Brecwast Brexit

24 Meh

Dyna ni wedi brecwesta yn sŵn y Brexit.  Cinio bach ysgafn heddiw er mwyn treulio popeth sydd wedi digwydd.

“Rydym yn ddwy genedl,” meddai rhai o’r sylwebyddion yn yr oriau mân, gan olygu Lloegr a’r Alban.  Trueni na bai Edward I wedi cydnabod hyn wyth ganrif yn ôl; ond dyna ni, cyfle i’r Alban eto.  Fel rwyf wedi dweud o’r blaen, dyn a ŵyr beth y mae’r Albanwyr yn ei weld yn y Gymuned Ewropeaidd, ond rhaid eu bod yn gweld rhywbeth.  Y peth mawr yw eu bod wedi datgan eu hannibyniaeth ar Brydeindod, fel y gwnaeth:

(a)   Gweddill bach bach y Gymru Gymraeg   —  er mewn cyfuniad eithafol od, â Chaerdydd, Bro Morgannwg a Sir Fynwy !

(b)   Er cryn syndod, Gogledd Iwerddon. I ble yn y byd mawr yr aiff hon rŵan ?

Heb unrhyw amheuaeth, “mewnfudo” oedd y ffactor.  Rwy’n rhoi dyfynodau am mai problem ddychmygol yw mewnfudo i Loegr; fel rwyf wedi dweud droeon fe ddaw mewnfudwyr o bob lliw, llun, crefydd a diwylliant i Loegr i fod yn Saeson, a Saeson a fyddant mewn dim o amser.  A Sgotiaid fydd mewnfudwyr i’r Alban; dyna pam nad yw cenedlaetholwyr yr Alban yn gweld problem yma.

Pam mae’r Sais cyffredin yn corddi cymaint am y mater hwn ?  Mewn tegwch ag Alf Garnett, a’i holl olynwyr a gafodd y fath noson neithiwr, credaf fod rhaid dweud hyn: nid casineb hiliol ydyw, ond rhywbeth gwahanol, sef teimlad gwaelodol y Sais o ragoroldeb.

Ar y llaw arall, ni ddaw mewnfudwyr (o ba le bynnag) i Gymru i fod yn Gymry. Ac oherwydd ei deimlad  gwaelodol yntau o israddoldeb  ni all y Cymro fynnu eu bod yn dod yn Gymry.   Dyma’r wir broblem fewnfudo, a diddorol IAWN oedd “Pawb â’i Farn” echnos.  O’r chwe phanelwr, pwy oedd YR UNIG UN a gydnabu fod mewnfudiad pobl hŷn o Loegr i Gymru yn broblem ?  Gethin James, cynrychiolydd UKIP. Gwir ei fod yn gosod y peth mewn cyd-destun UKIPaidd, sef fod mewnfudiad tramorwyr i Loegr yn gyrru Saeson i Gymru. Ond fe gyfeiriodd at y peth, yr hyn na feiddiai neb arall o’r panel ei wneud.  Yn wir, ychydig ddyddiau ynghynt roedd llefarydd ar ran Plaid Cymru wedi dweud nad oes yma broblem mewnfudo gan fod llai na 5% o boblogaeth Cymru wedi eu geni “tu allan i’r wlad yma”.

Cwpl o ganlyniadau eraill:

1.   Gall gwleidyddion Arfon yn awr boeni llai am y peilonau gan y bydd Brexit, rhwng un peth a’r llall, yn gwneud Wylfa B yn llai tebygol.  Da iawn bobl Môn.

2.   Clywsom neithiwr fod Washington yn poeni’n arw.  America’n colli ei phwdl yn Ewrop, a’r perygl i Trident os bydd yr Alban yn ymwahanu. (Ond na phoened y Pentagon, mae Carwyn wedi addo cartref i’r arf dieflig yng Nghymru, a Phlaid Cymru wedi rhoi trwydded i Carwyn am bum mlynedd arall.)

3.   O ran Ewrop yn gyffredinol ?  Refferenda mewn gwledydd eraill ?  Dymchweliad yr Undeb presennol, fel pob ymerodraeth erioed ? Ymaith â’r fiwrocratiaeth lethol ddienaid a’r miloedd parasitiaid sydd wedi byw arni? Cymry Brwsel yn dod adre i gadw swyddfeydd post yng nghefn gwlad Cymru ? Ailgyfansoddi Marchnad Gyffredin, ynghyd â fforwm lawer mwy agored a democrataidd rhwng y bobloedd ?  Nes at weledigaeth Ewropeaidd Leopold Kohr ac E. F. Schumacher ?

Fel y dywedais (5 Mehefin), gellir weithiau wneud y peth iawn am y rheswm anghywir.

2 Ymateb to “Brecwast Brexit”

  1. Marconatrix Mehefin 25, 2016 at 5:02 am #

    Diolch am eich eglurhad o´r bleidlais yng Nhgymru oedd yn weddol annealladwy i un o´r Alban. Truan o beth fod eich plaid genedlaethol mor aneffeithiol os ydi hynny´r broblem? Ond y Cymry yn teimlo eu bod ¨israddold¨? Mae´r un beth i´w weld yn yr Alban yn y litani blinadwy ¨tae puir, tae wee, tae stupit¨. Hen bryd i wneud diwedd i hynny am byth.

    Ond beth am Gymru druan rŵan? Os nad ydach chi ddim yn barod i droi yn saeson, bydd croeso i chi yn yr Alban Rydd sy´n siwr o fod ar y ffordd rŵan, sdim ond yr Hen Ogledd wedi´r cyfan🙂

    • dafis Mehefin 25, 2016 at 11:31 am #

      yn bersonol nid wyf yn arddel unryw deimlad o israddoldeb ond mae’n amlwg fod yna deimladau tebyg yn bodolu yn gryf drwy ein gwlad. Ar yr un llaw mae’r “obsession” ynglun a’r arianu o Lundain a Brussels yn dustiolaeth o ryw israddoldeb a fydd oes cyn cael ei gwaredu, ac ar y llaw arall ‘roedd y parodrwydd i arddel Brexit yn dustiolaeth o’r parodrwydd yng Nghymru i efelychu’r Sais ! Felly roedd y ddwy ochor o’r ddadl hon yn tueddu i adlewyrchu ein sefyllfa lle mae mwyafrif trigolion Cymru naill yn daeog i’r UE, neu yn daeog i’r Sais.

Gadael Ymateb

Rhowch eich manylion isod neu cliciwch ar eicon i fewngofnodi:

WordPress.com Logo

You are commenting using your WordPress.com account. Log Out / Newid )

Twitter picture

You are commenting using your Twitter account. Log Out / Newid )

Facebook photo

You are commenting using your Facebook account. Log Out / Newid )

Google+ photo

You are commenting using your Google+ account. Log Out / Newid )

Connecting to %s

%d bloggers like this: