Wedi’r frwydr

13 Meh

Cwffio mawr yn Ffrainc. Gobeithio bydd Cymru’n cadw’n glir.  Fel y dylasai wneud yn 1914.

Golygfeydd heb fod yn hardd mae’n rhaid dweud.  Ond can mil gwaith hyllach, golygfeydd y Somme gan mlynedd i eleni.

Yr un fu cychwyniad y ddwy helynt. Hogiau ifainc isio ffeit. A llywodraethau’n rhy wan i’w hatal. Gweler Hen Lyfr Bach Lloyd George, tt. 30-2. Ond y tro hwn, diolch byth, lluchio cadeiriau, poteli a gwydrau mae’r ddwy ochr;  dim ond fel rhyw Bullingdon Club gwerinol. Does ganddyn nhw ddim reifflau, bidogau, gynnau mawr, nwy gwenwynig, tanciau nac awyrennau.  Does neb wedi ei orfodi i fod yno, nac wedi ei annog gan gewri’r pulpud na chan ferched y plu.

Yn hynny o beth mae Ewrop yn llawer, llawer gwell a challach lle heddiw nag ydoedd gan mlynedd yn ôl.

Nid yr Undeb Ewropeaidd a roes fod i’r gwelliant hwn. Ond bu’n fodd i’w gadarnhau. Heddiw, rwy’n tueddu at AROS.

*      *     *

Tipyn o gyferbynnu i’w glywed rhwng yr anhrefn ym Marseille a golygfeydd llawen dathliad pen blwydd y Frenhines yn Llundain. Trwpio’r Faner. Cyrnol Bogi gan y band, Ehediad y Saethau Cochion.  Neis iawn yntê. Lyfli. ‘Y pethau sy’n ein huno’. ‘Ystyr bod yn Brydeinwyr’. Peidiwch â dweud mai dathlu canrifoedd o drais y mae’r pethau hyn.

Eto i gyd, cofiwch yr hyn a ddywedais i echdoe am y gwahaniaeth rhwng breniniaethau a gweriniaethau yn Ewrop.  Brenhiniaeth sydd wedi gwneud democratiaeth a rhyddid sifil yn bosibl, a gwnaeth hyn drwy roi i bobl wirion rywbeth i fod yn wirion yn ei gylch. Sioe gwisg ffansi ddrudfawr yw brenhiniaeth, ac ym Mhrydain yn fwy nag unman, ond mae wedi rhwystro i’r symbolau a’r ddefodaeth –  pethau y teimla pob cymdeithas ryw angen amdanynt – gael eu meddiannu gan rymoedd llawer mwy sinistr.  Os na allwn ddeall hyn, ni wnawn gyfiawnder â’r hyn a gyflawnodd y Seneddwyr neu’r Piwritaniaid yn yr ail ganrif ar bymtheg. Sodro’r brenin yn ei le.  Ista’n fanna. Cau dy geg. Gei di ‘deyrnasu’ ond chei di ddim rheoli.  Hyd yma mae wedi gweithio’n o lew – sef y peth gorau y gallwn ei ddisgwyl mewn gwleidyddiaeth, – ac anodd gweld y byddem elwach o’i newid.

Advertisements

2 Ymateb to “Wedi’r frwydr”

  1. H Mehefin 14, 2016 at 11:40 pm #

    Dwi’n cofio i mi glywed pam fod un aelod seneddol Llafur o blaid y frenhiniaeth – gan ei fod wedi atal Arlywydd Thatcher.

    Un peth nad ydwyf wedi deall yw’r Cymry sy’n yn hoff o gefnogi pobl fel Owain Glyndwr, ond yn gyndyn yn erbyn teulu brenhinol Lloegr. Mewn unrhyw achos, edrych ar ol ei hun mae brenin neu frenhines – mater o flas personol, nid gwrthwynebu ar sail egwyddor.

    • glynadda Mehefin 15, 2016 at 9:48 am #

      Mae’r pwynt am ‘yr Arlywytdd Thatcher’ yn un hollol ddilys. Cofiaf hefyd rai’n rhybuddio rhag ‘yr Arlywydd Kinnock’ — pan oedd perygl o hynny. Mae brenhiniaeth yn fodd o wahaniaethu rhwng (a) y wladwriaeth a (b) y llywodraeth, ac mae hynny’n werthfawr o ran diogelu rhyddid. Unwaith eto cymharer record GO LEW y breniniaethau yn Ewrop â record AFFWYSOL y rhan fwyaf o’r gweriniaethau.

Gadael Ymateb

Rhowch eich manylion isod neu cliciwch ar eicon i fewngofnodi:

WordPress.com Logo

You are commenting using your WordPress.com account. Log Out / Newid )

Twitter picture

You are commenting using your Twitter account. Log Out / Newid )

Facebook photo

You are commenting using your Facebook account. Log Out / Newid )

Google+ photo

You are commenting using your Google+ account. Log Out / Newid )

Connecting to %s

%d bloggers like this: