif rhywbeth i’r Sgotyn.  Dyn a ŵyr pa fudd a gafodd yr Albanwyr  – mwy na neb erioed, yn cynnwys Owain Lawgoch ac Owain Glyndŵr – o ddibynnu ar gyfeillgarwch Ffrainc, ond dyna fo.)

Fotio ‘allan’ er mwyn cael BREXIT ac etholiad cyffredinol yn syth. Byddai Prifysgol Aberystwyth a Phrifysgol Cymru … Dewi Sant ar gau adeg yr etholiad, a byddai gwell gobaith i Mike Parker ennill y sedd petai amdani eto.

PERSONOLIAETHAU.  Mae Neil Kinnock yn ein gwahodd i feddwl yn sobor pwy sydd ar yr ochr arall.  Am Boris, Farage, Michael Gove, Ian Duncan-Smith, gallwn ddweud hyn o leiaf: wnaethon nhw erioed unrhyw ddrwg i Gymru.  Nac ewyllysio hynny hyd y gwyddom.  Am Kinnock …

PLEIDIOL.  Beth am dderbyn arweiniad yr hen Blaid Cymru?  Onid yw ei chyngor yn ddoeth ac adeiladol bob amser?   Plaid cau ysgolion.  Plaid gorfodi addysg enwadol.  Plaid o-blaid-ac-yn-erbyn-niwclear. ‘Yr wrthblaid fwyaf effeithiol erioed’, wedi rhoi trwydded am bum mlynedd arall, yn gyfnewid am res o ‘gonsesiynau’ cwbl ddiystyr, i brif weinidog sydd am ddod â Trident i Gymru. Siŵr ei bod hi’n iawn …

CYMHELLION.   Os mai BREXIT fydd hi, mae’n bur amlwg erbyn hyn beth fydd wedi troi’r fantol, sef  MEWNFUDIAD. Nid gwrthwynebiad i fiwrocratiaeth ddiwyneb, ddienaid Brwsel, ond pryder am ryw lanw o dramorwyr sy’n mynd i foddi Lloegr.  Buddugoliaeth Prydeindod fydd hon, adwaith i broblem hollol ddychmygol.  Fe ddaw’r mewnfudwyr, boed y rheini’n ffoaduriaid, yn ymfudwyr economaidd neu beth bynnag, i Brydain I FOD YN SAESON. Mae’r trueiniaid a achubir oddi ar eu rafftiau ym Môr y Canoldir yn siarad rhyw lun o Saesneg eisoes; os dônt i Loegr – neu i Gymru – byddant yn rhugl mewn dim o amser, a bydd eu plant cystal Saeson â Michael Portillo, Rageh Omar, Yasmin Alibhai-Brown, Libby Wiener, Priti Patel, Sadiq Khan, Laura Kuenssberg, Trevor McDonald, Matt Frei, Huw Edwards a Guto Harri. H.y. beth bynnag eu lliw, eu cefndir, eu crefydd, eu gwybodaeth o ieithoedd eraill, eu daliadau, byddant yn medru Saesneg cystal ag unrhyw ‘Sais cynhenid’ – os bu erioed y fath beth.  Adwaith afresymegol, afresymol, anwybodus i broblem nad yw’n broblem, dyna fydd yn rhoi’r fuddugoliaeth i ALLAN.

A yw hyn yn rheswm diymwad dros fotio I MEWN ? Meddai Thomas Becket yn y ddrama Lladd wrth yr Allor:

Mwyaf brad y demtasiwn ddiwaethaf,
Gwneud y peth gorau am y rheswm gwaethaf.

(Y gwreiddiol:

The last temptation is the greatest treason,
To do the right deed for the wrong reason.)

Nid oedd y Sant yn iawn. Fe ddigwydd fel arall weithiau. Bwriad Margaret Thatcher a Ronald Reagan oedd parhau’r Rhyfel Oer. Ond –  wps! – daethant ag ef i ben.

Wedi dweud hynny, mae mater y CYMHELLION yn cyfrif ym meddwl yr hen G.A., a hwyrach mai hyn fydd yn ei throi-hi.  Croeso i unrhyw un ohonoch anfon i mewn  yn dweud wrtho pa ffordd i fynd.

Advertisements

2 Ymateb to “Rhwng Boris a Kinnock”

  1. g Mehefin 6, 2016 at 11:02 am #

    Tactegol, ar bob cyfrif, GA. Effaith pleidleisio i aros i mewn fyddai gohirio ymhellach unrhyw refferendwm arall yn yr Alban, a chadw Cameron ac Osborne yn eu swyddi am flynyddoedd eto. Yr unig beth o werth y gallwn ni yng Nghymru wneud cyda’n pleidleiiau yw cynhyrfu ychydig ar y dyfroedd drwy fotio ALLAN, ond gan obeithio y bydd yr Alban a Chymru,rywdro yn y dyfodol, yn aelod-wladwriaethau cyflawn o’r Undeb Ewropeaidd. Os y canlyniad fydd BREXIT ac os cynhelir etholiad cyffredinol ar unwaith, byddai T^y’r Cyffredin yn newid yn llwyr,a phob math o bosibiliadau newydd yn codi.

  2. H Mehefin 6, 2016 at 10:54 pm #

    Beth am gofio am y cynilion a’r toriadau sydd wedi eu gwthio ar bobl Groeg, er mwyn achub busnesau mawr a’r banciau? Pwy sy’n gyfrifol am hynny – llywodraeth Groeg neu’r Undeb Ewropeaidd?

Gadael Ymateb

Rhowch eich manylion isod neu cliciwch ar eicon i fewngofnodi:

WordPress.com Logo

You are commenting using your WordPress.com account. Log Out / Newid )

Twitter picture

You are commenting using your Twitter account. Log Out / Newid )

Facebook photo

You are commenting using your Facebook account. Log Out / Newid )

Google+ photo

You are commenting using your Google+ account. Log Out / Newid )

Connecting to %s

%d bloggers like this: