Calon y gwir

8 Rha

Er mwyn popeth darllenwch flog ardderchog Craig Murray heddiw. Mae’n ardderchog am ei fod yn dweud yn union beth y bûm i’n ei ddweud yma. Rhyngddo ef a’i farn am Kenneth Clarke ac am Brexit yn gyffredinol; ei amheuaeth o refferenda yw’r peth mawr.

O dipyn i beth y daethom ym Mhrydain i roi cymaint pwys a choel ar refferendwm. Rydym ni Gymry’n cofio’r hen bleidleisiau achlysurol ar gwestiwn agor tafarnau ar y Sul. Fel arall, nid oedd sôn am refferendwm tan yr un ar ymuno â’r Farchnad Gyffredin, 1975. Ym 1979 mae’n debyg y byddai llywodraeth Callaghan wedi derbyn mesur bach o ddatganoli i’r Alban a Chymru onibai i garfan o Aelodau Llafur Gogledd Lloegr fynnu refferenda. Mae Gŵyl Ddewi 1979 yn hunllef o hyd; ac yn 1997 bu ond y dim i’r ochr Na ennill eto, er nad oedd ganddi ymgyrch o gwbl. Offeryn adwaith yw refferendwm yn amlach na pheidio, a negyddol yw ei ganlyniadau. Mae’n mynd yn groes i’r egwyddor gynrychioliadol a fu’n brif ganllaw democratiaeth Prydain, sef bod y cynrychiolydd etholedig i ddilyn ei gydwybod unwaith yr etholir ef. (A siawns na fydd y Goruchaf Lys yn cofio’r egwyddor ganolog hon wrth roi ei ddyfarniad y dyddiau nesaf.)

Cymysg iawn, fel y gwelwn bellach, fu canlyniadau refferendwm 2014 yn yr Alban. Rhaid cydnabod hyn: fe greodd ddiddordeb mawr yng nghwestiwn annibyniaeth, fe wahoddodd bobl i feddwl, a hebddo mae’n debyg na byddai gan y Blaid Genedlaethol y gynrychiolaeth sydd ganddi heddiw yn San Steffan. Ei effaith negyddol yw peri meddwl yn gyffredinol na ellir dadwneud canlyniad refferendwm ond gan refferendwm arall: mae hyn yn gloffrwym difrifol ar yr SNP y dyddiau hyn.

Y ffordd i dorri’r cloffrwym yw’r hyn y dadleua Craig Murray drosto, fod holl gynrychiolwyr etholedig yr Alban yn Holyrood a San Steffan yn dod at ei gilydd fel cymanfa genedlaethol ac yn cyhoeddi annibyniaeth, gan ofyn i’r Cenhedloedd Unedig gydnabod hynny. Dyma, meddai Murray, yw’r ffordd arferol, safonol yn y byd.

Ers pedwar ugain mlynedd, dadl yr unoliaethwyr yng Nghymru a’r Alban fu: ‘fe gewch chi annibyniaeth pan gewch chi fwyafrif o’r seddau’. ‘Ballots not bombs’ meddai’r un bobl pan fu rhyw un glec fach yn Nhryweryn. Wel, mae wedi digwydd yn yr Alban, – hidiwch befo Cymru druan am y tro, ond mae yma ymhlygiadau aruthrol i ninnau.

Dylai’r SNP roi ystyriaeth ddwys i gyngor Craig Murray. Gadawer i’r OCHR ARALL – efallai dan arweiniad Ruth Davidson, anwylyd newydd gwasg adain-dde Llundain – ddechrau gweiddi am refferendwm.

Rwyf wedi dweud hyn o’r blaen, yma ac yma, ac mae a wnelo hefyd â cholli’r Ffydd Ffederal, – peth yr wyf wedi sôn amdano droeon. Pwyntiau da hefyd gan Joe Chucas, Blog Golwg 360, 5 Rhagfyr.

Advertisements

Gadael Ymateb

Rhowch eich manylion isod neu cliciwch ar eicon i fewngofnodi:

WordPress.com Logo

You are commenting using your WordPress.com account. Log Out / Newid )

Twitter picture

You are commenting using your Twitter account. Log Out / Newid )

Facebook photo

You are commenting using your Facebook account. Log Out / Newid )

Google+ photo

You are commenting using your Google+ account. Log Out / Newid )

Connecting to %s

%d bloggers like this: