950

1 Tach

tumblr_niym77wxzl1u9bqm1o1_1280

Pythefnos yn hwyr. Ddydd Gwener, 14 Hydref, y dylasai hwn ymddangos. Oherwydd y diwrnod hwnnw roedd hi’n 950 mlwydd oddi ar frwydr Hastings. Gwnaed tipyn o’r peth ar y diwrnod, ac yn wir fe honnwyd mai “dyma’r digwyddiad pwysicaf yn hanes y byd”.  Heb honni cymaint â hynny (yn y gystadleuaeth mae pethau eraill – dyfod a mynd y Rhew Mawr, ymlediad dynolryw o Ddwyrain Affrica, creu’r prif grefyddau …), fe ellir dweud un peth gyda sicrwydd go dda am y diwrnod hwnnw yn Hydref 1066: dyma ddiwrnod creu’r Sefydliad Prydeinig.  Cafodd yr Hen Saeson (neu’r Eingl-Sacsoniaid) feistr newydd, ac ildiasant iddo bron yn syth; daliodd yr hen Gymry eu tir yn ei erbyn am ddwy ganrif arall.

Mae’r Prydeinwyr (a defnyddio’r gair yn ei ystyr wleidyddol, “ystyr J.R. Jones”) yn rhai diguro am gofio a choffáu.  Rhoddant adnoddau di-ben-draw tuag at y gwaith, a phrin yw ysbeidiau heb ddim i’w nodi.  Detholiad llym yw’r pethau a gaiff eu coffáu, wrth reswm, a gosodir ar y rheini ddehongliad arbennig a ailadroddir ac a danlinellir yn gyson.

Ond efallai, eleni, ein bod yn coffáu brwydr Hastings mewn cyd-destun newydd, cyd-destun a all fod yn chwyldroadol.

Edrychwn arni fel hyn.

Pam mae gwledydd Llychlyn heddiw, ac wedi bod felly ers rhai cenedlaethau, yn wledydd heddychol, democrataidd, ac ynddynt gryn fesur o degwch a chydraddoldeb o’u mewn, a’u cyfraniad ar lwyfan y byd yn adeiladol drwodd a thro?  ATEB : fe gawsant wared â’u helfen hwliganllyd.

Beth ddaeth o’r Llychlynwyr ffyrnig hynny, y môr-fleiddiaid ysbeilgar a fu am rai cenedlaethau yn fwrn ac yn hunllef ar bob cymdeithas arall yn Ewrop ?   Ai pallu a wnaeth eu hegnïon ?  Rhan o’r gwir mae’n debyg, ond rhan arall o’r gwir yw fod yr egnïon hynny, o tua diwedd y nawfed ganrif, wedi eu crynhoi mewn carfan ohonynt a ymsefydlodd mewn rhan o Ogledd Ffrainc. Yn y fan honno troesant yn Ffrancwyr o ran iaith, a throesant yn Gristnogion o fath neilltuol o hunangyfiawn a chreulon a dialgar. Dyma’r Normaniaid. Wedi cadarnhau eu Dugiaeth yn Normandi, estynasant allan i ddau gyfeiriad. (a) Aeth cangen ohonynt i ynys Sicilia neu Sisili; hwy yw’r Maffia.  (b)  Aeth cangen arall i Loegr ar y diwrnod hwnnw; hwy yw’r Sefydliad Prydeinig.  Gwnaeth (a) gryn dipyn o ddrwg yn y byd; gwnaeth (b) lawer mwy.

Deallodd y brenhinoedd a’r arglwyddi Normanaidd o’r diwrnod cyntaf eu bod wedi cael troedle ar ynys, ac na byddai eu gafael a’u llywodraeth yn gadarn heb reoli’r ynys gyfan, – ac os oedd modd yn y byd, yr ynys nesaf ati hefyd. Yng Nghymru, tuag at ddiwedd y flwyddyn 1282, cawsant lwyddiant o’r diwedd – sut bynnag y dehonglwn ddigwyddiadau’r flwyddyn honno (ac efallai na bydd yr wybodaeth fyth gennym i’w dehongli’n gwbl foddhaol).  Yn Iwerddon, daeth gwrthdaro nad ydym eto wedi gweld ei derfynu. Yn yr Alban daeth rhai Normaniaid i ymgymysgu â’r bendefigaeth Sgotaidd (h.y. Gaeleg ei hiaith), ac o dipyn i beth i’w hystyried eu hunain yn Sgotiaid.  Dan arweiniad un o’r rhain, ar Faes y Ffrwd Fannog, 23-4 Mehefin 1314, enillwyd brwydr dyngedfennol yn erbyn byddin brenin Lloegr, canlyniad a barodd fod yr Alban o’r pryd hwnnw allan yn genedl o natur a chymeriad gwahanol i ni’r Cymry.

Ar adegau rhwng 1966 a heddiw gallai ymddangos fod cenedlaetholdeb y Cymry, gymaint ag ydoedd,  yn ddyfnach a gwytnach nag eiddo’r Albanwyr.  Ond o 1997 ymlaen dangosodd datganoli fod yr Alban ymhell ar y blaen o ran arweiniad a gallu i reoli, gyda’i thraddodiad o genedligrwydd sifig yn ymadnewyddu, gan arwain at ymgyrch annibyniaeth 2014 a’r braw mwyaf a gafodd y Sefydliad Prydeinig yn ystod ei holl hanes.  Nid rhyfedd fod CANU GRWNDI dros y ffôn y bore wedi’r canlyniad.  Ond byr y parhaodd y rhyddhad hwnnw. Daeth canlyniadau dau etholiad (San Steffan a Senedd yr Alban), ac yna’r refferendwm ar Ewrop.

Nid yw’r Sefydliad yn dymuno gweld Brexit, er mai anesmwyth fu ei berthynas â’r Gymuned Ewropeaidd drwy’r adeg.  Daliaf i gredu na bydd Brexit. Dyma felly ffenest fechan i genedlaetholwyr yr Alban, a rhaid mynd trwyddi. Anffodus ein bod wedi mynd i roi’r fath goel ar refferenda; fe ddylai  pleidlais Senedd yr Alban fod yn ddigon, yn enwedig gyda’r fath gynrychiolaeth yn San Steffan hefyd. Cân yr unoliaethwyr drwy’r blynyddoedd oedd, “Pan enillwch chi fwyafrif, fe gewch chi annibyniaeth”: trueni na ellid gweithredu ar yr egwyddor hon heb ragor o lol.

Y dydd y bydd Alban annibynnol, bydd y Sefydliad yn gwybod fod y gêm ar ben, – gêm naw canrif a hanner.  Amdani, Albanwyr !

Beth fydd rhan Cymru druan yn hyn oll, – neu beth na fydd?  Pwnc nad oes gennyf y galon i’w drafod heddiw.

Advertisements

Gadael Ymateb

Rhowch eich manylion isod neu cliciwch ar eicon i fewngofnodi:

WordPress.com Logo

You are commenting using your WordPress.com account. Log Out / Newid )

Twitter picture

You are commenting using your Twitter account. Log Out / Newid )

Facebook photo

You are commenting using your Facebook account. Log Out / Newid )

Google+ photo

You are commenting using your Google+ account. Log Out / Newid )

Connecting to %s

%d bloggers like this: