Dal i bendroni

11 Meh

Dal i geisio penderfynu.   Ai gyda (a) ffans Lloegr?  ynteu (b) ieuenctid Cymru ?  GOLWG yn adrodd, ar ôl cyfarfod o ugain ar faes Eisteddfod yr Urdd, fod mwyafrif o ieuenctid Cymru o blaid aros i mewn.

Meddwl am rai o’r ystyriaethau hanesyddol, cyfansoddiadaol a chrefyddol.

Mae crefydd yn bwysig. Bydd hyn yn newydd i aelodau cabinet Gwynedd, sy’n meddwl fod crefydd yn iawn fel peth i chwarae ag ef am ddwy flynedd, a’i fwrw heibio wedyn.

O blith 29 aelod-wledydd presennol yr Undeb Ewropeaidd, PEDAIR a fu’n wladwriaethau seneddol, democrataidd, sefydlog drwy fy oes i.  Dwy frenhiniaeth Brotestannaidd (Prydain Fawr a Sweden), un weriniaeth Brotestannaidd (Y Ffindir) ac un weriniaeth Gatholig (Iwerddon).

Beth am weddill yr aelodau?  Goresgynwyd y rhain yn ystod yr Ail Ryfel Byd:   Un frenhiniaeth Brotestannaidd (Denmarc), tair brenhiniaeth Gatholig (Belg, yr Iseldiroedd, Luxembourg) a dwy weriniaeth Gatholig (Ffrainc, a Tseco-Slofacia, fel yr oedd bryd hynny – gwlad â mwyafrif Catholig, er mor bwysig fu Protestaniaeth yn ei hanes).

Gadawn allan Gyprus a Malta, a oedd dan Ymerodraeth Prydain.

Yn weddill y mae’r rhain, a oedd yn unbenaethau CYN eu goresgyn:   Yr Almaen, Yr Eidal, Sbaen, Portiwgal, Pwyl, Awstria, Rwmania, Hwngari, Bwlgaria, Albania, Groeg, Croatia, Slovenia, Estonia, Latvia.  Bu’r rhain oll yn wladwriaethau mwy neu lai ffasgaidd un ai o ddewis neu trwy fod carfan ffasgaidd wedi cipio grym o’u mewn. Roedd 11 o’r rhain yn weriniaethau, ac un ai’n Gatholig neu’n Uniongred o ran crefydd.  Moslemaidd yw mwyafrif Albania, a Phrotestannaidd oedd Estonia a Latvia.

Fe saif y ffaith: o blith aelodau presennol yr Undeb, UN weriniaeth Gatholig a fu’n ddemocratiaeth sefydlog drwy gydol fy oes i.  Iwerddon yw honno.

Mae’r Almaen Brotestannaidd, flaenaf yn yr holl anfadwaith, yn achos ar ei phen ei hun.  Achos arbennig hefyd yw Ffrainc, nad yw byth yn gyfforddus iawn â democratiaeth, ac y bu ei hadain dde Gatholig yn rhannol gyfrifol, os nad pennaf gyfrifol, am ei chwymp yn 1940.

Peth ofnadwy o ddienaid yw’r Undeb Ewropeaidd.  Ond fe’i sefydlwyd â chymhellion da, a llwyddodd hyd yma i gadw rhyw fath o wastrodaeth ar dueddiadau adweithiol, dinistriol y rhan fwyaf o boblogaethau Ewrop, sef pobloedd y gweriniaethau. Gwnaeth hynny drwy fod yn ddiwyneb, yn anatebol, yn Babaidd, a llywodraethu drwy gyfrwng rheoliadau ex cathedra.

Mae’n ymddangos i mi mai pobl ddiogel, gonfensiynol, gydymffurfiol sydd gryfaf dros yr Undeb yr wythnosau hyn. Pobl ‘y tu clytaf i’r clawdd’, a phobl ‘sentrig’ fel y byddaf yn eu galw. 13 o wyddonwyr blaenllaw mewn llythyr i’r Daily Telegraph heddiw.  ‘Ieuenctid Cymru’ yr wythnos ddiwethaf.

Ond efallai eu bod yn iawn …

Advertisements

Gadael Ymateb

Rhowch eich manylion isod neu cliciwch ar eicon i fewngofnodi:

WordPress.com Logo

You are commenting using your WordPress.com account. Log Out / Newid )

Twitter picture

You are commenting using your Twitter account. Log Out / Newid )

Facebook photo

You are commenting using your Facebook account. Log Out / Newid )

Google+ photo

You are commenting using your Google+ account. Log Out / Newid )

Connecting to %s

%d bloggers like this: